2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y diogelir hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru os bydd y DU yn gadael yr UE? OAQ52829
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i warantu na fydd gwladolion yr UE yn y DU yn colli eu hawliau, hyd yn oed mewn Brexit 'dim cytundeb'. Byddai creu amgylchedd gelyniaethus lle mae gwladolion yr UE yn penderfynu gadael yn niweidiol iawn i'n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n henw da yn rhyngwladol.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn gwybod cymaint yw pryder dinasyddion yr UE a'u teuluoedd yng Nghymru ac ar draws y rhanbarth. Mae dinasyddion mewn prifysgolion yn y rhanbarth a gynrychiolaf wedi mynegi eu pryderon wrthyf. A ydych wedi cael ymateb ffurfiol gan Lywodraeth San Steffan i'ch papur 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'? A pha sicrwydd pellach y gallwch ei roi i ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn? Mae'n hynod ofidus i deuluoedd sy'n teimlo nad oes croeso iddynt yn eu cartrefi mwyach, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol.
A gaf fi ategu'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud mewn perthynas â hynny? Mae'n hollol anfoddhaol ein bod yn gorfod cael y mathau hyn o drafodaethau, ac er ei fod yn anodd i ni, mae'n llawer iawn anos i'r dinasyddion unigol hynny y mae eu bywydau mewn limbo ar un ystyr oherwydd diffyg eglurder hirdymor ynglŷn â rhai o'r materion hyn.
Mae'r Llywodraeth wedi croesawu cytundeb cyfnod 1 ar hawliau dinasyddion yn y cytundeb ymadael drafft, a bydd yr Aelod yn gwybod fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r datganiad o fwriad ar anheddu yn yr UE ym mis Mehefin eleni, ac fe grybwyllodd bobl sy'n gweithio yn y sector addysg uwch—ym mis Hydref, cytunodd y Swyddfa Gartref i ymestyn cyfnod prawf beta preifat y cynllun anheddu i Gymru, i gynnwys sefydliadau addysg uwch, y sector gofal cymdeithasol a'r GIG.
Mae deialog parhaus wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun anheddu yn gyffredinol—. Mae gennym bryderon, ac rydym wedi'u mynegi'n gryf, mewn perthynas â'r posibilrwydd na fydd miloedd o bobl, o bosibl, yn gallu manteisio ar y cynllun hwnnw oherwydd eu bod yn agored i niwed, efallai, neu oherwydd eu bod yn grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd, ac annigonolrwydd y cyfathrebu mewn perthynas â hynny. Ond yn arbennig, o ran y cynllun peilot, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi gwneud sylwadau penodol wrth Lywodraeth y DU. Nid ydym yn fodlon mai i unigolion yn unig y mae'r cynllun yn agored ac nid i'w teuluoedd. Rydym yn credu bod hynny'n amharchus a hefyd yn tanseilio bywyd teuluol ac yn wir, efallai ei fod yn tanseilio bwriad y cynllun ei hun hyd yn oed. Rydym hefyd yn pryderu ynglŷn â diffyg mecanwaith apelio statudol, a mentraf ddweud bod yna bobl sy'n oedi rhag dod i gysylltiad â'r cynllun hwnnw hyd nes y cânt fwy o sicrwydd y bydd eu teuluoedd yn cael eu cynnwys ynddo ac y byddant yn gallu cael mynediad at broses apelio.
Felly, mae nifer o bwyntiau sy'n peri pryder y parhawn i'w dwyn i sylw Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fod hyn yn ymwneud, os caf ei roi felly, â'r cynlluniau uniongyrchol. Mae diffyg eglurder o hyd mewn perthynas â'r cynlluniau hirdymor ac rydym yn gwybod yn dda iawn yng Nghymru fod angen ymfudiad i Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi.
Rwyf eisiau codi sefyllfa dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw ym Mhrydain, sy'n briod â dinesydd Prydeinig, sydd â phlant Prydeinig, ac sy'n ofni y bydd yn rhaid iddynt adael y wlad, a gadael eu partner a'u plant ar eu holau. Nid yw'n gwestiwn academaidd, nid yw'n un sy'n seiliedig ar bosibilrwydd—mae'n gwestiwn gan un o fy etholwyr sy'n ofni canlyniad o'r fath. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r broblem hon a allai fod yn ddifrifol iawn i'r unigolyn dan sylw?
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn atodol hwnnw, ac mae'r mater y mae'n ei godi yn fater rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom, os nad pob un ohonom, wedi'i drafod yn ein cymorthfeydd, fel ein cymheiriaid, yr Aelodau Seneddol. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn i bob cymuned yng Nghymru.
O dan y cynllun anheddu, mae'r etholwr rydych newydd ddisgrifio ei amgylchiadau—. Bydd angen i ddinasyddion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd sydd, erbyn diwedd 2020, wedi bod yn byw yn y DU yn barhaus am bum mlynedd, wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Bydd pobl a fydd wedi cyrraedd erbyn hynny, ond na fydd wedi bod yn byw yma ers pum mlynedd, yn gallu ymgeisio am statws preswylydd cyn sefydlog, a fydd wedyn yn eu galluogi i fodloni'r trothwy pum mlynedd. Ac os oes ganddynt aelodau agos o'r teulu sy'n byw dramor ar y pwynt hwnnw, byddant yn gallu ymuno â dinasyddion yr UE ar ôl y dyddiad hwnnw lle'r oedd y berthynas yn bodoli ar y dyddiad hwnnw.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb cynhwysfawr iawn i Helen Mary Jones ac roeddwn yn cytuno â phob gair. Mae'n resyn nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi hawlio'r tir uchel moesol yn hyn o beth. Byddai wedi bod yn eithaf hawdd i Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun warantu hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio'n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig, ni waeth beth yw barn Comisiwn yr UE. Yn amlwg, maent eisiau trin pobl fel testunau bargeinio yn y broses negodi, a chredaf fod hynny'n gwbl anghywir. Ymladdodd UKIP yr etholiad cyffredinol diweddar, ac etholiad y Cynulliad yn wir, ar sail rhoi gwarant o'r fath i ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, a bydd fy mhlaid yn rhoi pob cymorth posibl i'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru wrth iddynt barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn.
Wel, efallai fod ei blaid ef wedi ymgyrchu ar y sail honno yn y ddau etholiad diwethaf, ond yn sicr ni wnaeth ymgyrchu ar sail cymdeithas agored a chynhwysol yn ystod refferendwm Brexit ei hun.
Cadwch at y cwestiwn.
Ac mae cryn dipyn o'r pryder a achoswyd ac a ddioddefwyd gan y bobl sy'n byw yn y DU a thramor yn deillio o'r mathau o sylwadau a dadleuon a gâi eu gwneud gan ei blaid yn ystod y refferendwm hwnnw.
Gwnsler Cyffredinol, mae'r cwestiynau wedi canolbwyntio llawer iawn ar ddinasyddion yr UE. Ddydd Llun, aeth aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i lysgenhadaeth Norwy, ac fe'n hatgoffwyd hefyd mai dinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd angen inni feddwl amdanynt. Felly, a gaf fi ofyn i chi sicrhau, pan fyddwch yn cael trafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn San Steffan, eich bod yn canolbwyntio ar ddinasyddion yr UE ac AEE mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yr AEE yn cael yr un amddiffyniad â dinasyddion yr UE o dan y cytundeb fel y'i deallwn. Rydym wedi talu sylw gofalus i'r drafftiau olynol o'r cytundeb ymadael, a byddwn yn parhau i gyflwyno sylwadau i ategu hynny.