Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch. Fe wnaf i ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. Mae'r her ynghylch ymdrin â lles staff yn amlwg yn bwysig, ac mae'n fater pwysig nawr. Felly, rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r gwaith ddechrau ar unwaith yn rhan o'r sgwrs rhwng cyflogwyr a'r undebau llafur. Ceir sgwrs barhaus a rheolaidd am les staff ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd gwladol, yn enwedig wrth i ni—yn dilyn y cytundeb cyflog tair blynedd—geisio lleihau lefelau salwch. Golyga hynny bod angen inni ddeall rhai o'r rhesymau pam mae staff yn mynd yn sâl. Nid yw'n ymwneud â rheoli pobl yn effeithiol yn unig; mae'n ymwneud â deall y pwysau sy'n bodoli. Rwyf wedi cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf amrywiaeth o fesurau i geisio cefnogi staff, gan fod y swydd hon yn un â phwysau arbennig. Felly, mae'n rhaid iddo ddod o'r hyn y mae ein staff, drwy eu hundebau llafur fel eu cynrychiolwyr etholedig, yn ei ddweud wrth gyflogwyr, ac i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n disgwyl cael adroddiad o fewn cyfnod o fisoedd ynghylch sut y mae hyn yn edrych o safbwynt y cyflogwyr. Bydd yn rhan o'r sgyrsiau rheolaidd yr wyf yn eu cael, nid yn unig gyda chadeirydd yr ymddiriedolaeth ambiwlans, ond hefyd gyda phrif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans a chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.
Mae hynny'n fy arwain yn ôl at eich pwynt ynghylch arian. Mae'r arian a gyhoeddwyd yn newydd ar gyfer ymddiriedolaeth y gwasanaeth ambiwlans. Ceir her ynghylch o ble y daw'r arian, oherwydd bydd rhywfaint yn dod o gronfa ganolog. Ond dylech chi gofio bod hwn yn wasanaeth a gomisiynir gan fyrddau iechyd. Mae'n fodel a gafodd ei sefydlu yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Siobhan McClelland, ac felly byrddau iechyd ddylai dalu am y gwasanaeth y maen nhw'n ei gomisiynu. Ni allan nhw ddisgwyl i'r gwasanaeth hwnnw ddarparu mesurau newydd ac ychwanegol heb edrych weithiau nid yn unig ar effeithlonrwydd y defnydd o adnoddau, ond faint sydd ohonynt hefyd. Cafwyd adegau yn y gorffennol pan wnaethom ni ymyrryd i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei ddarparu gan y byrddau iechyd. Fe fyddai'n well gennyf i beidio â gorfod gwneud hynny yn y dyfodol. Gallwn bob amser roi arian cyllideb i'r gwasanaeth. Weithiau mae hynny'n briodol i sicrhau ei fod yn digwydd yn gyflym, ond gan symud ymlaen gyda'r ystod o argymhellion, fe fyddwn i'n disgwyl i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan y system yn ei chyfanrwydd.
Ynghylch ymateb i godymau, y gwnaethoch ei grybwyll ar ddechrau eich datganiad, fe fyddwn i'n hapus i ddychwelyd at yr Aelodau i roi'r newyddion diweddaraf ar effaith y £140,000 a gyhoeddais ar gyfer y prosiect ar y cyd â Sant Ioan, ac am brosiectau ynghylch darparu clustogau codi ac effaith hynny. O ran eich pwynt ehangach ynghylch adolygu'r categorïau o gyflyrau clinigol, a pha un a ydyn nhw yn y targed cywir o goch, oren neu wyrdd, mewn rhai ffyrdd, mae hyn yn mynd yn ôl at y rheswm pam y mae gennym ni fodel ymateb clinigol newydd. Mae'n dal yn gymharol newydd. Oherwydd ein bod ni'n deall bod gennym ni darged 40 mlwydd oed, a oedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau, nad oedd mewn gwirionedd yn gwneud fawr o les i'r claf. Roedd yn anfon adnoddau i wahanol gyfeiriadau i geisio bodloni targed nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r canlyniadau. Dyna oedd yr unig fesur a oedd gennym ni yn y gwasanaeth ambiwlans. Rydym mewn sefyllfa well o lawer erbyn hyn gan fod gennym ni gategori galwadau coch priodol, pan fo amser yn gwneud gwahaniaeth, a thrwy gael mesurau ansawdd eraill sy'n cael eu cyhoeddi bob chwarter ar ansawdd y gofal a ddarperir. Ceir llawer mwy o graffu erbyn hyn ar yr hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud—a'r pethau da y mae'n ei wneud—nag a fu yn y gorffennol.
Gallwch weld fod hwn yn benderfyniad da nid yn unig oherwydd yr adolygiad annibynnol a wnaethom yn 2017, nac ychwaith oherwydd yr un yma, ond oherwydd bod y gwaith yr ydym wedi'i wneud yn cael ei ddilyn a'i ailadrodd yn UDA, Canada, Awstralia, Chile a thu hwnt yn rhyngwladol. Ac yma yn y DU, mae dull tebyg yn cael ei ddilyn yn Lloegr a'r Alban. Un o'r gwahaniaethau yw bod Lloegr wedi cyflwyno, heb dystiolaeth sydd wedi argyhoeddi'r adolygiad annibynnol yma, targed amser mewn rhai rhannau o'r hyn sydd gennym ni yn y categori oren. Mae'r Alban, fodd bynnag, wedi mabwysiadu'r union ddull o weithredu â ni sef dweud nad yw'n briodol i gyflwyno targed amser o fewn y categori oren. Er hynny rydym ni—fel yr ydym wedi ei weld yn yr adolygiad a'r briffio y cawsoch chi'r cyfle i fynd iddo heddiw—yn edrych ar y dull o weithredu llwybr cyfan ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys strôc, er enghraifft, pryd mae'r llwybr cyfan yn bwysig. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â phobl fel y Gymdeithas Strôc i ddeall yr hyn sy'n briodol i'w fesur i roi inni wir ddealltwriaeth o'r hyn y mae'r system gyfan yn ei wneud, yn ogystal â rhan y gwasanaeth ambiwlans yn hyn. Ond nid wyf yn bwriadu, ar sail adolygiad sydd wedi datgan yn glir na ddylem ni gyflwyno targed amser, serch hynny, fel rheidrwydd gwleidyddol, ceisio cyflwyno un. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd iawn i redeg y gwasanaeth. Rwy'n credu mai gweithredu'r argymhellion yn yr adolygiad hwn o ddifrif ac yn gyflym yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein staff a'r cyhoedd y maen nhw'n ei wasanaethu.