1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru fynediad i lawfeddygon orthopedig? OAQ52936
Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd fod ag adnoddau addas ar waith, gan gynnwys staffio, i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol.
Ar sawl achlysur yn ystod blynyddoedd datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu potiau o arian i leihau amseroedd aros os ydynt wedi mynd yn rhy hir. Yn 2017-18, 339 o ddiwrnodau oedd yr amser aros canolrifol am lawdriniaeth pen-glin ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, cynnydd o 95 o ddiwrnodau o'r flwyddyn cynt. Mae dros 61 y cant o'r rhai sy'n aros am lawdriniaethau trawma ac orthopedig ar hyn o bryd yn aros am fwy na blwyddyn. Sut ydych chi'n ymateb i'm hetholwr, gadewch i ni ddweud Mr LB, sydd wedi bod ar restr aros ers 8 Rhagfyr 2016 am ben-gliniau newydd llwyr dwyochrog? Ysgrifennodd y bwrdd iechyd ataf y mis hwn, gan ddweud, 'Rydym ni'n amcangyfrif na fyddwn yn gallu cynnig dyddiad ar gyfer llawdriniaeth iddo tan fis Mai 2019 erbyn hyn'—dros 500 o ddiwrnodau. Mae Mr LB yn dweud nad yw'n cael dim ond y gefnogaeth fwyaf gan ei feddyg teulu a'i feddyg ymgynghorol, ond mae mwy neu lai yn gripl yn 63 oed, ac mewn poen echrydus yn gyson.
Mae'n anodd iawn, wrth gwrs, gwneud sylwadau ar unigolyn. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth bod rhywun mewn poen pan fydd yn aros am lawdriniaeth, ac y bydd yn awyddus i wybod pryd y bydd y llawdriniaeth honno'n cael ei chyflawni. Bydd hefyd yn awyddus i wybod pa adnoddau sy'n cael eu rhoi ar gael fel bod yr amser aros am lawdriniaeth yn cael ei leihau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod nifer y meddygon ymgynghorol llawdriniaeth trawma ac orthopedig amser llawn yn PBC wedi cynyddu o 23 yn 2009 i 29.2 yn 2017. Adlewyrchir hynny mewn cynnydd ar draws Cymru gyfan. Ddiwedd mis Awst eleni, cafwyd gostyngiad o 11 y cant i nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig yn ardal PBC, ac adlewyrchir hynny ar draws Cymru gyfan. Felly, mae adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar gael i benodi mwy o feddygon ymgynghorol a llawfeddygon, ac rydym ni'n gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gostyngiad i nifer y bobl sy'n aros. A chyn belled ag y mae Mr LB yn y cwestiwn, gallaf roi'r sicrwydd iddo y byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn ddarparu mwy o adnoddau, a gobeithiaf y bydd yn cael ei lawdriniaeth yn fuan.
Prif Weinidog, rydym ni'n aml yn clywed yn ystod cyfnod y gaeaf am lawdriniaethau orthopedig a llawdriniaethau eraill a drefnwyd yn cael eu canslo oherwydd pwysau'r gaeaf. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd y trefniadau a roddwyd ar waith gan y byrddau iechyd lleol a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar gyfer y gaeaf hwn yn osgoi'r lefelau hynny o ganslo yr ydym ni wedi eu gweld yn y gorffennol?
Wel, ceir lefel o ganslo sy'n digwydd bob amser ymlaen llaw er mwyn creu'r capasiti dros ben ar gyfer cyfnod y gaeaf, o ystyried y pwysau yn ystod y gaeaf yr ydym ni wedi ei weld dros y blynyddoedd diwethaf, er y byddwn yn dadlau yn sicr y llynedd a'r flwyddyn cynt, yr ymdriniwyd â'r pwysau hynny er eu bod yn sylweddol ac wedi cymryd llawer o adnoddau ac amser staff. Wrth gwrs, mae'n rhaid bod gan fyrddau iechyd eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf ar waith, sydd wedi bod yn gadarn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac nid oes gen i unrhyw reswm i amau na fydd hynny'n wir eleni.