Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch i chi unwaith eto am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n fy atgoffa o'r gwaith rydym yn ei wneud ar ryddhau safleoedd segur. Felly, mae safleoedd segur yn cynnwys safleoedd tir llwyd yn benodol, a allai fod yn safleoedd tirlenwi, neu hap-safleoedd, er enghraifft, ac mae'r rheini'n hysbys i'r awdurdodau lleol. Mae ein cronfa safleoedd segur yn gronfa o £40 miliwn a fydd yn cael ei hailgylchu dros gyfnod y gronfa grantiau i gyflawni £160 miliwn o fuddsoddiad, a chaiff hynny ei lywio gan ymchwil a wnaed a ddangosai y gellid adeiladu tua 7,600 o gartrefi ar 400 o safleoedd yng Nghymru pe bai cyfle i ryddhau'r safleoedd hynny oherwydd maent yn segur am resymau megis bod y sylfeini neu'r seilwaith yn afresymol o ddrud. Felly, mae'r gronfa honno yno'n benodol i adeiladwyr bach a chanolig ei defnyddio er mwyn adeiladu ar leiniau o dir nad ydynt yn ddeniadol i adeiladwyr tai ar raddfa fawr, ond sy'n bwysig ar yr un pryd o ran defnyddio safleoedd a allai fod yn ddolur llygad, er enghraifft, o fewn cymunedau lleol.