Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Yn sgil y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a negodwyd ddwy flynedd yn ôl, fe gytunwyd y byddai £2 miliwn yn cael ei ddefnyddio'n benodol ar gyfer hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Fe fyddwch chi'n ymwybodol mai'r hyn a oedd yn greiddiol i'r cytundeb rhwng Plaid a chithau oedd ymrwymiad i sefydlu asiantaeth iaith hyd-braich i wneud gwaith hyrwyddo a chynllunio ieithyddol angenrheidiol. A fedrwch chi ein goleuo ni ar beth ddigwyddodd i'r addewid yna i sefydlu asiantaeth a pham na wireddwyd hynny?