Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei groeso cyffredinol i'r datganiad ac am y pwyntiau a wnaeth. Rwy'n cofio gwylio'r gwrthdaro yn y Falklands, a dyna'r tro cyntaf yn ystod fy oes i a'm profiad o weld rhyfel yn digwydd yn y fath fodd. I lawer o'n plith a anwyd yng nghysgod yr ail ryfel byd, nid oeddem erioed wedi gweld gwrthdaro o'r fath, ac yna roedd ei weld yn digwydd a'i effaith ar bobl yn fy marn i yn rhywbeth sydd wedi effeithio ar lawer ohonom. Rwy'n cydnabod gwaith Steven Hughes ac yn ymuno â chi wrth dalu teyrnged iddo ef ac i eraill sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y cymorth i gyn-filwyr y gwrthdaro hwnnw a'r rhai a fu'n ymladd yn y Falklands i'w cynnal drwy eu bywydau, a'n bod ni hefyd yn cydnabod y bobl hynny na ddaethant adref o'r Falklands, a'n bod yn gwneud hynny yn rhan, nid yn unig o'n coffad blynyddol, ond yn y ffordd yr ydym yn dylunio ac yn cyflawni ymrwymiadau i'r cyfamod hefyd.
Cafwyd nifer o wahanol sgyrsiau dros y blynyddoedd ynghylch y ddarpariaeth breswyl. Y cyngor a gefais i yw nad oes angen am hynny ar hyn o bryd. Dyna rywbeth y mae gennyf feddwl hollol agored yn ei gylch. Nid wyf o'r farn nad oes angen hynny o gwbl. Ond y cyngor a gefais i yw, lle bo angen darpariaeth breswyl, y caiff ei gyflawni orau mewn rhai achosion gan y lluoedd arfog eu hunain ac mewn achosion eraill drwy'r ddarpariaeth bresennol. Nid oes achos wedi dod i law dros fuddsoddiad newydd yn y ddarpariaeth breswyl. Os gwneir yr achos hwnnw a phe bai pobl yn dymuno gwneud y cynnig hwnnw, yna byddwn yn hapus i'w ystyried, ond ar hyn o bryd nid wyf wedi cael cynnig o'r fath yn hyn o beth.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol y cyhoeddwyd y cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr y llynedd a bod hynny wedi cynyddu cyllideb a chapasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr. Cyfeiriodd yr Aelod at sefydliadau trydydd sector sawl gwaith yn ystod ei gyfraniad, a disgrifiodd y trydydd sector fel rhywbeth sydd, mewn rhai ffyrdd, yn llenwi'r bylchau. Mae fy marn i yn wahanol i'w farn ef ar hynny. Byddwn yn ystyried y trydydd sector yn rhan hanfodol o'r modd y darparwn wasanaethau—nid dim ond llenwi'r bylchau sydd gan eraill y mae, ond mae mewn gwirionedd yn darparu gwasanaethau ei hun. Rwy'n gobeithio bod ein perthynas gyda'r trydydd sector yn ddigon cadarn i'n galluogi ni i weithio'n adeiladol gyda phob sefydliad, beth bynnag fo'u statws cyfreithiol neu elusennol, i ddarparu'r gwasanaethau sy'n ofynnol. Yn sicr, caiff nifer o grwpiau a sefydliadau trydydd sector eu cynrychioli yn y grŵp arbenigol hwnnw yr ydym wedi ei sefydlu ac maen nhw â rhan lawn yn hynny.
Ar yr un pryd, byddwn yn dweud: cyfarfûm â Llywodraeth yr Alban bythefnos yn ôl i drafod y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwn, ac achubais ar y cyfle i drafod gwaith eu comisiynydd nhw. Mae dau reswm pam y rhoddais ystyriaeth ddifrifol i hyn ond penderfynu peidio â chefnogi penodiad swydd comisiynydd yng Nghymru. Yn gyntaf oll, roeddwn yn teimlo y byddai'n well i'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael, ar adeg o galedi, gael eu defnyddio i ariannu gwasanaethau rheng flaen, a'n bod mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn darpariaeth o wasanaethau i bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Cefais fy mhlesio'n fawr gan waith swyddogion cyswllt yr awdurdodau lleol, a chredaf fod honno'n ffordd dda o atgyfnerthu'r gwaith a gyflawnwyd eisoes.
Yr ail fater yw'r pwynt a wnaethoch yn eich cyfraniad chi—a oedd yn ymwneud ag atebolrwydd. I mi, ceir atebolrwydd yn y fan hon. Mae atebolrwydd democrataidd yn bwysicach i mi, ac mae'n bwysig i mi fod Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif yn y lle hwn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'u hymrwymiadau. Nid wyf o'r farn mai gwaith Llywodraeth yw creu strwythurau atebolrwydd. Dyna waith y Cynulliad Cenedlaethol— sicrhau a llunio atebolrwydd Llywodraeth i'r lle hwn. Credaf ei bod yn rhan bwysig o'n democratiaeth bod Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif gan Aelodau sydd wedi eu hethol ac sy'n atebol yn ddemocrataidd am yr ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud a'r gwasanaethau a ddarparwn. Felly, ceir barn ymarferol ac, o bosibl, egwyddorol yma dros beidio â bwrw ymlaen â'r mater penodol hwnnw.
Gofynnodd yr Aelod hefyd, Dirprwy Lywydd, am werthusiad gwahanol raglenni. Soniodd am raglen SToMP yn benodol. Bydd adroddiad blynyddol ar gael. Rydym yn trafod atebolrwydd—mae'n rhaid i atebolrwydd, wrth gwrs, fod yn atebolrwydd deallus hefyd. Bydd yr adroddiad blynyddol hwnnw, y byddwn yn ei gyhoeddi yn y gwanwyn, yn gyfle i'r Aelodau i'n dwyn ni i gyfrif am yr ymrwymiadau hynny, a bydd gwerthusiad o bob un o'n rhaglenni yn cael ei gynnwys hwnnw.
Y pwynt olaf a wnaed, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, oedd yr un am bremiymau a thaliadau disgyblion. Mae'r cyllid sydd ar gael i ysgolion ac i gefnogi pobl ifanc yn swm sylweddol o arian, ac mae'n cydnabod y ffordd y mae gwariant ysgol yn cael ei gyfeirio. Cafwyd sgwrs hir ddoe ym mwrdd y cyn-filwyr yn Llundain, a gwelwyd gwahaniaeth clir, os mynnwch chi, yn y modd y darperir cymorth yng ngwahanol wledydd y Deyrnas Unedig. Gobeithio nad wyf i'n gollwng y gath o'r cwd yn y fan hon, ond bydd y strategaeth, pan gaiff ei chyhoeddi'r wythnos nesaf, yn cynnwys rhai gweledigaethau clir iawn ac uchelgeisiau ac egwyddorion sydd yn cael eu rhannu gan bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Ond bydd hefyd yn cymryd y farn y bydd y ffordd y cyflwynir y dyheadau a'r gweledigaethau hyn yn wahanol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n cydnabod ein cyfrifoldebau datganoledig a'n gwahanol ffyrdd o weithio hefyd. Byddwn yn dweud ei bod yn bwysig bod gennym y gallu i wneud hynny, yn hytrach na dim ond dweud, 'Os yw rhywbeth yn cael ei wneud yn Lloegr, felly rhaid ei wneud yng Nghymru.' Byddaf yn adrodd ar lwyddiant, neu fel arall, ein cyllid ar gyfer cymorth mewn ysgolion yn y gwanwyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn debyg iawn o gael ei argyhoeddi bryd hynny mai dyma'r dull cywir o weithredu.