Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn heddiw, Lynne, a'r ohebiaeth a gawsoch gyda mi a swyddogion ynglŷn â gwasanaeth SenCom, a oedd yn enghraifft dda iawn o sut roedd gwaith rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cyfuno adnoddau i greu gwasanaeth arbenigol iawn er mwyn diwallu anghenion grŵp penodol o blant, rhywbeth sy'n anodd iddynt ei wneud o bosibl wrth weithio ar eu pen eu hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol yn ffactor allweddol wrth sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig ar adeg pan nad yw adnoddau'n ddiddiwedd. Rwyf wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, i sefydlu pa drefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau na fydd dysgwyr, teuluoedd ac ysgolion, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond ar draws y rhanbarth, yn cael eu niweidio gan y penderfyniad hwn.