– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Symudwn at eitem 5 ar ein hagenda, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar gyllido addysg bellach. Galwaf ar Bethan Sayed i wneud y cynnig. Bethan.
Cynnig NDM6862 Bethan Sayed, Mohammad Asghar, Helen Mary Jones, Siân Gwenllian, Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.
2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.
3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.
4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.
Diolch. Cyflwynais y ddadl hon heddiw, dadl a gyd-lofnodwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau yma—a diolch ichi am wneud hynny—am fod addysg bellach yng Nghymru wedi bod o dan bwysau ac nid yw wedi cael y gydnabyddiaeth a'r pwysigrwydd canolog y mae'n eu haeddu. Credwn fod addysg bellach ac addysg gydol oes yn allweddol i ddatgloi'r potensial yn economi Cymru. Am ormod o amser, cafodd addysg bellach ei hisraddio fel opsiwn llai gwerthfawr i sicrhau llwyddiant nag addysg uwch. Mae ymagweddau'r Llywodraeth tuag at addysg bellach wedi cadarnhau hyn, gan fod lefelau cyllid a gweledigaeth strategol, gydgysylltiedig a blaengar wedi bod yn brin yn y sector hwn—nid yn unig yn ddiweddar, ond ers peth amser. Mae'n bryd gwrthdroi hynny. Gwyddom fod addysg bellach wedi bod yn darged ar gyfer toriadau yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf a'r Cynulliad hwn. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at doriadau Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn anodd, mae'n wir, ac roedd hwnnw'n ddewis gwleidyddol, ond gwnaed dewis yma hefyd, dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae addysg bellach wedi cael ei gweld ers amser hir fel partner llai disglair i addysg uwch. Mae wedi bod, mewn rhai ffyrdd, yn darged haws na sectorau eraill ar gyfer cyfyngu ar wariant. Ers 2011-12, gwelwyd lleihad difrifol mewn termau real yn y gwariant, heb sôn am doriadau enbyd i gyrsiau rhan-amser, a gaiff eu hastudio'n bennaf gan fyfyrwyr sy'n oedolion a chan bobl sydd mewn gwaith.
Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn, mae'r cynnydd yn y galw am addysg bellach a chyfleoedd dysgu gydol oes wedi bod yn amlwg, fel y dylai fod. Mae'n rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio ein heconomi, ac i wneud hynny, dywedant wrthym, er mwyn rhoi'r sgiliau y byddant eu hangen i'n dinasyddion allu llwyddo mewn economi fodern. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw'r cyllid a'r weledigaeth wedi bod yn ddigonol. Soniaf am weledigaeth am reswm penodol iawn. Mae'n amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad oes arweinyddiaeth a map strategol wedi bod ar gael ar gyfer yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni. Cawn ystrydebau bachog a chawn ddatganiadau, ond rydym yn dal i aros am rywbeth hirdymor a diriaethol sy'n darparu strategaeth i wneud colegau ac addysg bellach yn rhan annatod o gynlluniau a pholisïau economaidd. Ar hyn o bryd, nid yw hyn yn digwydd a dyma sydd ei angen ar y sector.
Weithiau, yr unig ateb yw mwy o arian, ond ar adegau eraill ac mewn rhai sectorau, yr hyn sydd hefyd ei angen ac nad yw'n cael ei ddarparu bob amser yw eglurder o ran diben, eglurder o ran cyfeiriad, ac arweinyddiaeth. Mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n lân â gwneud hyn. Credaf y gallwn grynhoi ein hymagwedd tuag at addysg bellach yng Nghymru drwy ddweud ein bod mewn sefyllfa amhosibl. Mae arnom angen i'r economi fod yn well ac yn fwy cynhyrchiol gyda chyflogau uwch a gwell sgiliau. Sut rydym yn gwneud hynny? Drwy ganolbwyntio ar ddysgu gydol oes ac uwchsgilio ac addysg alwedigaethol o ansawdd uchel. Sut mae gwneud hynny? Mae'r rhan olaf yn benagored, oherwydd, hyd yn hyn, ni chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ac nid yw'n siŵr beth y mae ei eisiau, er gwaethaf yr adolygiadau dirifedi a'r dystiolaeth ynglŷn â pha fap sydd orau ar gyfer y ffordd ymlaen.
