– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 24 Hydref 2018.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Leanne Wood.
Un flwyddyn ar ôl sefydlu'r mudiad #MeToo, ac nid yw'r newid enfawr y gobeithiai llawer ohonom y byddai'n ei sbarduno wedi digwydd. Mae annog pobl i roi gwybod yn bwysig, ond yn rhy aml, pan wnânt, nid oes unrhyw beth yn digwydd. Nid yw gwasanaethau cymorth yr heddlu a chymorth i ddioddefwyr yn cael digon o gyllid, mae rhestrau aros ar gyfer cwnsela a chymorth arall yn annerbyniol o hir. Mae gweithdrefnau sefydliadau'n annigonol ac ni allant ymdrin â nodweddion penodol aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol. Yn aml nid oes lle i ystyried cwynion hanesyddol neu batrymau ymddygiad. Mae dioddefwyr yn amharod i rannu gwybodaeth, ac ni ellir gwarantu y caiff dioddefwyr aros yn ddienw, neu y cânt eu diogelu rhag erledigaeth. Nid oes gan bobl hyder yn ein systemau ac felly mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn mynd heb eu cofnodi.
Felly, rwy'n galw heddiw ar unrhyw un sydd â diddordeb mewn newid y modd yr awn i'r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol i gysylltu â mi i fod yn rhan o rwydwaith newydd. Anfonwch neges e-bost ataf fel y gallwn greu rhwydwaith ar gyfer darparu cymorth emosiynol, ymarferol a chyfreithiol, rhannu gwybodaeth ac ymgyrchu dros newid gwleidyddol.
I lawer o fenywod, y mudiad #MeToo oedd y tro cyntaf iddynt deimlo y gallent siarad yn agored am eu profiadau o aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, ac mae arnaf ofn, fel arweinwyr gwleidyddol ac fel cymdeithas, ein bod yn gwneud cam â hwy. Ni allwn ganiatáu i'w lleisiau gael eu hanwybyddu, ac ni allwn adael i'r alwad am gyfiawnder fynd heb ei hateb.
Am ymhell dros ganrif, mae pobl o Yemen wedi bod yn dod i'n gwlad i wneud Cymru'n gartref iddynt. Un ffaith nad yw'n hysbys iawn yw mai ar Stryd Glynrhondda yng Nghaerdydd yr adeiladwyd y mosg cyntaf ym Mhrydain. Daeth yr Yemeniaid yma fel morwyr i weithio ar gychod glo a hwyliai i borthladd Aden cyn dychwelyd i Gaerdydd a Chasnewydd. Roedd fy nhaid yn un o'r morwyr Yemenïaidd a wnaeth gartref yng Nghymru. Mae'r wlad a adawsant mewn cythrwfl bellach. Ers 2015, bu o dan ymosodiad gan ymgyrch filwrol filain a arweinir gan Saudi Arabia. Lladdwyd miloedd o sifiliaid, ac mae'r rhai na syrthiodd o dan y bomiau a'r bwledi bellach yn wynebu clefydau a newyn mawr. Ychydig iawn a wnaeth Llywodraeth Prydain heblaw gwerthu mwy o arfau i Saudi Arabia, ond fel Senedd Cymru mae angen inni sefyll dros gymunedau sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys y gymuned Yemenïaidd hirsefydlog. Rwyf wedi cyflwyno datganiad barn yn galw am gymorth iechyd meddwl a chymorth gan Lywodraeth Cymru i gymuned Yemenïaidd Cymru i helpu gyda'r frwydr go iawn, o wybod beth y mae aelodau'r teulu yn Yemen yn ei wynebu. Rwy'n gobeithio y gall pawb ohonoch lofnodi'r datganiad ac y gallwn weithredu'n gadarnhaol i ddatrys y trychineb hwn dan law dynion.