Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae'n briodol ar yr adeg hon o'r flwyddyn inni gofio ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae eleni'n arbennig o arwyddocaol, gan ei bod yn ganmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf. Wrth gydnabod aberth y rhai a wasanaethodd yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel, hoffwn sôn am y rhai y mae'n rhy hawdd anghofio eu cyfraniad.
Cyfeiriaf at deyrngarwch ac arwriaeth y rhai a ddaeth o'r hyn a elwid wedyn yn Gymanwlad. Daethant o filoedd o filltiroedd i ffwrdd i ymladd dros wlad nad oeddent erioed wedi ei gweld. Daeth pobl o tua 80 o wledydd sy'n rhan o'r Gymanwlad yn awr i ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Daeth llawer o Awstralia, Seland Newydd a Chanada, a daeth llawer mwy o India, Pacistan, Bangladesh, Affrica ac India'r Gorllewin. Daeth miliwn a hanner o wirfoddolwyr o India yn unig, India fel roedd hi cyn y rhaniad, a gwasanaethodd 150,000 o filwyr ar ffrynt y gorllewin yn unig. Enillodd milwyr o is-gyfandir India 13,000 o fedalau, gan gynnwys 12 croes Victoria. Gwasanaethodd 15,000 o filwyr o India'r Gorllewin, ac ennill 81 o fedalau am ddewrder. Ymladdodd 55,000 o ddynion o Affrica dros Brydain, gan ennill 1,066 o fedalau. Yn y dyddiau hyn o ragfarn a gwahaniaethu cynyddol ar sail hil, mae'n weddus inni roi amser i fyfyrio ar y ffeithiau hyn.
Mewn mynwentydd ar draws y byd ceir beddau pobl o bob hil a ffydd, neu bobl heb ffydd, a ymladdodd ochr yn ochr i amddiffyn y rhyddid y mae pob un ohonom yn ei fwynhau, ac fe wnaethant aberthu eu bywydau. Mae arnom ddyled fawr i bob un a fu'n gwasanaethu, ac mae'r ddyled honno'n parhau heddiw oherwydd, yn anffodus, honiad ffug oedd ei bod hi'n rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Gwta 21 mlynedd yn ddiweddarach, aeth y byd wysg ei ben i ail ryfel byd, a nifer o ryfeloedd eraill ers hynny: y Falklands, Kuwait, Irac ac Affganistan, i enwi rhai'n unig.
Mae llawer o gyn-filwyr heddiw yn gorfod byw gyda chyflyrau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth. Awgryma ymchwil ddiweddar gan King's College Llundain y gallai rhyfeloedd yn Irac ac Affganistan fod wedi arwain at gynnydd yn y gyfradd o anhwylder straen wedi trawma ymhlith aelodau o'r lluoedd arfog fel y nododd fy nghyd-Aelod. Yn anffodus, mae o leiaf un aelod yn marw o'r broblem hon bob wythnos. Rhaid inni wneud rhywbeth, Weinidog, ac yn gynharach gofynnais i chi sôn rhywbeth am gyn-filwyr ac roedd eich ateb mor druenus fel fy mod yn dal i deimlo cywilydd ynglŷn â'r ateb a roesoch, gan na ddywedoch chi ddim o'u plaid.
Ac eto, mae cyn-filwyr yng Nghymru a'u teuluoedd wedi wynebu anghysonder o ran mynediad at ofal iechyd, gan ddibynnu ar y trydydd sector ac elusennau i ddarparu'r gwasanaethau arbenigol a'r gwasanaethau adsefydlu sydd eu hangen arnynt, er gwaethaf cyfamod y lluoedd arfog. Mae diffyg paratoi yn golygu bod cyn-filwyr yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth ddychwelyd at fywyd sifil yng Nghymru. Nid yw darparu taflenni ar gyfer cyn-filwyr yn gwneud y tro yn lle'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt i sicrhau mynediad at y ddarpariaeth dai. Mae'r un peth yn wir am fynediad at gyflogaeth. Mae gan lawer o gyn-filwyr sgiliau pwysig a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau yng Nghymru, ac eto dengys ymchwil gan fanc Barclays na fyddai hanner y cyflogwyr yn edrych yn ffafriol ar brofiad milwrol ar CV. Ni chafwyd unrhyw arwydd hyd yn hyn o lwybrau cyflogaeth Llywodraeth Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag anrhydeddu'r ddyled sydd arnom i'n lluoedd arfog, rhaid inni sicrhau bod y cyfamod yn cael ei weithredu'n effeithiol ar bob lefel. Dyna pam y gofynnaf i'r Prif Weinidog newydd, pan ddaw i'w swydd, adolygu'r penderfyniad i wrthod penodi comisiynydd y lluoedd arfog.
Ddirprwy Lywydd, ysgrifennodd yr awdur Indiaidd, Raghu Karnad, y geiriau hyn,
Mae pobl yn marw ddwy waith: daw'r farwolaeth gyntaf ar ddiwedd eu hoes... a daw'r ail ar ddiwedd y cof am eu bywydau, pan fydd pawb sy'n eu cofio wedi mynd.
Rhaid inni sicrhau bod ein lluoedd arfog, yn awr ac yn y dyfodol, yn parhau i gael eu cofio a'u gwerthfawrogi am byth yng Nghymru. Diolch.