Felly, mae ein cynnig heddiw yn ceisio adlewyrchu'r pwysigrwydd y credwn y dylai'r Senedd hon a'r Llywodraeth ei roi i addysg bellach. Yn gyntaf, mae toriad sylweddol wedi bod i'r swm o arian y mae addysg bellach yn ei dderbyn. Yn y pen draw, mae'r Blaid Lafur mewn grym yma yng Nghymru, mae hwn yn faes datganoledig, ac mae'n rhaid iddynt gymryd rhyw fath o gyfrifoldeb am y penderfyniadau gwleidyddol a wnaed ganddynt. Wrth gwrs, mae arian yn brin, ond mae ffyrdd o ddod o hyd i arian ychwanegol. Yn 2016, ni fel plaid oedd yr unig blaid â chynllun cyllideb pum mlynedd wedi'i asesu'n annibynnol gan yr Athro Gerry Holtham, a ddaeth i'r casgliad fod cynllun Plaid Cymru i nodi dros £600 miliwn o arbedion y flwyddyn yng nghyllideb Cymru yn rhesymol. Gallasom gyflwyno'r cynlluniau hyn am ein bod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio ein Llywodraeth.
Felly, mae dewisiadau i'w gwneud bob amser. Gyda Llywodraeth Cymru, mewn cytundebau cyllidebol diweddar, rydym wedi dewis dod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer addysg bellach. Gofynnodd y Llywodraeth am i'r sector colegau ddod yn llai dibynnol yn ariannol ar Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth y gallasant ei gyflawni, gan fynd o ddibyniaeth ariannol o oddeutu dwy ran o dair o'r grant bloc i ychydig dros hanner. Mae yna benderfyniadau y gellir eu gwneud a chamau gweithredu y gellir eu cymryd.
Mae’r sector colegau wedi dangos hyn drwy ddod yn fwy effeithlon yn ariannol, ond nid yw’r hyblygrwydd yn cael ei wthio i’r ymylon. Gwaethygir y broblem gan y fformiwla ariannu gymhleth—ac fel Gweinidog yr wrthblaid ar ran Plaid Cymru, rwy'n dechrau cael crap ar hynny bellach—a’r gwahanol botiau o arian, ffrydiau ariannu a rhaglenni sy'n rhan o’r sector. O gymharu â fformiwla sy’n symlach o lawer bellach ar gyfer addysg uwch, mae rhai pobl yn y sector wedi dweud wrthyf fod angen ailwampio'r sector addysg bellach ar gyfer y tymor hir.
Er bod cyllid y Llywodraeth wedi'i dorri, gofynnwyd i’r sector addysg bellach ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau ac i fod yn fwy canolog mewn perthynas ag uwchsgilio a chynhyrchiant. Rydym yn croesawu hyn, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa dda i wneud hyn. Ond erys y cwestiwn: faint y gellir ei gyflawni’n ymarferol ac yn effeithiol o ystyried y cynnydd yn y galw a'r ffaith nad oes cymaint o arian ar gael? Bydd llawer o gamau gweithredu cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn bethau i’r sector addysg bellach eu gwneud. Fel y nodwyd yn y cynllun,
'Er mwyn cyflawni’r amcanion yn y Cynllun hwn bydd angen ymdrech benodol, wedi’i chydlynu, ledled y rhwydwaith cyflogadwyedd. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid wrth bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU... Awdurdodau Lleol, Prifysgolion, Colegau Addysg Bellach' ac yn y blaen.
'Bydd angen i’r ymdrech hon gofleidio hyblygrwydd ac arloesi, ac ar yr un pryd gadw’r pwyslais di-ildio ar welliant a chanlyniadau.'
