1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.
Diolch, Lywydd. Neithiwr, wrth gwrs, datgelwyd bod y DU a'r UE wedi cytuno ar y testun drafft ar gyfer gwahaniad y DU oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r dadlau gwleidyddol yn sgil hynny eisoes wedi cychwyn. Rwy'n amau fy mod yn gwybod beth yw'r ateb i'r cwestiwn agoriadol, ond ar gyfer y cofnod, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi gweld y testun drafft ai peidio? Ac a yw Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru wedi cael trafodaeth ynglŷn â chynnwys y testun drafft hwnnw, naill ai dros nos neu heddiw?
Lywydd, nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban wedi gweld manylion y testun ymlaen llaw hyd yn hyn. Roeddwn yn Llundain ddoe ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau’r UE a gallais drafod cynnwys y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, ac yn wir, y ddogfen esboniadol a fydd yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â hynny, gyda Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a chyda Gweinidogion yr Alban hefyd. Deallaf y bydd Prif Weinidog Cymru'n siarad gyda Phrif Weinidog y DU y prynhawn yma.
Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, unwaith eto, mae'n siomedig fod yr agenda barch honedig, un y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ei fod yn gobeithio y byddai'n dechrau o ganlyniad i gytundeb rhwng ei Lywodraeth ef a Llywodraeth y DU ar y Bil ymadael, ac un a fyddai'n arwain at newid agweddau a mân siarad tuag at drafodaethau gyda gweinyddiaethau datganoledig—. Ac unwaith eto, ymddengys bod Cymru'n cael ei thrin gyda'r un hen ddirmyg. Mae'n debyg fod adroddiadau i'w cael fod Llywodraeth Gibraltar wedi cael gweld y testun. Tybed a all gadarnhau a yw hynny'n wir, ac a yw'n credu ei bod hi'n dderbyniol fod un Lywodraeth, nad yw hyd yn oed yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn cael gweld y testun drafft pan nad yw llywodraethau o fewn y DU yn cael gwneud hynny.
Rwy'n derbyn ei bod hi'n anodd iawn bod yn benodol heb y manylion, ond un o'r sibrydion sy'n deillio o'r testun drafft hyd yn hyn yw y bydd Gogledd Iwerddon, o dan y testun drafft, yn parhau, i bob pwrpas, i fod yn rhan o farchnad sengl yr UE ar gyfer nwyddau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai hynny'n rhoi mantais gystadleuol annheg i Ogledd Iwerddon, drwy wneud Cymru'n llai deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi? Ac os felly, onid yw hynny'n ddigon o sail i Lywodraeth Cymru wrthwynebu'r cytundeb ymadael drafft?
Wel, Lywydd, fel y dywedodd Steffan Lewis, rwyf eto i weld y cytundeb ymadael drafft neu'r datganiad gwleidyddol. Ni chredaf ei bod yn synhwyrol i mi ddyfalu ynghylch agweddau a allai fod yn rhan ohono neu fel arall pan fyddwn yn cael ei weld, ac mae arnaf ofn nad oes gennyf unrhyw wybodaeth a yw Llywodraeth Gibraltar wedi cael mwy o gipolwg ar gynnwys y dogfennau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i a Mike Russell, ar ran Llywodraeth yr Alban, wedi codi'r pwynt cyntaf a wnaeth yn gadarn gyda Gweinidogion y DU ddoe: dylai llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig weld y dogfennau hyn cyn iddynt gael eu cwblhau a'u trafod ar lefel Cabinet y DU, nid ar ôl hynny.
Rwy'n derbyn, unwaith eto, fod y diffyg manylion yn gwneud pethau'n anodd, ond mae gennym arwydd clir o sawl agwedd, ac wrth gwrs, rydym yn gallu defnyddio safbwynt Llywodraeth Cymru ei hun yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a'i gyferbynnu a'i gymharu â'r hyn a wyddom o'r testun drafft fel y mae pethau. Gwyddom na fydd Cymru'n cymryd rhan lawn yn y farchnad sengl, gwyddom na fyddwn yn parhau i fod yn aelodau o undeb tollau'r UE, a gwyddom y bydd Gogledd Iwerddon, mae'n ymddangos, yn parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl i bob pwrpas a'i bod yn debygol felly y bydd ffin dollau newydd yn ymddangos ym Môr Iwerddon, gyda chanlyniadau gwael i Gymru. Ac yn ychwanegol at hyn oll—y manylion a'r canlyniadau gwirioneddol ar lawr gwlad—yn wleidyddol, nid oes unrhyw un eisiau'r fargen hon. Nid oes unrhyw un a oedd o blaid aros eisiau'r fargen hon ac nid oes unrhyw un a oedd o blaid gadael eisiau'r fargen hon; nid oes unrhyw un eisiau'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ôl pob golwg. Nid oes mandad gan unrhyw le nac unrhyw un ar gyfer Brexit o'r math hwn.
