Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 6 Tachwedd 2018.
A allaf i hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac, yn wir, groesawu'r datganiad a'r holl waith clodwiw sydd yn mynd ymlaen yn y maes pwysig yma? Gwnaf i ddim crybwyll materion sydd eisoes wedi cael eu cofnodi, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ar y dechrau gydnabod gwaith clodwiw y Lleng Brydeinig dros nifer fawr o flynyddoedd, a hefyd yr holl elusennau eraill sy'n gweithredu yn y maes.
Bu fy nhaid yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf, ym mrwydr y Somme ac yn Ypres. Mi wnaeth o lwyddo i oroesi, ond dioddefodd anafiadau hirdymor—anafiadau na wnaeth byth mo'i adael o. Nid oedd fawr ddim cymorth ar gael ar y pryd i taid, a hefyd nid oedd pobl yn siarad am yr erchyllterau ychwaith. Mae pethau wedi newid erbyn rŵan, ac mae yna lawer mwy o gefnogaeth yn y maes. Ond o’m hanes hefyd fel meddyg teulu yn fy nghymuned i yn delio â chyn-filwyr yn enwedig, ond hefyd â chyn-aelodau o’r awyrlu, yn nhermau pan fydd pobl yn gadael y lluoedd arfog—mae hyn yn amser allweddol o bwysig ac mae’n amser anodd gythreulig yn aml, achos mae pobl sydd wedi bod yn byw bywyd yn y lluoedd arfog wedi bod mewn cymdeithas glòs, ddisgybledig, ac mae yna lot o bethau’n cael eu gwneud drostyn nhw, ac mae eu bywyd nhw’n rhedeg yn ddisgybledig iawn, iawn—mor wahanol i’r byd y tu allan, ac rydw i'n credu bod yna gryn dipyn o waith cefnogol y tu allan, ond eto, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gydnabod, mae yna fwy y gallem ni ei wneud.
Yn nhermau’r gwasanaethau iechyd, rwy’n clywed beth ydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r gefnogaeth sydd wedi bod i’r gwasanaeth iechyd, ond maes sy’n ein pryderu ni weithiau fel meddygon ydy’r ffaith nad ydym ni’n gallu cael gafael ym manylion iechyd y sawl sydd wedi bod yn y lluoedd arfog pan fyddan nhw’n dod allan atom ni ac yn dod yn aelodau cyffredin, fel petai, o’n cymdeithas ni unwaith eto. Nid oes gyda ni ddim manylion yn dod o beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, dros flynyddoedd a blynyddoedd mewn nifer o achosion—manylion perthnasol meddygol y dylem ni fod yn gwybod amdanyn nhw. Ac yn aml iawn, wrth gwrs, nid ydym ni fyth yn cael hyd i’r manylion yna. Felly, yn aml, mae yna her i’r gwasanaeth iechyd allu cael gafael yn y manylion yna ac i allu trin cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn briodol ar sail hanes meddygol, sydd yn aml yn anodd iawn i gael gafael ynddo fo. Dyna’r unig bwynt a’r unig fath o gwestiwn y buaswn i’n hoffi gofyn am eglurder gan yr Ysgrifennydd Cabinet arno fo, achos mae’n berthnasol iawn i’r ffordd yr ydym ni’n ymdrin allan fanna yn ein cymunedau â materion iechyd ac iechyd meddwl ein pobl sydd wedi bod yn gwasanaethu eu gwlad.
Ond rydw i yn croesawu’n fawr yr holl waith sydd yn cael ei wneud i gefnogi ein cyn-filwyr, ein cyn-forwyr a chyn-aelodau o’r awyrlu. Rydw i hefyd, mae’n rhaid imi ddweud wrth orffen—rwy'n ymwybodol o’r amser—yn gweddïo’n gyson na fydd rhaid i fy mhlant i na phlant fy mhlant fyth gael eu gorfodi i fynd i ryfel. Diolch yn fawr.