Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Ym mis Medi, bu'n rhaid i oddeutu traean y cleifion, 22,300 o bobl, a ymwelodd â'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, aros mwy na phedair awr i gael eu gweld. Cafodd ychydig dros 66.4 y cant eu gweld o fewn pedair awr, o gymharu â tharged Llywodraeth Cymru o 95 y cant. Dwy adran ddamweiniau ac achosion brys yn unig yng Nghymru a berfformiodd yn waeth na hyn. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella amseroedd aros yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd y targedau a osodwyd gan ei adran ei hun?