Mae'r cyd-destun gwleidyddol yma yng Nghymru, wrth gwrs, yn bwysig iawn. Mae'n bur debyg mai Ysgrifennydd y Cabinet, yn yr ychydig wythnosau nesaf, fydd gwleidydd etholedig Llafur uchaf ei safle yn y Deyrnas Unedig. Mae'r hyn y mae'n ei gredu a'r hyn y mae'n ei ddweud a'i eglurder ar y mater hwn yn bwysig tu hwnt a bydd i hynny ganlyniadau parhaol. Felly, a all ddweud wrthym a yw ei safbwynt ei hun yn newid ar y mater hwn ai peidio? A fydd yn dweud o'r diwedd mai'r unig ffordd o ddatrys y llanast hwn ac osgoi llanast mwy a thrychineb yw drwy refferendwm y bobl? Dim mwy o etholiadau cyffredinol dibwrpas, dim mwy o ailadrodd safbwyntiau seneddol amhosibl, ond pleidlais y bobl i ddatrys hyn ac osgoi trychineb.
Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Steffan Lewis o ran y pwynt cyntaf a wnaeth—mai'r hyn y byddwn yn ei ddefnyddio i brofi'r cytundeb hwn yw'r profion a nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Nawr, nid yw wedi gweld y cytundeb ac nid wyf innau wedi ei weld ychwaith, ond mae'n dymuno dod i gasgliadau heb ei weld. Nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny, ond mae'r profion a amlinellodd—boed yn ymwneud â pharhau i gymryd rhan mewn undeb tollau, boed yn fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, boed yn cynnwys penderfyniad synhwyrol ar ymfudo—yr holl brofion a nodwyd gennym yn y ddogfen honno yw'r profion y byddaf yn eu cymhwyso pan fyddwn yn gweld y cytundeb ei hun. Mae wedi dod i rai casgliadau ynglŷn â beth fyddai canlyniad hynny, a mentraf ddweud y bydd rhai pobl o'r farn nad yw ei gasgliadau yn rhai afresymol, ond rwyf am aros hyd nes y gwelaf y ddogfen, ac yna byddaf yn cymhwyso'r profion y cytunasom ar y cyd y dylid eu cymhwyso ar gyfer unrhyw fodd o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Yr hyn nad wyf yn cytuno ag ef yn ei gylch yw mai un ffordd yn unig sydd o ddatrys hyn oll. Y ffordd gyntaf y gellid ei ddatrys yw pe bai Prif Weinidog y DU yn sicrhau bargen sy'n bodloni'r profion a nodwyd gennym ar ei chyfer—roedd bargen o'r fath ar gael i'w gwneud; dyna pam y nodwyd hynny gennym yn ein dogfen. Os bydd y cytundeb, pan fyddwn yn ei weld, yn bodloni'r profion a osodwyd gennym, heb amheuaeth byddwn yn awyddus i'w gefnogi, felly gellid ei ddatrys yn y ffordd honno.
Os nad yw Prif Weinidog y DU yn sicrhau bargen o'r fath, ac os nad yw'n llwyddo i sicrhau cefnogaeth i'w bargen ar lawr Tŷ'r Cyffredin, yna wrth gwrs, dylid cynnal etholiad cyffredinol. Bydd Tŷ'r Cyffredin wedi methu cyflawni ei gyfrifoldeb pwysicaf yn ystod tymor y Cynulliad hwn—maddeuwch imi, yn ystod y tymor seneddol hwn. Mewn unrhyw amgylchiadau blaenorol, byddai Llywodraeth sydd wedi methu sicrhau cefnogaeth i'w cham gweithredu pwysicaf yn mynd yn ôl at y wlad ac yn caniatáu i'r wlad benderfynu mewn etholiad cyffredinol. Nawr, bydd yr Aelod yn dweud, ac rwyf wedi clywed pobl eraill yn dweud, na fydd hynny'n digwydd. Wel, ni ellir diystyru unrhyw beth o'r sgript, o ystyried cyflwr twymynol gwleidyddiaeth mewn perthynas â'r mater hwn.
