Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae pethau yn yr adroddiad sydd yn amlwg i'w croesawu, fel y mae Angela Burns wedi ei ddweud eisoes, ac yn eich datganiad chi. Fe fyddwn â diddordeb arbennig i weld sut y mae'r prosiect ymateb i godymau gydag Ambiwlans Sant Ioan yn datblygu, ac rwy'n gobeithio y dewch chi'n ôl atom i ddweud wrthym ni. Rwyf yn obeithiol iawn y bydd hwnnw'n cael rhai canlyniadau cadarnhaol.
Croesewir hefyd y buddsoddiad ariannol yr ydych yn sôn amdano yn eich datganiad. A wnewch chi gadarnhau i ni heddiw mai arian newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yw hwnnw? A wnewch chi hefyd, efallai nid heddiw—. Os mai arian newydd yw hwnnw, bydd yn amlwg wedi dod o ran arall o'r gyllideb iechyd ac fe fyddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn ysgrifennu at yr Aelodau i gadarnhau o ba ran o'r gyllideb gofal iechyd y mae'r arian newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans—os mai arian newydd yw hwnnw—wedi dod.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, ac rwyf yn ei chael hi'n anodd braidd i weld sut yn union y mae eich datganiad yn adlewyrchu'r argymhellion, ond fe fyddwn yn derbyn ei fod yn gwneud hynny i raddau, mewn ysbryd. Hoffwn dynnu eich sylw at un argymhelliad yn benodol lle mae'r adroddiad yn argymell rhaglen o ymgysylltu er mwyn sicrhau eglurder ynglŷn â swyddogaeth y gwasanaethau ambiwlans brys a sut mae galwadau yn cael eu blaenoriaethu a'u categoreiddio. A ydych chi'n derbyn yr argymhelliad penodol hwnnw ac, os felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa un a fydd y rhaglen hon o ymgysylltu yn cynnig cyfleoedd i ddatgan pryderon unwaith eto ynghylch ystod eang y galwadau sy'n cael eu cynnwys yn y categori oren? Dywed eich datganiad y dylai blaenoriaethu, fel y saif:
wella canlyniadau clinigol pobl sydd â chyflyrau megis strôc, clefyd y galon a thorri cluniau.
Ond a fyddech chi'n derbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y rhain yn gyflyrau gwahanol iawn mewn gwirionedd ac, i rai ohonyn nhw, maen nhw'n llawer mwy sensitif o ran amser nag eraill? Fe fyddwn i'n awgrymu, er enghraifft, bod cael strôc yn llawer mwy sensitif o ran amser, o safbwynt y canlyniad terfynol i'r claf, nag achosion o dorri asgwrn. Yn wir, mae'r adroddiad yn dangos bod y gwasanaeth yn fewnol yn defnyddio cod oren 1 a chod oren 2 mewn gwirionedd, yn ogystal â phrotocolau i flaenoriaethu yn seiliedig ar yr wybodaeth o'r hyn sy'n digwydd ar gyfer y claf. Ac mae hefyd yn nodi bod y berthynas rhwng amser a gofal wedi'i sefydlu ar gyfer nifer o gyflyrau, megis cnawdnychiant myocardaidd acíwt y galon a strôc. Felly, onid ydych chi'n derbyn bod hyn yn dangos bod amser mewn gwirionedd yn bwysig i gleifion a bod y categoreiddio mewnol hwn yn adlewyrchu hynny? A fyddech chi'n barod i ystyried, wrth i chi weithio gyda'r ymddiriedolaeth ambiwlans i symud hyn ymlaen, pa un a yw'n bryd edrych eto ar ffurfioli'r targed, yn enwedig ar gyfer y galwadau oren 1 hynny? Rwy'n deall yr amharodrwydd i roi gormod o bwysau ar y system gyda thargedau—ni fyddai neb ohonom yn dymuno gwneud hynny—ond pan fo'r galwadau hynny yn sensitif o ran amser i gleifion megis cleifion sydd wedi cael strôc, rwy'n synnu braidd eich bod yn amharod i o leiaf ystyried gosod targed.
O ran categoreiddio, mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd, weithiau, galwadau yn cael eu hystyried yn rhai oren i ddechrau ac wedyn yn cael eu huwchraddio i alwadau coch oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol yn dod ar gael. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y ceir adegau pan fydd y staff yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu gwyro oddi wrth y system oherwydd ei bod yn gaeth, a tybed a allech chi ailedrych ar hynny i weld a ddylai hi fod yn haws i staff ddefnyddio barn glinigol i symud galwadau i gategori uwch, i goch neu efallai o oren 2 i oren 1, os oes angen.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi unwaith eto ychydig yn fwy —? Fe wnaethoch chi ymateb i gwestiwn Angela Burns am y cyfraddau salwch a'r straen y gallwn dderbyn yn ôl pob tebyg sydd wrth wraidd y cyfraddau salwch hynny. Fe soniasoch chi yn eich ateb i Angela Burns y byddwch yn disgwyl i'r byrddau iechyd lleol a'r ymddiriedolaeth ambiwlans weithio ar hynny ac i weithio gyda'r undebau llafur ar y mater hwnnw. Ond a wnewch chi roi inni ychydig mwy o fanylion ynghylch beth yn union fydd cynnwys y gwaith hwn a beth fydd yr amserlen ar ei gyfer? Oherwydd fe wyddoch yn iawn, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, bod ein gwasanaethau iechyd a gofal—a'n gwasanaeth ambiwlans yn arbennig—yn dibynnu'n llwyr ar ein staff, ac, os oes cwestiwn ynglŷn â lles y staff, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn hoffi cael sicrwydd ynghylch sut yr ymdrinnir â'r cwestiynau hynny o ran eu lles.