1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ52934
Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud ei bod hi'n eithaf amwys ar hyn o bryd, ac yn eithaf aneglur o ran sut y gallai weithredu neu faint o arian a allai fod ar gael. Fe'i codais, yn sicr, yr wythnos diwethaf gyda David Lidington. Nid yw'n eglur sut y byddai'n gweithio, faint o arian fyddai ar gael nac, wrth gwrs, sut y byddai'n gweithio o ran asio â'r setliad datganoli. Yn syml, mae'n rhaid i ni aros i weld.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna, ac rwy'n ymwybodol bod cyfarfodydd cyn-ymgynghori wedi eu cynnal yng Nghymru, ac roedd y diweddaraf, rwy'n credu, ddydd Gwener diwethaf, gyda chynrychiolwyr y trydydd sector. Felly, nid wyf i'n gwybod a yw'r Prif Weinidog wedi cael unrhyw adborth o'r cyfarfodydd hynny, ond onid yw'n cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddyfodol polisi rhanbarthol, ac y dylai'r pwyslais fod ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb fel ffordd o wella ffyniant a chynhyrchiant?
Yn sicr, oherwydd mae hwnnw'n gyfrifoldeb datganoledig. Byddai'n gwbl amhriodol i gronfa ffyniant gyffredin gael ei gweinyddu'n llwyr o Whitehall, gan osgoi'r Llywodraeth a'r Cynulliad yn gyfan gwbl. Byddai hynny'n mynd yn groes i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud am gyfrifoldebau datganoledig mewn ffordd ddifrifol iawn.
Yn wir, roedd digwyddiad i randdeiliaid yng Nghaerdydd a gynhaliwyd ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos diwethaf ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin. Er tegwch, gwahoddwyd ein swyddogion y diwrnod cynt. Felly, ni chawsom lawer o rybudd bod y digwyddiad hwnnw'n cael ei gynnal, ond mae'n rhoi enghraifft i chi o'r dull anghydlynol sy'n cael ei fabwysiadu pan fydd Swyddfa Cymru yn trefnu rhywbeth, ddim yn dweud wrth neb, yn ymddangos i dorri ar draws cyfrifoldeb datganoledig er nad oes ganddi unrhyw bwerau ei hun, ac yna'r cwbl y mae hynny'n ei wneud yw drysu busnesau. Wel, rwy'n credu y byddai'n llawer gwell pe byddai Llywodraeth y DU yn fwy eglur ac yn dilyn y dull yr ydym ni wedi ei awgrymu, lle mae gennych chi gronfa sy'n adlewyrchu'n agos, i bob pwrpas, gweithrediad y cronfeydd Ewropeaidd presennol, ac, wrth gwrs, gyda'r hyblygrwydd mwyaf posibl—cyfres gyffredin o reolau, wrth gwrs, ond yr hyblygrwydd mwyaf posibl i'r Llywodraethau datganoledig.
Prif Weinidog, mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd yn gwneud pwynt da iawn pan ddywed y dylai polisi rhanbarthol yn y dyfodol gael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, gan y Cynulliad hwn—pwynt yr ydych chi wedi ei ategu eich hun. Er fy mod i'n sylweddoli bod manylion, nifer fawr o fanylion, am y gronfa ffyniant gyffredin i'w cytuno'n effeithiol o hyd, mae'n bwysig pan fydd y cyllid Ewropeaidd presennol yn dod i ben ac y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, pa bynnag ffurf derfynol y bydd honno'n ei chymryd, yn dechrau—mae'n bwysig ar yr adeg honno bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau i gael mynediad at y cyllid hwnnw. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod adrannau Llywodraeth Cymru ar draws portffolios yn addas i'w diben ac yn barod i fod ar flaen y ciw i gael mynediad at y gronfa ffyniant gyffredin honno cyn gynted ag y byddwn yn gadael yr UE? Oherwydd mae'n bwysig nad oes bwlch yn y cyllid.
Wel, mae'r strwythur yno, wrth gwrs. Rydym ni wedi cael blynyddoedd o ymdrin â chyllid Ewropeaidd. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac adrannau eraill wedi hen arfer ymdrin â'r math hwn o strwythur ariannu. Nid yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn syniad gwael ynddo'i hun. Faint o arian fydd ar gael a sut y caiff ei weinyddu sy'n peri pryder i ni. Mae'n aruthrol o bwysig, fel y mae'r Aelod ei hun, a bod yn deg, wedi dweud, bod hyn i bob pwrpas yn disodli'r cronfeydd Ewropeaidd o ran y swm gwirioneddol sydd ar gael ond bod cyfrifoldebau a hawliau'r Siambr hon a'r Llywodraeth yn cael eu hamddiffyn wrth i'r gronfa ffyniant gyffredin gael ei datblygu. Byddai'n well gennym fod yn rhan o'r sgwrs honno i wneud yn siŵr bod y gronfa yn gweithredu nid yn unig cyn belled ag mae Cymru yn y cwestiwn ond yn gweithio'n iawn ar draws y DU gyfan.
Wrth gwrs, mae gennym ni gwestiynau o hyd ynghylch y trefniadau presennol cyn symud ymlaen i'r gronfa ffyniant gyffredin, fel y'i gelwir. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o adroddiad y swyddfa archwilio ar effaith gwahaniad 'dim cytundeb' ar gyllid strwythurol a rhanbarthol fel y maen nhw ar hyn o bryd. Ar adeg cyhoeddi'r adroddiad ym mis Awst, nododd bod WEFO wedi mynd y tu hwnt i'w thargedau gwario yn nhri o'i phedair rhaglen weithredol ac wedi tanwario mewn un, sef gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Yn y lle cyntaf, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd i ni y bydd achosion o orwario yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU os bydd gwahaniad 'dim cytundeb', ac a all ef ddiweddaru'r Cynulliad ymhellach ar ba un a yw'r holl dargedau gwario ym mhob rhaglen weithredol yn cael eu bodloni nawr neu a oes mwy na hynny'n cael ei wario?
Mae'n anarferol iawn i raglenni gwario wario 100 y cant o'r arian mewn unrhyw flwyddyn ariannol, gan fod rhai prosiectau yn cael eu cadw drosodd ar gyfer y flwyddyn ariannol arall. Ni allaf gynnig cysur iddo o ran sut y gellid ymdrin ag achosion o orwario; nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw gysur i ni ynghylch hynny nac unrhyw fater arall yn ymwneud â chyllid Ewropeaidd ar ôl 2022. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn hynod gostus. Gallwn geisio lliniaru rhagddo, ond y gwir amdani yw na allwn atal y drychineb economaidd a fyddai'n digwydd pe byddai Brexit 'dim cytundeb', a dyna pam yr wyf yn gobeithio bod cytundeb boddhaol ar y bwrdd. Rydym ni'n aros i weld. Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sydd o'r farn ar hyn o bryd bod Brexit 'dim cytundeb' yn ddim problem yn dod at eu coed pan fydd y cytundeb hwnnw'n cael ei ystyried yn Senedd y DU.