1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2018.
7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd ysgolion gwledig? OAQ52941
Jane, mae ysgolion gwledig yn chwarae rhan bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ymestyn cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd, a dyna pam rydym wedi rhoi camau ar waith, gan gynnwys cyhoeddi cynllun gweithredu addysg wledig a chyflwyno'r grant ysgolion bach a gwledig, i helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb i fy llythyr ynglŷn â'r bwriad i gau ysgol Llancarfan, lle rydych yn dweud nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu na fydd ysgol yn cau byth; fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob ateb dichonadwy arall wedi'i ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio. Fel y gwyddoch, mae gwrthwynebiad eang i gau'r ysgol wledig hon yn fy etholaeth. A allwch wneud sylw ar y dystiolaeth nad yw'r awdurdod lleol wedi ystyried dulliau amgen dichonadwy, megis ffedereiddio?
Wel, Jane, rwy'n ymwybodol fod cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig i symud Ysgol Gynradd Llancarfan i safle newydd. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol, fel y byddwch yn gwybod, ar 5 Tachwedd ac mae'n darparu cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod i unrhyw un gael ymateb. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i'r gwrthwynebiadau ddod i law erbyn 3 Rhagfyr. Yna rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o'r gwrthwynebiadau statudol ac ymateb i'r gwrthwynebiadau hynny. Fel y byddwch yn gwybod, gellir cyfeirio cynnig wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod gan awdurdod lleol at Weinidog Cymru i'w ystyried os bydd rhai partïon penodol yn penderfynu cymryd y cam hwnnw, ac felly ni allaf roi rhagor o sylwadau ar yr achos unigol hwnnw mewn gwirionedd.