Os na cheir etholiad cyffredinol, rwy'n cytunaf ag ef: dylid cynnal pleidlais y bobl. Os na all Tŷ'r Cyffredin ddatrys hyn ac os na cheir etholiad cyffredinol, mae'n rhaid dod o hyd i drydedd ffordd. Ac yn yr amgylchiadau hynny, rwy'n cytuno ag ef: mae'n rhaid mynd yn ôl at y bobl ac mae'n rhaid caniatáu i'r bobl benderfynu.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â'r arian sydd ar gael i'r portffolio llywodraeth leol a thrwy hynny i'n hawdurdodau lleol. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn llai na bodlon gyda'r setliad llywodraeth leol eleni, gan nodi gwerth £262 miliwn o bwysau cyllidebol. Yn y cyfamser, mae'r Prif Weinidog wedi honni y bydd llywodraeth leol ar flaen y ciw pe bai arian ychwanegol ar gael o gyllideb Llywodraeth y DU ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y bydd llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol pe bai'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gael. Gan fod Llywodraeth y DU yn darparu oddeutu £550 miliwn o gyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, faint o'r swm hwn fydd yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol Cymru?
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwybod yn iawn, pan fo'n dyfynnu'r ffigur hwnnw o £550 miliwn, nad yw'r arian hwnnw'n arian am ddim, nad yw'n arian sydd ar gael i'w ddyrannu—rhag-gyhoeddwyd £365 miliwn ohono yn ôl ym mis Gorffennaf eleni, a bellach, o'r £365 miliwn hwnnw, ymddengys bod Gweinidogion y DU wedi gwario dros ei hanner cyn i'r un geiniog groesi'r ffin i'w ddyrannu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n ystyried yr hyn sy'n weddill o'r symiau canlyniadol o'r gyllideb yn ofalus iawn—symiau canlyniadol y mae'n rhaid iddynt bara am dros dair blynedd, symiau canlyniadol sy'n cynnwys cyfalaf, cyfalaf ariannol ac elfennau refeniw. Felly, nid yw'r holl arian hwn yn arian a fydd yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau y maent, yn gwbl briodol, yn dweud wrthym amdano.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, fel y dywedodd Nick Ramsay, fod llywodraeth leol ar flaen y ciw. Ceir cliw yn y fformiwla honno: maent ar flaen y ciw, ond mae ciw i'w gael. Mae llawer o bethau eraill y gwyddom yr hoffem eu gwneud mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth inni gychwyn ar nawfed blwyddyn o gyni. Heb os, bydd Aelodau ei blaid yn dadlau dros lawer o'r pethau hynny ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma, gan ofyn am fwy o arian ar gyfer y peth hwn a'r peth arall, a mwy o arian ar gyfer rhywbeth arall wedyn. Yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud yw defnyddio'r swm cyfyngedig iawn o arian a ddaeth inni yng nghyllideb y Canghellor i sicrhau cydbwysedd rhwng y blaenoriaethau sy'n cystadlu, ond rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais, a'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud: mae anghenion llywodraeth leol Cymru ar flaen ein meddyliau wrth inni fynd i'r afael â'r gwaith anodd hwnnw.
