Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Mae colegau addysg bellach Cymru yn chwarae rhan allweddol yn economi Cymru. Fel y mae ColegauCymru wedi ein hatgoffa, mae eu heffaith economaidd flynyddol ar y gymuned fusnes leol yn £4 biliwn. Ac yn ychwanegol at y cyfraniad hwn, heb os, mae ganddynt rôl strategol hanfodol i'w chwarae yn paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Yn 'Ffyniant i Bawb', mae Llywodraeth Cymru'n nodi sut y bydd yn adeiladu economi sy'n seiliedig ar sylfeini cadarn, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau'r dyfodol a rhanbarthau wedi'u grymuso, a'r modd y defnyddir twf cynhwysol i leihau anghydraddoldebau cynhenid wrth i'n cyfoeth a'n lles wella. Ond fel y cawsom ein hatgoffa gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddoe ddiwethaf, er mwyn i Lywodraeth Cymru adeiladu economi sy'n gweithio i bawb, rhaid i'r sector addysg bellach fod wrth wraidd yr agenda hon. Ac mae'n hawdd gweld bod y sector addysg bellach yn darparu'r atebion a'r datrysiadau mewn perthynas ag ystod eang o heriau sy'n wynebu Cymru.
Er enghraifft, tua mis yn ôl, buom yn trafod adroddiad pwyllgor yr economi ar ddyfodol economi Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, clywsom dystiolaeth fod gweithwyr heb lawer o sgiliau, a menywod yn arbennig, yn debygol o fod mewn perygl yn sgil awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. O ganlyniad, roeddem yn argymell y dylai ail-hyfforddi a gwella sgiliau fod yn ganolog ym mholisi dysgu gydol oes y Llywodraeth.
Mae hwn yn faes lle mae'r sector addysg bellach mewn sefyllfa dda i wneud y cyfraniad canolog hwnnw ac yn fwy na hynny, mae'n un lle y gall helpu i ddylanwadu ar beth y dylai natur y dyfodol hwnnw fod. Fel yr awgrymodd yr Athro Richard Davies, mae angen inni ddatblygu system drionglog o gyfnewid rhwng addysg bellach, cyflogwyr ac addysg uwch. Gallai hyn gynnwys yr angen i'r sector wneud rhai penderfyniadau anodd. Efallai na fyddant yn rhai poblogaidd. Er enghraifft, efallai y bydd raid i golegau benderfynu canolbwyntio ar y sgiliau TGCh y mae eu taer angen arnom ar gyfer y dyfodol, ac ehangu meysydd dysgu fel gwaith gwirioneddol gyffrous Coleg y Cymoedd ar adeiladu cynaliadwy. Gallai'r rhain fod ar draul meysydd addysgu poblogaidd eraill, ond wrth ddewis pa gyrsiau i ganolbwyntio arnynt a'u blaenoriaethu, mae gwir raid inni gofio'r budd gorau i'r economi ac i'n gwlad. Felly, rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ddoe fod ei swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd yn well â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae hyn yn allweddol i ddatblygiad cyflogaeth eglur, osgoi gwaith am gyflogau isel a sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion cyflogwyr lleol.
Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn faes arall lle mae rhan bwysig gan y sector addysg bellach i'w chwarae. Mae llawer o waith da eisoes yn digwydd, ond hoffwn weld mwy o weithio mewn partneriaeth gydag addysg oedolion yn y gymuned, mwy o allgymorth i'r cymunedau mwyaf heriol, a mwy o gydgysylltu ar y rheng flaen i sicrhau bod y rhai mwyaf anodd eu cyrraedd yn cael eu dwyn i mewn i'r amgylchedd dysgu. Gwn fod y Gweinidog wedi siarad am newidiadau mewn perthynas â darpariaeth ran-amser, a gallai hynny fod yn arbennig o bwysig yma.
Wrth gwrs, mae cyflawni'r nodau hyn yn dibynnu ar sicrhau bod addysg bellach yn cael ei hariannu'n briodol. Yng nghampws newydd yr unfed ganrif ar hugain yng Ngholeg y Cymoedd, Aberdâr, ceir symbol gweladwy iawn o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog ddoe at arian ychwanegol a fydd ar gael i'r sector. Wrth gwrs, ni ellir cyflawni dim o hyn heb weithlu cefnogol sydd, yn ei dro, yn teimlo'i fod yn cael ei gefnogi a'i werthfawrogi. O'r safbwynt hwn, rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe ynglŷn â chyflogau. Mae'n gam pwysig ymlaen ac yn newyddion i'w groesawu y caiff cyllid ei ddarparu er mwyn i ddarlithwyr addysg bellach gael dyfarniad cyflog sy'n cyfateb i un athrawon ysgol. Yn bwysig, bydd hyn hefyd yn cael ei ymestyn i gynnwys staff ategol allweddol, fel technegwyr ac arddangoswyr hyfforddi hefyd. Mae hwn yn ymyriad allweddol yn fy marn i gan Lywodraeth Cymru. Gyda fy nghyd-Aelodau Mick Antoniw a Hefin David, cefais drafodaethau gydag aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yng Ngholeg y Cymoedd ac rwy'n gobeithio y byddai'r camau hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at ddangos i'r staff dan sylw cymaint y cânt eu gwerthfawrogi; faint o barch sydd i'w gwaith a'u cyfraniad.
Wrth gwrs, ni allwn ddadwneud effaith obsesiwn Llywodraeth y DU â chyni. Mae Cymru £4 biliwn ar ei cholled i bob pwrpas o ganlyniad i agenda cyni Llywodraeth y DU ac nid oes unrhyw amheuaeth fod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi dioddef o ganlyniad. Ond gallwn weithio gyda'r sector i gyflawni ein nodau cyffredin, ac ni allwn sicrhau ffyniant i bawb heb inni barhau i fuddsoddi mewn addysg bellach.