Mae'n nodedig fod pob ardal yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU o ran cynhyrchiant, ond mae cyfartaledd y DU ei hun yn is na chyfartaledd llawer o economïau datblygedig eraill. Ond sut y bydd y galw ar y sector o ganlyniad i'r cynllun cyflogadwyedd yn cael ei ateb pan nad yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny?
Nodaf heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £8 miliwn i sicrhau rhywfaint o gydraddoldeb rhwng cyflogau darlithwyr addysg bellach ac athrawon. Mae angen y dalent orau sydd ar gael i addysgu ar sector addysg bellach cryf, ac mae'n rhaid i hynny ddod law yn llaw â chyflog sy'n adlewyrchu eu pwysigrwydd. Mae'n ddiddorol, mewn gwirionedd, fod manylion y cyhoeddiad hwn wedi'u rhoi heddiw mewn pryd ar gyfer y ddadl hon. Boed hynny'n gyd-ddigwyddiad ai peidio, fe'u croesewir. Credaf y dylid nodi yma hefyd fod cyd-undeb llafur addysg bellach yng Nghymru wedi dweud yn y gorffennol y dylai unrhyw gynnydd fod yn uwch na'r mynegai prisiau manwerthu, a bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod 10 mlynedd o gyfyngu ar gyflogau. Rwy'n gobeithio mai dyna sy'n cael ei gyhoeddi heddiw ac y bydd hynny'n gallu lleddfu'r pryderon hynny. Ond mae angen inni ddeall hefyd fod rhan o'r gŵyn a arweiniodd at bleidlais i streicio yn ymwneud nid yn unig â rhifau moel ond hefyd â llwyth gwaith sydd wedi cynyddu, sydd yn cynyddu ac sydd ar fin cynyddu ymhellach, heb fod y cyflogau a'r adnoddau'n adlewyrchu hynny.
Mae ein pwynt olaf yn pwysleisio'r hyn y credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon, waeth beth fo'n pleidiau, yn ei gydnabod: nad yw addysg bellach, yn y gwaith o lunio polisi, wedi cael y sylw angenrheidiol y mae'n ei haeddu, ac sydd ei angen ar y wlad hon os ydym yn dymuno cael economi sy'n llwyddo. Y peth rhwystredig i lawer ohonom yw y credaf fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn. Credaf fod y Gweinidog yn llygad ei lle pan ddywedodd, fel rhan o'i hymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fod yn rhaid i uwchsgilio a'r agenda sgiliau ehangach fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru. Ni chredaf eu bod ar hyn o bryd, ac ni chredaf ei bod hi'n meddwl eu bod ar hyn o bryd, yn ôl ei sylwadau i'r BBC. Credaf fod y datganiad hwn ddoe ynghylch cyllid i addysg bellach hefyd yn profi hyn. Cyfle coll arall, enghraifft arall o ddiwygio tameidiog.
Dengys cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o faint yr her, oherwydd mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi cyfrifo bod mwy na 15 miliwn o swyddi yn y DU mewn perygl yn sgil awtomeiddio, ac mae hynny’n gyfystyr â 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Mae’r felin drafod Centre for Cities yn awgrymu y bydd angen i ni ddod o hyd i swyddi i 110,000 o bobl yng Nghymru erbyn 2030 oherwydd awtomeiddio.'
Pan edrychwn ar yr adolygiadau cyllid a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf, adolygiad Hazelkorn ar gyllid hirdymor yn y dyfodol, adroddiadau ar arloesi, gwelwn fap sydd wedi’i osod allan yn gymharol dda ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yr hyn sydd ar goll yw menter strategol i ddod â’r darnau gwahanol hyn at ei gilydd a'u gwneud yn gyfan. Ac ni allwn barhau i aros. Mae gwledydd eraill yn cydnabod pwysigrwydd addysg bellach a dysgu gydol oes ac mae ganddynt strwythurau ar waith sy'n gosod y sector ar y blaen yn eu strategaethau economaidd. Mae'n amlwg, er enghraifft, yng Ngwlad y Basg; maent yn un o’r rhanbarthau uchaf y pen yn Ewrop, ond maent wedi cyrraedd yno o ganlyniad i’r pwyslais a roesant ar addysg. Maent wedi canolbwyntio buddsoddiad ar arloesi ac ymchwil a sgiliau yn gyffredinol, gyda chynlluniau sgiliau—eu pedwerydd cynllun sgiliau, sy'n clymu’r system addysg at ei gilydd fel un gyda chynlluniau, canllawiau a chyllid yn rhedeg drwodd gyda disgyblion 14 oed ymlaen.
