1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2018.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau yng Nghanol De Cymru? OAQ52836
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol, ar gyfer ymgynghori ddoe, 22 Hydref. Mae'r cynllun gweithredu atodol yn nodi'r camau gweithredu a flaenoriaethwyd sydd ar waith ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain, gan gynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a hygyrchedd.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna. Efallai y gwyddoch, yn rhan o adfywio Aberpennar, bod canolfan gymunedol yn cael ei datblygu, ac mae pobl ag anableddau wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod hi'n hanfodol bod cyfleusterau parcio i bobl anabl yn y ganolfan. Nid oedd hynny erioed ar gael yn y ganolfan ddydd, na man gollwng pobl. Rwy'n cymeradwyo cyngor Rhondda Cynon Taf am eu hymarfer ymgynghori. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr aelod cabinet arweiniol, y Cynghorydd Rhys Lewis, sydd wedi rhoi ateb defnyddiol iawn i mi nad oes cynlluniau terfynol wedi eu datblygu eto, ond bod ystyriaeth o fannau parcio i bobl anabl mor agos â phosibl at y ganolfan gymunedol wedi ei hamlygu fel ystyriaeth i'w blaenoriaethu. Felly, pan fyddwn yn gofyn i bobl anabl am eu safbwyntiau, dylem weithredu ar eu sail. Mae llawer o gynlluniau adfywio rhagorol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond dylai'r math hon o ystyriaeth fod yn ganolog iddynt.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r aelod. Dylai'n sicr fod yn rhan o'r ystyriaeth, ac un o'r pethau y mae'r fframwaith yn eu nodi, ymhlith llawer o rai eraill y tynnwyd ein sylw atynt gan bobl anabl eu hunain, yw'r angen i fynediad corfforol gael ei hwyluso. Hynny yw, ceir llawer o fathau eraill o fynediad. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r aelod. Gobeithiaf y bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd hynny i ystyriaeth. Mae llais y bobl anabl yn gwbl flaenllaw, a hynny'n briodol, yn y cynllun gweithredu newydd hwn, ac mae'n amlygu problemau o'r fath fel mater o'r pwys mwyaf.
Mae arweinydd yr ymgyrch i achub grant byw Cymru yn aelod o'r Blaid Lafur, sydd wedi llwyddo i gael cynnig i gynhadledd y Blaid Lafur i gefnogi cadw'r grant hwnnw. Serch hynny, mae eich Llywodraeth yn benderfynol o fwrw ymlaen â diddymu'r grant hwn, sy'n achubiaeth i'w dderbynwyr, o blaid trosglwyddo'r gronfa yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban, o dan yr SNP, yn cadw ei fersiwn o'r grant byw'n annibynnol. Yng ngeiriau'r ddeiseb ddiweddar ar y mater, hoffwn i ofyn i chi: pam mae pobl sy'n derbyn grant byw'n annibynnol Cymru yn cael eu trin fel testun arbrawf pan fo'u hanghenion gofal a chymorth uchel angen sefydlogrwydd a strwythur hirdymor?
Rwy'n anghytuno’n llwyr â safbwynt yr aelod ar hyn. Ar ôl i Lywodraeth y DU gau'r gronfa byw'n annibynnol, yn ôl yn 2015, cyflwynwyd grant byw'n annibynnol Cymru gennym ni gydag awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau taliadau ar yr un lefel i bobl a oedd yn derbyn y taliadau yn flaenorol, fel mesur dros dro tra bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i beth ddylai'r trefniad tymor hwy fod i gynorthwyo'r bobl hynny.
Ond rydych chi'n torri cyllid awdurdodau lleol.
Dim ond mesur tymor byr oedd hwn o'r cychwyn, ac mae'r grant wedi dod i ben ers hynny i gael ei ddisodli gan drefniadau eraill. Ar sail cyngor gan ein grŵp rhanddeiliaid, rydym ni'n cyflwyno cymorth yn y dyfodol trwy wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol dros gyfnod pontio o ddwy flynedd. Dechreuodd hyn o fis Ebrill y llynedd a diben hynny yw rhoi digon o amser i awdurdodau gytuno, gyda'r bobl sy'n cael eu heffeithio, y canlyniadau llesiant y maen nhw'n dymuno eu cael, y cymorth y mae'n ofynnol iddynt ei ddarparu yn y dyfodol, ac i ddarparu'r cymorth hwnnw. Nod ein dull yw sicrhau bod yr holl bobl anabl yng Nghymru, pa un a ydyn nhw'n derbyn taliadau o'r gronfa byw'n annibynnol ai peidio, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol yn y gymuned, ac rydym ni'n cadw golwg agos ar y cynnydd o ran gweithredu'r newidiadau hyn wrth iddyn nhw ddatblygu.
Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r methiannau cyfathrebu rhwng meddygfeydd teulu a gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd Cymru? Mae'r methiant hwn o ran cyfathrebu wedi golygu na all y gymuned pobl fyddar gael mynediad at ofal iechyd hanfodol oherwydd problemau gweinyddol yn y GIG yng Nghymru. Mae'n broblem ddifrifol iawn.
Mae gen i ofn nad wyf i'n gwybod. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r mater y mae'r Aelod yn ei godi. Efallai y byddai'n ddigon hael i ysgrifennu ataf gyda'r manylion a byddwn yn sicrhau ymateb.