Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y mae'r Aelod newydd ei ddweud, ac rydym yn parhau i weithio ar welliannau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd nid ydym byth yn hunanfodlon ynglŷn â hyn, ond mae gennym ardaloedd lle mae perfformiad, fel y nodoch chi, yn gweithio, ond nid yw'n gyson. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw gweithio gyda'r byrddau iechyd i roi baich y cyfrifoldeb arnynt hwy i wneud yn siŵr eu bod yn gostwng yr amseroedd aros hynny mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn gweithio gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru hefyd i sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo mewn modd di-dor, eu bod yn cael eu rhyddhau'n effeithiol ac ati. Felly, nid ydym yn hunanfodlon ynglŷn â hyn o gwbl, ond mae yna rai meysydd sydd ag arferion da iawn o fewn GIG Cymru. Mae angen i ni wneud y meysydd hynny sydd ag arferion da yn rhai cyffredin.