Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb i fy llythyr ynglŷn â'r bwriad i gau ysgol Llancarfan, lle rydych yn dweud nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu na fydd ysgol yn cau byth; fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob ateb dichonadwy arall wedi'i ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio. Fel y gwyddoch, mae gwrthwynebiad eang i gau'r ysgol wledig hon yn fy etholaeth. A allwch wneud sylw ar y dystiolaeth nad yw'r awdurdod lleol wedi ystyried dulliau amgen dichonadwy, megis ffedereiddio?