Cyflenwad Cyffuriau Fferyllol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:54, 21 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, sydd wedi dweud wrth y gweithgynhyrchwyr meddyginiaethau a'r cyflenwyr am gynnal gwerth chwe wythnos ychwanegol o'u cynnyrch ar hyn o bryd, yn ychwanegol at eu cronfeydd wrth gefn arferol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, wrth gwrs, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn os yw'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.