Felly, credaf y gallwn gasglu o hynny nad yw bod 'ar flaen y ciw' yn golygu bod yn gyntaf yn y ciw o reidrwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a ydym yn siarad am £550 miliwn ai peidio—rydych chi'n credu ei fod yn ffigur is—credaf mai'r pwynt yw bod arian ychwanegol ar gael. Credaf y gallwn gytuno ar hynny. Mae arian ychwanegol ar gael drwy'r symiau canlyniadol o ganlyniad i gyllideb y DU. Fe roddaf hyn i chi: rydych chi'n gyson, a dweud y lleiaf, gyda'ch dadleuon ar gyni. Ac eto, heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi rhyddhau datganiad yn nodi bod cynghorau'n eistedd ar oddeutu £1.4 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. Yn ychwanegol at hynny, er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyni, mae'n nodi bod y dystiolaeth yn dangos, yn y blynyddoedd diwethaf, fod lefelau'r cronfeydd wrth gefn sydd gan rai awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu. Er enghraifft, mae gan Rondda Cynon Taf £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio—bron unwaith a hanner maint y cronfeydd wrth gefn sydd gan Gaerdydd, ac wyth gwaith cymaint â chronfeydd wrth gefn Sir Fynwy. Wrth gwrs, Rhondda Cynon Taf sydd â'r setliad uchaf ond dau yn y gyllideb ddrafft. Mae cyngor Caerdydd, a gafodd y setliad llywodraeth leol gorau o dan y gyllideb ddrafft, wedi cynyddu eu cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio 17 y cant ers 2016. Yn y cyfamser, Ynys Môn, Conwy a Sir Fynwy, a oedd ymhlith y cynghorau a gafodd y setliadau gwaethaf o dan y gyllideb ddrafft, sydd â'r symiau lleiaf o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. A ydych o'r farn fod hyn yn arwydd o setliad llywodraeth leol teg neu annheg, a pha drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynglŷn â gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r mater hwn?
Wel Lywydd, diolch i'r Aelod am hynny. Yn gyntaf, gadewch imi gywiro'r hyn a ddywedodd. Pan ddywedaf fod llywodraeth leol ar flaen y ciw, rwy'n golygu mai hwy fydd yn gyntaf yn y ciw. Rwy'n tynnu eich sylw at y ffaith bod ciw i'w gael—ciw y tu ôl iddynt. Nawr, roeddwn yn disgwyl y byddai'r Aelod dros Fynwy yn awyddus i fy holi y prynhawn yma ynglŷn â chymorth i fusnesau bach drwy ryddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae'n bwnc y mae'n gohebu â mi'n ddyfal yn ei gylch. Ond nid yw'n ymddangos ei fod yn poeni amdanynt y prynhawn yma, gan mai'r swm mwyaf o arian a gawn yn y—[Torri ar draws.] Mae'r swm mwyaf o arian a gawn fel arian canlyniadol ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach. Os mai ei gyngor i mi y prynhawn yma yw y dylwn roi'r holl arian hwnnw i lywodraeth leol a gwneud dim i fusnesau bach yng Nghymru, buaswn yn ddiolchgar i gael gwybod mai dyna yw ei gyngor imi.
Gan droi at y cwestiwn a gododd ynghylch cronfeydd wrth gefn, pan ddywed 'cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio', yr hyn y mae'n drysu yn ei gylch yw'r ffaith mai elfen fwyaf y cronfeydd wrth gefn hynny yw arian a gedwir ar gyfer pethau sydd eisoes wedi eu hymrwymo: mewn geiriau eraill, cynlluniau pwysig ym maes tai, ym maes addysg, ym maes trafnidiaeth, lle mae awdurdodau lleol yn cynllunio ymlaen llaw; mae ganddynt gynllun y gwyddant fod yn rhaid iddynt ei ariannu— mae'n gwbl iawn eu bod yn cadw arian yn eu cronfeydd wrth gefn er mwyn gallu ariannu'r blaenoriaethau pwysig hynny yn y dyfodol. Serch hynny, y pwynt a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, ac a adleisiwyd yng nghwestiwn Nick Ramsay, yw bod gan rai awdurdodau lleol swm cynyddol o arian heb ei ddyrannu yn eu cronfeydd wrth gefn. Ac mewn cyfnodau anodd iawn—ac rwy'n llwyr gydnabod yr heriau a wynebir gan lywodraeth leol—fel y mae'n rhaid i minnau reoli cronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru a rhyddhau arian o fy nghronfeydd wrth gefn i sicrhau y gallwn wneud y pethau y mae angen inni eu gwneud, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud defnydd yr un mor synhwyrol o'u cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardal.