Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n amlwg i mi fod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod o fudd mawr ar gyfer cyllido sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn sicr yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, mae gan yr arian a ddarperir gan gronfa gymdeithasol Ewrop ffocws clir ar y dasg hanfodol o gael llawer o bobl sy'n agored i niwed yn ôl i mewn i'r farchnad lafur. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd yr hanes cadarn o fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau yn parhau os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?