Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Wel, mae'n galondid mawr gweld y gwaith rydym yn ei wneud ar broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), ond hefyd yn y cynllun peilot newydd rwyf wedi'i gyhoeddi. Mae'r gwaith ar PrEP yn bwysig, oherwydd os cofiwch, pan wneuthum ddatganiad i'r Siambr hon o'r blaen, roeddem wedi canfod nifer o bobl cyn cynnal y profion, cyn darparu PrEP—nifer o bobl a oedd heb gael diagnosis o HIV—felly roedd modd iddynt ddechrau triniaeth ar y pwynt hwnnw mewn gwirionedd, yn ogystal â'r pwynt ataliol ynglŷn â PrEP, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn dysgu llawer mwy ynglŷn â sut i wneud yn siŵr fod PrEP ar gael yn briodol er mwyn atal HIV rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae'r rhaglen a gyhoeddais ynglŷn â hunan-brofi a samplu yn y cartref yn bwysig, oherwydd mae rhannau eraill o'r DU yn gweithredu fersiwn wahanol o hynny. Mewn gwirionedd, rydym yn cyflwyno prawf haws yma yng Nghymru. Mae'r ffocws cychwynnol ar clamydia a gonorea, ond bydd hynny'n datblygu wedyn i edrych ar wneud profion HIV yn ogystal. Rydym yn darparu bron i 100,000 o brofion HIV yng Nghymru bob blwyddyn, felly mae llawer iawn o brofion yn digwydd. Nid yw'n fater o'r hyn y dylem ei wneud, ond yn hytrach, sut y dylem ei wneud, a sut y dylem wella'r hyn rydym yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, ar y pwynt hwn, rydym yn arwain y ffordd ledled y DU.