– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, felly, i wneud y cynigion. Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6858 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2018.
Cynnig NDM6859 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Mae'r ddwy eitem sy'n cael eu gosod gerbron y Cynulliad heddiw yn rhan o'r gyfres reoleiddio sy'n gwneud systemau draenio cynaliadwy, neu SUDS, yn ofyniad gorfodol ar ddatblygiadau newydd o ddechrau'r flwyddyn nesaf. Cyflwynwyd y ddau offeryn hyn o dan bwerau sydd yn Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae nifer o sefydliadau allanol wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu'r polisi hwn, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cynrychiolwyr hynny o awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, cwmnïau dŵr a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Deddf 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu corff cymeradwyo SUDS neu SAB i gael ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol ochr yn ochr â'u dyletswyddau awdurdod llifogydd lleol arweiniol. Bydd angen cymeradwyaeth SAB cyn y gellir dechrau adeiladu systemau draenio ar safleoedd newydd a safleoedd ailddatblygu. Mae'r Gorchymyn gorfodi draenio cynaliadwy yn darparu ar gyfer gorfodi toriad yn y gymeradwyaeth sy'n ofynnol yn gysylltiedig â systemau draenio. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer SAB neu awdurdod cynllunio lleol i arfer pwerau mynediad a chyflwyno hysbysiadau gorfodi neu hysbysiadau stop i ddatblygwr sy'n torri'r gofyniad am gymeradwyaeth. Yn yr un modd, mae'n nodi manylion gorfodi ar gyfer y methiant i gydymffurfio â hysbysiadau o'r fath. Mae hefyd yn darparu ar gyfer hawliau datblygwyr i gael iawndal a'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau gorfodi i Weinidogion Cymru, a fydd, yn ymarferol, trwy'r Arolygiaeth Gynllunio.
I ategu'r Gorchymyn, mae'r rheoliadau apeliadau draenio cynaliadwy yn darparu ar gyfer hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad SAB yn gysylltiedig â cheisiadau am gymeradwyaeth neu o ran y ddyletswydd i fabwysiadu SUDS ar ôl adeiladu. Mae'r rheoliadau yn nodi manylion hawl datblygwyr i apelio yn erbyn penderfyniadau cymeradwyo a mabwysiadu SAB, pennu gweithdrefnau SAB ar gyfer apeliadau a'u penderfyniad, a'r pŵer i Weinidogion Cymru gadarnhau neu amnewid penderfyniad a wnaed gan y SAB.
Yn fy natganiad ar 16 Hydref yn ymateb i storm Callum, pwysleisiais bwysigrwydd addasu i'n hinsawdd heriol sy'n newid yng nghyd-destun rheoli perygl llifogydd. Mae profiad o lifogydd yn dangos pa mor gyflym y gall ein seilwaith gael ei drechu gan law trwm. Mae mandadu'r defnydd o SUDS effeithiol yn ffurfio rhan o'r ymateb i'r heriau hyn, ac mae gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn hollbwysig i sicrhau dichonoldeb hirdymor ac i addasu i heriau newid yn yr hinsawdd.
Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r Gorchymyn hwn a'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Nid oes dim siaradwr yn y ddadl ar y ddwy eitem yma. Felly, rwy'n cymryd nad yw'r Gweinidog eisiau ymateb i'r ddadl—na. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir y cynnig o dan eitem 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn sy'n weddill, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.