Yng Nghymru, fel y nodais yn gynharach—. A ddoe, cawsom gyhoeddiadau ynglŷn â'r sector addysg bellach yn ymgysylltu mwy â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yr oedd Llywodraeth Cymru i'w gweld yn cydnabod nad oeddent yn gallu chwarae’r rhan ganolog y mae angen iddynt ei chwarae, gan iddynt gyhoeddi bod angen iddynt benodi ymgynghorydd annibynnol i helpu gyda’r ffordd ymlaen. Mae’r cyferbyniad yn wirioneddol drawiadol. Mae'r Ysgrifennydd addysg wedi dweud ei bod yn gobeithio y gellir ailwampio addysg bellach yn llwyr cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Nid gobeithio y gellir gwireddu hynny rwyf fi; rwy'n credu bod yn rhaid gwireddu hynny. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cynllunio'n strategol ar gyfer y ffordd ymlaen.
Nawr, fel y dywedais, rydym mewn sefyllfa amhosibl o ran economi Cymru. Ar ryw adeg, bydd angen inni wneud penderfyniad ynglŷn â sut i wneud cynnydd economaidd go iawn, gan nad yw ein dinasyddion yn mynd i oddef dau ddegawd arall o ddirywiad wedi'i reoli. Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon yn y gorffennol fod ein cynnyrch domestig gros, ar ddechrau datganoli, yn debyg i un Gweriniaeth Iwerddon; bellach, nid yw’r wlad honno’n gallu ein gweld yn eu drych ôl, hyd yn oed.
Mae’r fath beth â niweidio drwy wneud dim yn bosibl. Credaf mai’r hyn yr hoffem ei weld yw ymrwymiad i gyflwyno’r weledigaeth strategol sydd ei heisiau a'i hangen ar y sector; diogelu cyllid a blaenoriaethu ar gyfer cynnydd mewn termau real; cynllunio addysg a sgiliau fel eu bod yn cydblethu â’n hanghenion economaidd; cynyddu buddsoddiad mewn arloesi; a phenderfynu i ble rydym yn dymuno mynd fel cenedl—beth yw ein pwynt gwerthu unigryw, lle rydym am fuddsoddi ein sgiliau ar gyfer y dyfodol a beth rydym yn dymuno’i gyflawni? Sut y gallwn sicrhau bod ein busnesau'n fwy hyfyw yn fasnachol, creu mwy o entrepreneuriaid a chadw’r bobl a’u syniadau yma yng Nghymru, gan hyrwyddo Cymru a gweithio yng Nghymru? Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid iddynt ymateb i’r her a chyflawni yn y sector hwn.
Mae colegau addysg bellach yn rhan hanfodol o'n system addysg. Maent yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu gydol oes, o addysg alwedigaethol a thechnegol a sgiliau sylfaenol i gymwysterau academaidd a lefel uwch. O gofio bod datblygu sylfaen sgiliau gweithlu Cymru yn hanfodol ar gyfer tyfu economi Cymru, byddech yn disgwyl y byddai ariannu addysg bellach yn ddigonol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.
Ond nid yw hyn yn wir. O dan Lywodraeth Cymru, neu Lywodraeth Lafur Cymru, mae'r sector addysg bellach wedi'i danariannu'n sylweddol ers blynyddoedd lawer. Bydd y gyllideb ar gyfer y ddarpariaeth addysg bellach yn lleihau o ychydig o dan £401 miliwn yn 2018 i lai na £396 miliwn yn 2019-20. Dywed y swyddfa archwilio fod cyllid grant yn y sector wedi gostwng 13 y cant mewn termau real rhwng 2012 a 2017—o fewn pum mlynedd, Weinidog, mae wedi lleihau 13 y cant, sy'n ffigur syfrdanol.
