7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Capasiti'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:39, 17 Hydref 2018

Mae'n bleser gallu cymryd rhan yn y ddadl yma ar gapasiti yn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, fel sydd wedi cael ei ddweud, mae'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan straen anferthol drwy'r flwyddyn. Yn fy mhractis i yn Abertawe, rydym ni'n cael ryw gwpwl o gannoedd o alwadau ffôn oddi wrth gleifion bob bore o'r wythnos, ac roedd yna un dydd Llun gwpwl o fisoedd yn ôl pan wnaethom ni gael 700 o alwadau ffôn. Wedyn, wrth gwrs, fel meddygon teulu a nyrsys ac ati, mae'n rhaid inni ddygymod efo'r baich gwaith yna, mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle y mae gyda ni brinder staff a hefyd brinder adnoddau i edrych ar ôl y bobl yma.