Ysgolion Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:16, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Jane, rwy'n ymwybodol fod cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig i symud Ysgol Gynradd Llancarfan i safle newydd. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol, fel y byddwch yn gwybod, ar 5 Tachwedd ac mae'n darparu cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod i unrhyw un gael ymateb. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i'r gwrthwynebiadau ddod i law erbyn 3 Rhagfyr. Yna rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o'r gwrthwynebiadau statudol ac ymateb i'r gwrthwynebiadau hynny. Fel y byddwch yn gwybod, gellir cyfeirio cynnig wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod gan awdurdod lleol at Weinidog Cymru i'w ystyried os bydd rhai partïon penodol yn penderfynu cymryd y cam hwnnw, ac felly ni allaf roi rhagor o sylwadau ar yr achos unigol hwnnw mewn gwirionedd.