Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 1:48, 21 Tachwedd 2018

Wel, nid wyf yn meddwl ei fod yn briodol i fi ymateb i beth sydd yn fy maniffesto personol i fel siaradwraig dros Lywodraeth Cymru yn fan hyn. Beth y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw, o ran Bil y Gymraeg, wrth gwrs rydym ni'n gobeithio y bydd y Bil yna'n dod ger ein bron ni. Ar hyn o bryd, rydych chi jest mor ymwybodol ag yr ydw i o'r mès sydd yn digwydd o ran Brexit, a dyna'r unig reswm pam rydym ni mewn sefyllfa i fod yn glir nad yw hi'n bosibl i wneud yr ymrwymiad yna y byddwn i'n hoffi ei wneud achos y caos sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit ar hyn o bryd.