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, buaswn wedi gallu eich holi ynglŷn â chymorth ar gyfer busnesau bach, a gwyddom fod oddeutu £25 miliwn o ganlyniad i gyllideb y DU—fod arian yn cael ei ddefnyddio dros y ffin yn Lloegr i sicrhau bod ardrethi busnes draean yn is ar gyfer busnesau â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Ac fe gadwaf hynny at ddiwrnod arall. [Torri ar draws.] Ond efallai eich bod—[Torri ar draws.] Rwy'n ceisio sefydlu a ydych yn cytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ei fod ef, yn sicr, wedi newid ei dôn braidd ar fater cronfeydd wrth gefn. Y llynedd, dywedodd y byddai bob amser yn petruso cyn gosod baich ar lywodraeth leol. Mae wedi dweud yn awr, yn ei ddatganiad ysgrifenedig, y dylai awdurdodau lleol gyda lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn adolygu'r dibenion y cedwir yr arian hwn ar eu cyfer, ac y dylid cyfleu'r rhesymau dros gadw'r cronfeydd wrth gefn yn glir, yn enwedig os ydynt yn cynyddu. Felly, nid fi yn unig sy'n dweud hynny, neu'r ochr hon i'r Siambr; eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, a ddywedodd hynny. Felly, onid yw'n deg dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni cryn gynnydd posibl yn y dreth gyngor mewn rhai awdurdodau lleol, y bydd talwyr y dreth gyngor yn pendroni pam fod cymaint o arian wedi'i gadw wrth gefn, a phe bai'r mater hwn yn cael ei ddatrys, yna—ydy, mae'n gacen fach ar hyn o bryd, ac rydych yn llygad eich lle, mae llywodraeth leol wedi wynebu heriau anodd, ond efallai na fyddai cymaint o bwysau ar feysydd eraill pe bai peth o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio.
Wel, nid wyf yn anghytuno â'r pwynt a wna'r Aelod. Mae'r rhain yn amseroedd anodd iawn i awdurdodau lleol. Byddaf yn gwneud beth bynnag y gallaf gyda'r arian a gawsom yn y gyllideb i liniaru rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Lle mae ganddynt ffynonellau eraill o gyllid ar gael iddynt, mae'n iawn y dylent feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y gellir rhoi'r arian hwnnw ar waith i gefnogi gwasanaethau lleol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Alun Davies, y bydd eu poblogaethau lleol yn edrych yn ofalus i sicrhau eu bod yn gwneud defnydd da o'r holl arian sydd ar gael iddynt. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ei wneud bob amser, ond pan fo'r pwysau'n arbennig o drwm, mae'n iawn tynnu sylw at y ffaith fod ffynonellau eraill o arian ar gael iddynt yn ogystal â'r arian a gânt gan Lywodraeth Cymru, a bod yn rhaid iddynt ystyried pob agwedd ar gynllunio eu gwariant.
Lefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, os caf ddychwelyd at y materion Brexit y buoch yn sôn amdanynt ychydig funudau yn ôl, ym mis Medi eleni, fe ddywedoch chi, wrth siarad am hawliau gweithwyr, ac rwy'n dyfynnu:
Yng Nghymru, rydym wedi dweud bob amser, ers y refferendwm, fod yn rhaid gwarchod yr holl hawliau rydym wedi eu hennill drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Os na all y Torïaid sicrhau Brexit sy'n gwarantu y bydd hynny'n digwydd, yna mae'n rhaid i'r bobl benderfynu.
Diwedd y dyfyniad. Nawr, fe egluroch chi ychydig funudau yn ôl, wrth ymateb i gwestiynau Steffan Lewis, y byddech yn cefnogi refferendwm arall o dan amgylchiadau penodol, ond pe bai refferendwm arall, byddai hynny'n codi'r posibilrwydd o aelodaeth lawn o'r farchnad sengl a byddai hynny, yn ei dro, yn rhoi rhyddid i weithwyr symud yn ôl ar y bwrdd. Ond nid yw'n ymddangos bod Jeremy Corbyn yn cefnogi rhyddid i weithwyr symud, yn ôl datganiadau a wnaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pan ddywedodd na ddylid parhau i fewnforio gweithwyr heb lawer i sgiliau yn ddiatal o ganolbarth Ewrop, gan y byddai hyn yn cyfrannu at ddinistrio amodau gwaith yn y DU. Felly, gan feddwl am y sylwadau hynny, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, pe bai Llywodraeth Cymru yn cefnogi refferendwm arall ar aelodaeth o'r UE am resymau tybiedig yn ymwneud ag amddiffyn hawliau gweithwyr, y byddai mewn gwirionedd yn bygwth hawliau gweithwyr, ac yn ychwanegol at hynny, yn tanseilio un o'r prif resymau pam y pleidleisiodd pobl ddosbarth gweithiol yng Nghymru dros adael?
