Cyflenwad Cyffuriau Fferyllol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:55, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghwestiwn yn deillio o bryder a fynegwyd gan etholwr, yn ymwneud yn benodol â'r cyflenwad o inswlin i Brydain mewn Brexit 'dim bargen'. Cododd bryderon yn dilyn sylwadau a wnaed gan Syr Michael Rawlins o'r Asiantaeth Reoleiddio Cynhyrchion Gofal Iechyd, a rybuddiodd ar 30 Gorffennaf nad yw inswlin yn cael ei weithgynhyrchu ym Mhrydain, fod yn rhaid mewnforio'r cyfan ac na ellir ei gludo fel cyffuriau presgripsiwn eraill oherwydd bod ei dymheredd yn cael ei reoli. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ynglŷn â hyn i'r Ysgrifennydd iechyd—i chi—yn ystod toriad yr haf, yn gofyn pa gamau rydych yn eu cymryd, a'r ateb oedd eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd gydag Adran Iechyd y DU ac y byddech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy swyddfa ac Aelodau'r Cynulliad. Felly, fy nghwestiwn yw: o ystyried yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth Brexit ar hyn o bryd, a oes unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol wedi bod ar y mater hwn ers i mi ofyn fy nghwestiwn ysgrifenedig?