1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i helpu prosiectau ynni cymunedol hydro gyda’u hardrethi busnes? OAQ52935
Ym mis Ebrill, fe gyflwynom ni gynllun i roi grantiau i brosiectau ynni dŵr yng Nghymru i’w helpu â’u biliau ardrethi annomestig. Mae’r cynllun yn darparu 100 y cant o ryddhad ardrethi i brosiectau ynni dŵr cymunedol ac mae’n rhoi cap ar y cynnydd mewn ardrethi i ddatblygiadau ynni dŵr eraill.
Ac roedd Plaid Cymru'n falch iawn o sicrhau'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes yna ar gyfer prosiectau ynni cymunedol fel rhan o'r cytundeb ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol yma efo'r Llywodraeth. Ond nid oes yna ddim sicrwydd hyd yma y bydd y cynllun rhyddhad ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, na chwaith ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'r prosiectau yma yn amlwg angen sicrwydd hirdymor er mwyn iddyn nhw fedru cynllunio ar gyfer y dyfodol. Heb y sicrwydd yna, mae'n anodd iddyn nhw gynllunio a chydweithio efo grwpiau cymunedol ac elusennau lleol, ac, yn wir, mae'n anodd i fentrau newydd roi cychwyn arni. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud y cynlluniau rhyddhad busnes yma ar gyfer prosiectau ynni cymunedol yn rhai parhaol?
Wel, mae'n anodd gwneud hynny, wrth gwrs. Mae hynny'n rhywbeth i'r Llywodraeth nesaf ei ystyried, ac mae'n dibynnu ar yr arian sy'n dod o San Steffan. Ond, rydym ni'n deall, wrth gwrs, faint o gymorth mae hwn wedi bod i ynni hydro, a byddwn ni'n ystyried y sefyllfa pan ydym yn gwybod mwy am y sefyllfa ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf ymlaen.
Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud y gallem ni fod yn defnyddio'r drefn ardrethi busnes gyda llawer mwy o ddychymyg i dargedu cymorth, boed hynny ar gyfer prosiectau ynni dŵr, fel y mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio atyn nhw, prosiectau adnewyddadwy eraill neu, yn wir, ein strydoedd mawr, ac rydym ni'n gwybod yn iawn y problemau sydd wedi effeithio ar rai busnesau stryd fawr mewn ardaloedd fel Trefynwy yn fy etholaeth i yn sgil ailbrisio.
Soniasoch am eich olynydd; a wnewch chi adael nodyn i'ch olynydd, pwy bynnag y gallai fod—rwy'n credu mai dyna'r ffordd y mae'r blaid Lafur yn gwneud pethau—i edrych eto ar yr holl faes ardrethi busnes hwn a'r ffyrdd y gellid diwygio treth i helpu yn hytrach na rhwystro'r economi dros y tymor hwy, nid y gyllideb nesaf neu'r ddwy gyllideb nesaf yn unig?
Rwy'n credu mai pompren a ddefnyddir yn bennaf yn y Blaid Geidwadol, onid e, i ymdrin â newidiadau mewn arweinydd? Bydd unrhyw nodyn neu nodiadau y byddaf i'n eu gadael yn electronig, wrth gwrs. Rydym ni, wrth gwrs, yn symud tuag at fod yn Llywodraeth ddi-bapur.
O'n safbwynt ni, byddwn bob amser yn ceisio defnyddio'r gyfundrefn ardrethi annomestig mewn ffyrdd arloesol a llawn dychymyg. Rydym ni wedi gwneud hynny, wrth gwrs, gyda'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a gynorthwyodd cynifer o fusnesau ledled Cymru, a byddwn yn edrych i weld beth allai fod yn bosibl yn y dyfodol, yn dibynnu, wrth gwrs, ar ba gyllid sy'n cael ei roi ar gael drwy'r grant bloc.