Mae cyllid ar gyfer cyrsiau rhan-amser wedi gostwng 71 y cant dros yr un cyfnod. Mae'r effaith ar niferoedd myfyrwyr rhan-amser wedi bod yn ddramatig. Gostyngodd nifer y dysgwyr rhan-amser mewn sefydliadau addysg bellach o dros 85,280 yn 2014-15 i ychydig dros 65,345 yn 2015-16—dirywiad o bron i chwarter yn y niferoedd.
Mewn ymateb i danariannu gan Lywodraeth Cymru, mae colegau wedi rhoi cynnig ar sawl ffordd wahanol o greu incwm o ffynonellau eraill, ac maent wedi ennyn canmoliaeth am wneud hynny. Roedd adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru 2017 yn canmol colegau am ba mor wydn ac entrepreneuraidd y buont wrth ddenu ei hincwm masnachol eu hunain. Dywedasant,
'Mae’r sector wedi dangos cydnerthedd, gan gynnal cronfeydd arian parod wrth gefn a hylifedd a chynhyrchu gwargedau sylfaenol... bob blwyddyn.'
Rwy'n llwyr gefnogi'r modd y mae colegau'n cynyddu a datblygu eu hincwm masnachol, ac rwy'n eu llongyfarch am eu llwyddiant wrth wneud hynny. Fodd bynnag, mae'n ffaith o hyd mai grant Llywodraeth Cymru yw'r brif ffynhonnell o incwm dibynadwy i golegau. Ar hyn o bryd, nid yw'r ffynhonnell honno'n diwallu anghenion y sector. Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru yn datgan
'Ein nod yw creu’r awydd ym mhawb i ddysgu drwy gydol eu bywydau, a’u hysbrydoli i fod y gorau y gallant fod.'
Mae'n amlwg, o ran addysg bellach, mai Llywodraeth Cymru ei hun sy'n brin o uchelgais. Mae Cymru angen fformiwla deg ar gyfer ariannu addysg bellach, ychydig o gymorth a gynigir yn y gyllideb bresennol ar gyfer datblygiad parhaus mewn addysg bellach. Rydym angen fformiwla sy'n osgoi toriadau pellach i gyllid craidd colegau ac sy’n diwallu anghenion y sector, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol—un sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ei hun sef swyddi, sgiliau, twf ar lefel uchel a dysgu gydol oes a dysgu oedolion. Credaf y byddai hyn yn gwneud llawer i wella morâl y staff sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach.
Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr sy'n gweithio yn y sector â mi. Noda fod llawer o’i gydweithwyr yn ennill llai mewn termau real nag y gwnaent yn 2008—dros 10 mlynedd yn ôl, roedd ei incwm yn fwy na’r hyn y mae’n ei ennill ar hyn o bryd. Mae rhai wedi gorfod gwneud ail swyddi i gynnal eu teuluoedd, ac eraill wedi gadael y sector yn gyfan gwbl am well cyflog mewn meysydd eraill. Dyna brofiad darlithwyr, tiwtoriaid ac athrawon; maent yn gadael y sector am resymau ariannol. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. O ganlyniad, mae fy etholwr yn dweud bod prinder difrifol yng Nghymru o ymgeiswyr am swyddi sy'n galw am sgiliau arbenigol, megis darlithwyr adeiladu a pheirianneg.
Ddirprwy Lywydd, gall pob un ohonom gefnogi amcanion clodwiw Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg bellach, ond oni bai fod y sector yn cael ei ariannu'n briodol, ni fydd eu nodau’n cael eu cyflawni. Oni bai fod addysg bellach yng Nghymru yn cael y cyllid y mae ei angen ac y mae'n ei haeddu, ni fydd yn gatalydd ar gyfer y newid rydym ei daer angen.
Maes arall yr hoffwn ei grybwyll, Weinidog—.
Na, na. Rhaid ichi ddirwyn i ben. Mae eich amser yn dod i ben. Diolch.
