Plant a Phobl Ifanc sydd â Nam ar y Synhwyrau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:11, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn ymwybodol o fy mhryder dwfn ynglŷn â'r penderfyniad gan gyngor Casnewydd i dynnu allan o'r gwasanaeth addysg arbenigol ledled Gwent ar gyfer plant â nam ar y synhwyrau, a elwir yng Ngwent yn SenCom. Yn anffodus, gwnaed y penderfyniad heb ymgynghori gyda theuluoedd nac awdurdodau lleol sy'n bartneriaid, ac rwy'n bryderus iawn y bydd tynnu allan yn ansefydlogi gwasanaethau ar gyfer grŵp o blant a phobl ifanc dan anfantais fawr sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaeth arbenigol o ansawdd uchel. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Ngwent dan anfantais yn sgil y penderfyniad hwn?