Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Wel, beth roeddem ni'n gobeithio, wrth gwrs, oedd y byddai'r comisiynydd yn gwneud mwy o'r gwaith hyrwyddo yma. A gan fod hynny wedi bod yn anodd, efallai, i'r comisiynydd ei wneud, mae peth o'r gwaith yna wedi dod i mewn ac yn cael ei wneud gan swyddogion y tu fewn i Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yn ddelfrydol, byddwn i'n licio cael pobl hyd-braich, pobl sydd â'r sgiliau y tu fas i'r Llywodraeth yn gwneud y math hwn o waith. Ac, wrth gwrs, yn ddelfrydol beth fyddwn i'n hoffi ei weld, fel rydym ni wedi dweud yn y Papur Gwyn, yw bod y comisiwn newydd yn cael y cyfrifoldeb yma. Ac, wrth gwrs, mi fyddai'r comisiwn yna yn fudiad hyd-braich oddi wrth y Llywodraeth.