Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Rwy'n hapus i gadarnhau ein bod yn gweithio'n dda iawn gydag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, gan gynnwys y bobl sy'n hyrwyddo cyfeillion dementia. Rwyf wedi cyfarfod â Boots, er enghraifft, ac oherwydd yr arweinyddiaeth yng Nghymru, mae pob siop Boots yng Nghymru yn cynnwys aelodau o staff sy'n gyfeillion dementia ac maent yn bwriadu cyflwyno hynny yng ngweddill y siopau Boots mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn yr ystafell hon wedi gwneud yr hyfforddiant cyfeillion dementia. Mae fy staff a minnau wedi ei wneud, a chredaf fod Jayne Bryant wedi nodi ei bod eisiau annog pob un ohonom i fod yn gyfeillion dementia, fel y gallwn ddweud mai hon yw'r ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i fod yn gwbl ystyriol o bobl â dementia. Felly, rydym yn gwneud llawer i hyrwyddo'r ymgyrch honno sy'n cael ei rhedeg gan un corff trydydd sector. Mae'n rhan o fod yn genedl sy'n ystyriol o bobl â dementia, sydd, wrth gwrs, wedi'i nodi yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer dementia.