Hyfforddiant Sgiliau yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:58, 21 Tachwedd 2018

Rydym ni wedi clywed o adroddiad Graeme Reid bod yna, efallai, orddibyniaeth ar y ffynonellau Ewropeaidd. Yn amlwg, mae hynny wedi bod yn rhywbeth naturiol oherwydd bod yr arian hwnnw wedi bod ar gael, ond bod yna ffynonellau arloesedd ac yn y blaen ar gael o lefydd eraill o fewn Prydain y gellir bod prifysgolion a cholegau addysg bellach yn ceisio bidio amdanynt fel eu bod nhw'n gallu gwneud mwy fel prifysgol ac wedyn ceisio gwneud hynny ar lefel fasnachol. Beth ydych chi'n ei ddweud wrth y cais hwnnw gan Graeme Reid ac a ydych chi fel Llywodraeth yn gwneud digon i hybu prifysgolion a cholegau i geisio yn y meysydd yma?