Rhaid sicrhau bod pobl Affro-Garibïaidd, pobl anabl, pobl LGBT ac eraill yn cael addysg bellach hefyd. Ac yn olaf, ni ddylai tlodi fod yn rhwystr i addysg. Diolch.
Mae colegau addysg bellach Cymru yn chwarae rhan allweddol yn economi Cymru. Fel y mae ColegauCymru wedi ein hatgoffa, mae eu heffaith economaidd flynyddol ar y gymuned fusnes leol yn £4 biliwn. Ac yn ychwanegol at y cyfraniad hwn, heb os, mae ganddynt rôl strategol hanfodol i'w chwarae yn paratoi'r economi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Yn 'Ffyniant i Bawb', mae Llywodraeth Cymru'n nodi sut y bydd yn adeiladu economi sy'n seiliedig ar sylfeini cadarn, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau'r dyfodol a rhanbarthau wedi'u grymuso, a'r modd y defnyddir twf cynhwysol i leihau anghydraddoldebau cynhenid wrth i'n cyfoeth a'n lles wella. Ond fel y cawsom ein hatgoffa gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddoe ddiwethaf, er mwyn i Lywodraeth Cymru adeiladu economi sy'n gweithio i bawb, rhaid i'r sector addysg bellach fod wrth wraidd yr agenda hon. Ac mae'n hawdd gweld bod y sector addysg bellach yn darparu'r atebion a'r datrysiadau mewn perthynas ag ystod eang o heriau sy'n wynebu Cymru.
Er enghraifft, tua mis yn ôl, buom yn trafod adroddiad pwyllgor yr economi ar ddyfodol economi Cymru. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, clywsom dystiolaeth fod gweithwyr heb lawer o sgiliau, a menywod yn arbennig, yn debygol o fod mewn perygl yn sgil awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial. O ganlyniad, roeddem yn argymell y dylai ail-hyfforddi a gwella sgiliau fod yn ganolog ym mholisi dysgu gydol oes y Llywodraeth.
Mae hwn yn faes lle mae'r sector addysg bellach mewn sefyllfa dda i wneud y cyfraniad canolog hwnnw ac yn fwy na hynny, mae'n un lle y gall helpu i ddylanwadu ar beth y dylai natur y dyfodol hwnnw fod. Fel yr awgrymodd yr Athro Richard Davies, mae angen inni ddatblygu system drionglog o gyfnewid rhwng addysg bellach, cyflogwyr ac addysg uwch. Gallai hyn gynnwys yr angen i'r sector wneud rhai penderfyniadau anodd. Efallai na fyddant yn rhai poblogaidd. Er enghraifft, efallai y bydd raid i golegau benderfynu canolbwyntio ar y sgiliau TGCh y mae eu taer angen arnom ar gyfer y dyfodol, ac ehangu meysydd dysgu fel gwaith gwirioneddol gyffrous Coleg y Cymoedd ar adeiladu cynaliadwy. Gallai'r rhain fod ar draul meysydd addysgu poblogaidd eraill, ond wrth ddewis pa gyrsiau i ganolbwyntio arnynt a'u blaenoriaethu, mae gwir raid inni gofio'r budd gorau i'r economi ac i'n gwlad. Felly, rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ddoe fod ei swyddogion wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd yn well â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae hyn yn allweddol i ddatblygiad cyflogaeth eglur, osgoi gwaith am gyflogau isel a sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion cyflogwyr lleol.
Mae dysgu oedolion yn y gymuned yn faes arall lle mae rhan bwysig gan y sector addysg bellach i'w chwarae. Mae llawer o waith da eisoes yn digwydd, ond hoffwn weld mwy o weithio mewn partneriaeth gydag addysg oedolion yn y gymuned, mwy o allgymorth i'r cymunedau mwyaf heriol, a mwy o gydgysylltu ar y rheng flaen i sicrhau bod y rhai mwyaf anodd eu cyrraedd yn cael eu dwyn i mewn i'r amgylchedd dysgu. Gwn fod y Gweinidog wedi siarad am newidiadau mewn perthynas â darpariaeth ran-amser, a gallai hynny fod yn arbennig o bwysig yma.
