Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:47, 21 Tachwedd 2018

Felly rydych chi'n dal i sôn am greu comisiwn sydd ynghlwm â'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg, ond yn y pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf, mi ddywedoch chi fod popeth i fyny yn yr awyr yn sgil Brexit, a wnaethoch chi ddim rhoi unrhyw addewid y byddai yna Fil cyn diwedd tymor y Cynulliad yma, na chomisiwn ychwaith.

Yn eich maniffesto ar gyfer eich gobeithion i ddod yn Brif Weinidog Cymru, rwy'n deall nad oes yna sôn am un o brif bolisïau’r Llywodraeth ac, yn wir, y prif bolisi rydych chi wedi bod yn gyfrifol am ei hyrwyddo, sef y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nac unrhyw sôn am Fil y Gymraeg. A allwn ni gymryd o hynny nad ydych chi'n teimlo'n angerddol am gynigion Bil y Gymraeg ac na fyddan nhw'n cael eu parhau petaech chi'n dod yn Brif Weinidog?