Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am y sesiwn briffio technegol gan eich swyddogion a gynigiwyd gennych y bore yma. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Mae'n adroddiad mawr, mae llawer iawn ynddo ac mae'n ddeunydd darllen diddorol, llawer ohono i'w groesawu, rhywfaint ohono yn peri pryder.
Roedd pedwar maes yn arbennig yn tynnu fy sylw o ran ystadegau pur a oedd yn peri pryder imi. Y cyntaf yw, dros y ddwy flynedd diwethaf, arhosodd dros 7,000 o bobl dros dair awr y tu allan i ysbyty yn disgwyl cael eu trosglwyddo i mewn i'r ysbyty, ac arhosodd dros 15,000 o bobl dros dair awr am ambiwlans ym mha le bynnag yr oeddent ar adeg y digwyddiad. Bu cynnydd yn yr oriau rhwng trosglwyddo a chlirio, sy'n amlwg yn faes y mae angen i ni edrych arno, ac, wrth gwrs, un maes sy'n peri pryder mawr yw'r cynnydd mewn achosion o salwch ymhlith staff ambiwlans a cheisio dirnad pam: Ai straen sy'n gyfrifol? Beth yw'r problemau yn y fan yma? O'r pedwar maes hynny eu hunain, mae dau yn dangos pryd nad ydym yn perfformio'n dda, ac mae dau yn dangos ble y gallai fod tagfeydd yn y system.
Mae'r adroddiad yn ei gyfanrwydd yn gwneud rhai argymhellion diddorol iawn, ond mae'n cyfeirio dro ar ôl tro at osod clinigwyr mewn lleoliadau megis ystafelloedd rheoli, cartrefi nyrsio, gwasanaethau heddlu fel ffordd o wella rheolaeth y gwasanaeth ac asesu'r sefyllfa. O ran gweithredu, pa mor sicr ydych chi bod gennych chi'r nifer angenrheidiol i osod y clinigwyr hynny yn y lleoliadau? A ydym ni'n ymwybodol o faint o swyddi y bydd eu hangen a ble y maen nhw? Oherwydd mae'n ddigon hawdd i'r adroddiad hwn ddweud, 'Gallwn ni wneud yn well o lawer petai gennym ni bobl yn y fan acw, yn y fan acw ac yn y fan acw'. ceir datganoli mawr o wasanaeth ambiwlans Cymru, a gallai hynny fod yn iawn—yn sicr nid wyf yn dadlau hynny—ond yr hyn sy'n peri pryder i mi yw ei bod yn hawdd dweud, 'Gadewch i ni roi'r clinigwyr hyn yn yr ystafell reoli'; 'Gadewch i ni roi mwy o bobl yn y fan yma, y fan acw ac ym mhob man', ond rydym ni'n gwybod bod staff yn brin. Felly, byddai diddordeb gennyf mewn cael gwybod beth yr ydych chi wedi ei wneud i asesu'r mater penodol hwnnw. Ac, unwaith eto, ynghylch lleihau amseroedd aros cleifion megis cleifion sy'n cael codwm heb ddioddef anaf—sy'n tueddu i fod ein poblogaeth hŷn—unwaith eto, mae hyn, yn gofyn am nyrsys ardal a gweithwyr gofal cymdeithasol. Felly, sut bydden nhw'n cael eu hymgorffori'n well yn llwybrau gofal yr unigolion hyn? Sut ydych chi'n bwriadu cynyddu'r capasiti hwnnw?
Rwyf yn croesawu'r cynlluniau pwrpasol gyda'r byrddau iechyd lleol, ond mae gweithredu'r cynlluniau hyn yn ddibynnol iawn ar y byrddau iechyd hynny. Fe wyddom ni fod gwasanaethau ambiwlans wedi cael buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yng nghyllideb eleni, ond er mwyn sbarduno newid, sut y byddwch, sut y bydd byrddau iechyd yn cael eu cefnogi i roi'r gwelliannau hyn ar waith? A fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw ddangos sut y byddant yn gwneud hynny yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, oherwydd os na fyddwch yn monitro hyn, gallai yn hawdd iawn fynd ar goll yn y gymysgfa?
O ran gwella'r gwasanaeth, ar y dechrau roeddem ni'n disgwyl i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi ym mis Medi, ac erbyn hyn mae'n wythnos gyntaf mis Tachwedd. Dywed un dyfyniad o'r adolygiad,
Er mwyn osgoi'r cyfuniad o ffactorau a welwyd yn ystod y gaeaf diwethaf, mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans a'r GIG ehangach sicrhau ei fod yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael a'u bod yn cynyddu eu heffeithlonrwydd er mwyn i gleifion o Gymru gael ymateb ambiwlansys o fewn amser priodol ac o'r safon uchaf.
Felly, sut mae byrddau iechyd lleol yn mynd i gael hyn yn barod i'w weithredu ar gyfer y gaeaf hwn a chyfnod y Nadolig? A oedden nhw'n gwybod am yr adolygiad hwn cyn i ni gael gwybod amdano yma yn y Cynulliad? A ydyn nhw wedi sefydlu cynlluniau cydnerthedd cyn y gaeaf?
Llywydd, mae gennyf i un cwestiwn arall. Yng nghefn yr adolygiad hwn ceir rhestr o gardiau protocol a ddefnyddir gan staff y ganolfan alwadau, ac yr oeddwn i'n synnu gweld nad oes cerdyn protocol ar gyfer sepsis. Fel y gwyddoch, mae sepsis yn lladd mwy o bobl bob blwyddyn na chanser y coluddyn, canser y brostad a chanser y fron gyda'i gilydd. A cheir dangosyddion allweddol. Fe wn i ei fod yn debyg i gameleon, ond mae arwyddion o oerfel a chryndod, dryswch a lleferydd aneglur, poen difrifol yn y cyhyrau, anadlu cyflym a thymheredd uchel iawn neu isel iawn yn ddangosyddion clir fod rhywun efallai'n dioddef o sepsis. Fe wyddwn os gallwn achub pobl yn gynnar, y bydd ganddyn nhw fwy o siawns o adferiad llwyr a llawn. Dim cerdyn protocol. A wnewch chi addo edrych os gwelwch yn dda ar hynny a gweld os byddai'n briodol i gynnwys cerdyn protocol a'i ychwanegu at y 19 o gardiau protocol eraill y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn gweithio yn unol â nhw ar hyn o bryd?