Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl yn y Cynulliad, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimer. Yn ystod y cyfarfod hwn, fe gefais i a rhai aelodau o fy staff sesiwn hyfforddiant a sgiliau i fod yn gyfeillion dementia. Diben bod yn gyfaill dementia yw dysgu peth o logisteg dementia—beth yw dementia, beth sy'n ei achosi, beth yw'r symptomau. Yn bwysicaf oll, mae wedi'i gynllunio i ddangos sut y gallwn helpu pobl â dementia drwy ddeall eu cyflwr yn well. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i annog mwy o bobl i fod yn ystyriol o bobl â dementia?