Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:32, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb, ac mae'n galonogol eich bod yn gwneud hyn fel prosiect parhaus, a hefyd yn cynnwys rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. Mae yna gynllun gan Lywodraeth y DU hefyd, lle maent yn cael cynghorau lleol yn Lloegr i lunio cofrestr o'r holl safleoedd tir llwyd sydd ar gael ganddynt—y syniad yw y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr wybod pa dir sydd ar gael. Gall y syniad gyd-fynd yn hawdd â'r hyn rydych yn ei wneud, fel rydych newydd egluro.

Ond mae cynghorau lleol, fel y gwyddom, braidd yn brin o arian yng Nghymru ac yn Lloegr. Felly, pe baem yn dilyn llwybr tebyg yma, mae'n debyg y byddai'n rhaid rhyddhau arian i gynghorau i ganiatáu iddynt lunio'r cofrestri tir llwyd hynny os mai hwy yw'r cyrff sy'n mynd i fod yn gwneud y gwaith o restru. Felly, pa ystyriaethau sydd gennych am y cynllun yn Lloegr, a sut y mae'n cyd-fynd gyda'ch cynlluniau yng Nghymru?