Wel, nodwyd yr ymagwedd a argymhellir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymfudo yn fanwl yn ein dogfen, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'. Mae'n ymhelaethu ar yr adran yn y papur a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru ar y mater hwnnw. Mae busnesau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a phrifysgolion Cymru yn dibynnu ar eu gallu i barhau i recriwtio pobl o rannau eraill o'r byd rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi eu denu i wneud eu dyfodol yn rhan o'n dyfodol ninnau yma yng Nghymru. Pan fyddaf yn trafod y mater hwn gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain a sefydliadau busnes eraill, y pwynt y mae pob un ohonynt yn ei wneud yw mai swyddi pobl sydd yma eisoes ac sy'n byw yng Nghymru sy'n dibynnu ar eu gallu i ddenu pobl o leoedd eraill i ddod i ymuno â'r gweithlu hwnnw. Os ydych yn rhedeg gwesty mewn ardal denau ei phoblogaeth yng nghanolbarth Cymru, a'ch bod yn cyflogi 80 o bobl sy'n byw yn lleol eisoes, ond bod angen 20 o bobl eraill ar eich gwesty er mwyn gallu rhedeg yn llwyddiannus, os na allwch ddenu'r 20 o bobl o fannau eraill, swyddi'r 80 o bobl sy'n cael eu peryglu, nid swyddi'r 20 o bobl, a dyna pam fod tegwch o ran symudiad pobl nid yn unig yn dda i'r bobl a allai ddod o rywle arall i fyw yma, ond mae'n dda i bawb ohonom. Dyna'r ymagwedd synhwyrol tuag at ymfudo, a dyna'r ymagwedd a argymhellir yn ein dogfen ar degwch o ran symudiad pobl.
A oedd bob amser wedi'i warchod gan fisâu.
Ymddengys bod y Blaid Lafur wedi symud i safbwynt lle maent yn cynnig cyfiawnhad athronyddol dros lafur rhad. Nawr, os oes prinder gweithwyr, gellir denu gweithwyr drwy godi cyflogau. Mae hon yn berthynas syml. Fel y gwyddoch, mae'n berthynas economaidd. Ymddengys eich bod yn dweud eich bod yn ffafrio buddiannau busnesau mawr—fe gyfeirioch chi at Gydffederasiwn Diwydiant Prydain—dros fuddiannau pobl sy'n gweithio yng Nghymru. Oni fyddech yn cytuno mai dyna'r safbwynt rydych newydd ei esbonio?
Mae'n gwbl hurt, Lywydd—yr hyn a ddywed yr Aelod. Mae ymgynghorwyr sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol o fannau eraill—nid ydynt yn weithwyr ar gyflogau isel fel yr awgrymodd yr Aelod. Ymchwilwyr sy'n gweithio yn ein prifysgolion ar brosiectau sy'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil—nid ydynt yn weithwyr ar gyflogau isel. Nac ychwaith y cwmni bach yng Nghaerdydd a soniodd wrthyf yn ddiweddar ynglŷn â'u hanallu i recriwtio gweithwyr TG sy'n hanfodol i'r busnes bach hwnnw, a lle maent yn dibynnu ar bobl sy'n dod o fannau eraill yn y byd i gynorthwyo'r bobl eraill sy'n gweithio yma eisoes. Nid swyddi ar gyflogau isel yw'r rheini ychwaith. Parodi o'r sefyllfa wirioneddol y mae'r Aelod yn ei gynnig inni, ac nid yw'n syndod fod cyn lleied o ddylanwad ganddo yma yn y Siambr hon na thu hwnt.
Roedd yr enghraifft a godoch chi ddwy funud yn ôl yn ymwneud â gweithwyr gwestai. Nid oedd yn ymwneud ag ymgynghorwyr ar gyflogau uchel ac ymgynghorwyr medrus, roedd yn ymwneud â gweithwyr gwestai. Os mai chi fydd yr arweinydd nesaf yn y lle hwn, a fyddech yn ystyried ailenwi eich plaid yn 'Llafur Rhad'?
Nid yw'n werth rhoi ateb difrifol, Lywydd.