Wrth gwrs, mae cyflawni'r nodau hyn yn dibynnu ar sicrhau bod addysg bellach yn cael ei hariannu'n briodol. Yng nghampws newydd yr unfed ganrif ar hugain yng Ngholeg y Cymoedd, Aberdâr, ceir symbol gweladwy iawn o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyn. Cyfeiriodd y Gweinidog ddoe at arian ychwanegol a fydd ar gael i'r sector. Wrth gwrs, ni ellir cyflawni dim o hyn heb weithlu cefnogol sydd, yn ei dro, yn teimlo'i fod yn cael ei gefnogi a'i werthfawrogi. O'r safbwynt hwn, rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe ynglŷn â chyflogau. Mae'n gam pwysig ymlaen ac yn newyddion i'w groesawu y caiff cyllid ei ddarparu er mwyn i ddarlithwyr addysg bellach gael dyfarniad cyflog sy'n cyfateb i un athrawon ysgol. Yn bwysig, bydd hyn hefyd yn cael ei ymestyn i gynnwys staff ategol allweddol, fel technegwyr ac arddangoswyr hyfforddi hefyd. Mae hwn yn ymyriad allweddol yn fy marn i gan Lywodraeth Cymru. Gyda fy nghyd-Aelodau Mick Antoniw a Hefin David, cefais drafodaethau gydag aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yng Ngholeg y Cymoedd ac rwy'n gobeithio y byddai'r camau hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at ddangos i'r staff dan sylw cymaint y cânt eu gwerthfawrogi; faint o barch sydd i'w gwaith a'u cyfraniad.
Wrth gwrs, ni allwn ddadwneud effaith obsesiwn Llywodraeth y DU â chyni. Mae Cymru £4 biliwn ar ei cholled i bob pwrpas o ganlyniad i agenda cyni Llywodraeth y DU ac nid oes unrhyw amheuaeth fod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi dioddef o ganlyniad. Ond gallwn weithio gyda'r sector i gyflawni ein nodau cyffredin, ac ni allwn sicrhau ffyniant i bawb heb inni barhau i fuddsoddi mewn addysg bellach.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma sydd yn rhoi llwyfan i ni allu trafod cyllido addysg bellach yma yng Nghymru. Rwy'n llongyfarch Bethan ar ddod â'r cynnig gerbron a hefyd am ei holl waith yn y cefndir i wireddu beth rydym ni wedi'i weld yn y cynnig sydd o'n blaenau ni.
Cyn imi fynd ymlaen, mae'n bwysig hefyd i dalu teyrnged, fel y mae eraill wedi'i wneud, i'r gwaith clodwiw sy'n cael ei wneud yn y maes yn ein gwahanol golegau addysg bellach. Roeddwn i yng Ngholeg Gŵyr wythnos diwethaf, yn Nhycoch, Abertawe, ac roeddwn i yna ryw ddeufis yn ôl hefyd. Mae'n rhaid dweud, mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen, yn enwedig yng Ngholeg Gŵyr achos mae ganddyn nhw ganolfan yn fanna sydd yn addysgu'r sawl sydd efo awtistiaeth. Mae o yn adnodd bendigedig, arloesol a dweud y gwir, sy'n rhoi digon o amser tawel i'n pobl ifanc ni sydd ag awtistiaeth i allu cael addysg—weithiau am y tro cyntaf. Hynny yw, dod i mewn i'r system addysg am y tro cyntaf mewn awyrgylch sydd yn hynod ddeniadol iddyn nhw efo beth sydd gyda nhw yn y cefndir a'r holl broblemau y maen nhw wedi bod drwyddyn nhw, ac mae yna adnodd bendigedig gyda staff bendigedig sy'n rhoi'r amser a'r teilyngdod i'r gwahanol heriau sydd gyda'n pobl ifanc ni sydd â chyflwr awtistiaeth. Mae yna ragolygon fod y gwaith bendigedig yna sy'n mynd ymlaen yng Ngholeg Gŵyr yn dod ac yn blodeuo ac mae'r lle yn ehangu y ddarpariaeth gogyfer hynny ac mae hynny'n fater pwysig.
