Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Wel, wrth gwrs mae'n anodd rhoi sicrwydd ynglŷn ag unrhyw beth ar hyn o bryd, ond gobeithio y gallwn ddibynnu ar y sicrwydd a roddwyd gan y Trysorlys, beth bynnag sy'n digwydd, hyd yn oed mewn sefyllfa 'dim bargen', y gwarentir y bydd y cyllid hwnnw'n parhau tan 2020. Os ceir cytundeb pontio, bydd swyddogion yn ceisio sicrhau bod unrhyw arian sy'n weddill o fewn y pot hwnnw gan gronfa gymdeithasol Ewrop o ganlyniad i'r amrywiadau enfawr a fu yn y gyfradd gyfnewid, yn golygu y gallwn barhau i wario'r arian hwnnw hyd 2023, rwy'n gobeithio. Ond mae'n werth tanlinellu'r swm enfawr o gymorth y mae cymunedau fel eich un chi wedi'i dderbyn o ganlyniad i arian Ewropeaidd. Mae'n drueni efallai nad oes rhagor o'r bobl sydd wedi elwa o'r cyrsiau hynny wedi deall mewn gwirionedd o ble y dôi'r arian hwnnw.