1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd safleoedd hanesyddol yng Nghymru? OAQ52838
Mae safleoedd hanesyddol yn cyfrannu at gymeriad cymunedau ac yn haeddu ein cefnogaeth a'n gwarchodaeth. Rydym ni'n hynod falch o'r cyhoeddiad heddiw y bydd tirwedd llechi y gogledd yn cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU am arysgrifiad fel safle treftadaeth y byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy'n cael ei chlodfori, a hynny'n briodol.
Diolch. Yn 2007-8, ddegawd yn ôl, sefydlwyd cynllun lliniaru llifogydd dyffryn Conwy am gost o dros £7 miliwn i drethdalwyr. Nawr, er gwaethaf amgylchiadau arbennig rhestriad gradd I dwbl castell a gerddi castell Gwydir— yr unig erddi rhestredig gradd I yng Nghymru—canfu Gwydir ei fod wedi ei adael allan yn llwyr o'r cynllun hwnnw ac mae'n parhau i ddioddef problemau llifogydd cynyddol a niweidiol iawn. Byddai wal lifogydd barhaol yn costio dros £350,000 erbyn hyn. Felly, mae'r perchnogion, mewn anobaith llwyr, wedi troi at recriwtio gwirfoddolwyr yn ddiweddar i osod bagiau tywod yn yr ardal, ond wedi cael eu hysbysu bellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i hyn.
Mae Keith Ivens o Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud mai mater i Lywodraeth Cymru fyddai diogelu'r castell hwn fel safle treftadaeth, gan ei fod y tu allan i gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr te, arweinydd y tŷ, dywedodd y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Nawr te. Dywedodd y Prif Weinidog ym mis Ionawr y llynedd, mewn digwyddiad Cyswllt Carwyn yn Llanrwst, bod angen i ni ddod o hyd i ateb ar gyfer Gwydir, ac na ellir caniatáu i'r llifogydd hyn barhau. A pharhau y maen nhw. Mae'n dorcalonnus i feddwl faint mae'r teulu hwn wedi ei wario ar ddod â'r castell hwn a'i erddi yn ôl—coed 700 mlwydd oed yn boddi, oherwydd diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Cymru hon.
Nawr te, a allwch chi hysbysu felly pa gamau yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Yn amlwg, byddaf yn herio'r Prif Weinidog unwaith eto ar yr hyn y mae wedi ei wneud ers ei ddigwyddiad Cyswllt Carwyn—
Gofynnwch eich cwestiwn nawr, Janet Finch-Saunders.
Iawn. Sut ydych chi'n mynd i ddiogelu'r castell a gerddi hynod bwysig, hanesyddol, rhestredig gradd I dwbl, a sut ydych chi'n bwriadu bodloni'r enw da sydd gennych eich bod yn malio am ein treftadaeth hanesyddol ac yn ei gwerthfawrogi?
Fel mae'r Aelod yn gwybod eisoes, mae cyllid ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yng Nghymru ar gael gan raglen rheoli perygl llifogydd Llywodraeth Cymru. Fe'i cyfeirir at y cymunedau uchaf eu risg uchel yng Nghymru lle mae perygl i fywyd yn dal i fod yn flaenoriaeth. Hyd yn oed pe byddai'n bosibl dylunio cynllun llifogydd cost-fuddiol ar gyfer Gwydir, y prif fuddiolwyr o hyd fyddai seler wag a gerddi, ac er bod y nodweddion hynny o bwysigrwydd hanesyddol enfawr ac yn annwyl iawn i'r gymuned leol, nid yw'n bodloni'r meini prawf llym iawn ar gyfer cyllid.
Mae ffrwd ariannu Cadw ar gyfer atgyweiriadau i adeiladau hanesyddol yn canolbwyntio ar asedau cymunedol, ac felly ni fyddai cynllun lliniaru llifogydd ar gyfer Gwydir yn bodloni'r meini prawf. Ond mae'n werth nodi bod Cadw eisoes wedi darparu cymorth grant o dros £150,000 tuag at waith adfer ar gyfer y castell yn y gorffennol.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, bod hon yn enghraifft arall o Aelod Ceidwadol yn gofyn i ni wario llawer o arian ar rywbeth yr ydym ni i gyd yn ei werthfawrogi heb gymryd i ystyriaeth y toriadau i'n cyllideb gan ei Llywodraeth hi dros flynyddoedd lawer.
Arweinydd y tŷ, cyfarfûm yn ddiweddar â gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â diogelu a hyrwyddo ffwrneisi chwyth hen waith haearn Gadlys. Agorwyd y gwaith ym 1827 a disgrifir y ffwrneisi fel y rhai sydd o bosibl wedi eu cadw orau yn y DU, er gwaethaf y ffaith nad ydyn nhw wedi eu cydnabod i raddau helaeth yn lleol ac ymhellach i ffwrdd. Gallai'r prosiect hwn fod yn atyniad gwirioneddol o ran hyrwyddo treftadaeth ddiwydiannol Cwm Cynon a Chymru, yn wir. Sut gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod grwpiau lleol yn cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud y syniadau hyn yn llwyddiant ac i ddiogelu hanesion ein cymunedau?
Ie, mae'r aelod yn gwneud pwynt hynod bwysig. Rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd cenedlaethol safle hen waith haearn Gadlys. Yn wir, mae ganddo'r potensial i arddangos a gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o ddatblygiad y diwydiant haearn yma yng Nghymru. Mae swyddogion Cadw yn monitro cyflwr henebion cofrestredig yn rheolaidd ac yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i berchnogion a meddianwyr safleoedd a phartïon â buddiant. Rwy'n deall bod swyddog Cadw wedi ymweld ag olion o'r ffwrneisiau chwyth yn Gadlys ym mis Mehefin 2018 ac wedi llunio cynllun rheoli ar gyfer y safle. Copïwyd hwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy'n berchen ar ran o'r safle, ac yn wir mae amrywiaeth o gyfarfodydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol gyda pherchnogion a meddianwyr eraill, a bydd cyngor priodol ar gael yn ystod y cyfarfodydd hynny. Gwn fod yr Aelod wedi chwarae rhan weithredol yn hynny.
Cydnabyddir, gyda chaniatâd y perchennog, y gall grwpiau a gwirfoddolwyr lleol wneud cyfraniadau sylweddol at ddiogelu'r asedau treftadaeth ar safle'r gwaith haearn, ac y byddan nhw'n gwneud hynny. Mae Cadw yn darparu cyllid i gynorthwyo pedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymru i gynorthwyo grwpiau lleol sy'n dymuno archwilio, deall a hyrwyddo eu treftadaeth. Mae'r cofnodion amgylchedd hanesyddol a osodwyd ar sail statudol gan y Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddiweddar yn offerynnau gwerthfawr iawn i gefnogi'r gwaith hwn, ac rwy'n eu cymeradwyo i unrhyw un nad yw wedi cael y fraint wirioneddol o edrych drwyddynt, oherwydd maen nhw'n ddarn rhagorol o waith.