Yn nhermau sgiliau, rydym ni'n sôn am gryfhau a rhoi dyfodol gwirioneddol i'n pobl ifanc ni, beth bynnag yw eu cefndir a beth bynnag yw eu gwahanol heriau gwasanaeth iechyd nhw hefyd. Felly, mae yna waith rhyfeddol yn mynd ymlaen ac mae eisiau tynnu sylw at hynny, er yr holl bwyslais a'r holl bwysau yn y cefndir, wrth gwrs, ynglŷn â chyllido a'r pwysau sydd ar gyllido.
Fel mae'r darn cyntaf o'r cynnig yma'n ei ddweud—. Mae'r cynnig yn dweud, rydym ni'n
'gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.'
Wel, mater o ffaith ydy hynny. Nid ydw i'n credu y buasai neb yn cwympo allan yn nhermau hynny ac mae hynny'n osodiad synhwyrol iawn i roi gerbron ac nid ydw i'n credu y buasai neb yn dadlau efo hynny. Wrth gwrs, rydym ni yn mynegi pryder, fel y mae rhan arall o'r cynnig yma'n ei ddweud:
'mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol'— fel maen nhw'n eu gweld—a hefyd y pryderon rydym ni wedi clywed amdanyn nhw eisoes ynglŷn â llwythi gwaith trwm.
Yn y cyd-destun, fel rydw i wedi'i ddweud eisoes yn nhermau Coleg Gŵyr, fod yna waith bendigedig yn mynd ymlaen, mae yna bobl yn gweithio yn galed, galed iawn dros ddyfodol ein pobl ifanc ni. Achos ar ddiwedd y dydd, fel y mae Bethan wedi'i ddweud eisoes yn gosod y sefyllfa allan mewn ffordd mor glir y prynhawn yma, rydym ni'n sôn am sgiliau, yr agenda sgiliau. Yn y pen draw, rydym ni'n sôn am swyddi i'n pobl ifanc. Mae'n dal yn her sylweddol i'n pobl ifanc ni i gael swyddi i ddechrau, i gael troed yn y farchnad yna, i gael swydd am y tro cyntaf. Mae'n hanfodol bwysig eu bod nhw'n cael yr holl gefnogaeth i gyrraedd y sefyllfa yna i wneud hynny.
Oes, mae angen gweledigaeth glir ar ran y Llywodraeth, fel y mae Bethan wedi'i nodi eisoes, achos hefyd ar y gorwel, fel rydym ni i gyd yn ei wybod—. Rydym ni’n gwybod bod ariannu addysg bellach yn dod o nifer o wahanol ffynonellau. Wrth gwrs, mae yna her sylweddol i’r ffrwd yna sydd yn dod o Ewrop nawr achos, wrth gwrs, fel rydym ni i gyd yn gwybod bellach, buaswn i’n gobeithio, fod Brexit gerbron ac mae yna heriau sylweddol i beth sy’n digwydd efo ariannu o unrhyw ffynhonnell Ewropeaidd sydd yn mynd tuag at ein colegau addysg bellach ni. Mae yna her sylweddol yn fanna. Rydym ni’n edrych ymlaen, wrth gwrs, i weld bod yr addewidion ynglŷn â chyllido Ewropeaidd sy’n dod i’r sector yma, a sawl sector arall yng Nghymru, a oedd yn arfer dod o dan gronfeydd Ewropeaidd yn cael eu gwireddu, a bod yr un math o bres yn mynd i ddod i’n colegau addysg bellach ag y maen nhw wedi bod yn ei gael o dan adnoddau Ewropeaidd yn y gorffennol.
Ond i grynhoi, felly, rydw i’n falch iawn i gyfarch Bethan ar ei gwaith caled y tu ôl i’r llenni yn fan hyn, yn dod â’r cynnig yma gerbron, a buaswn i’n annog pob un ohonoch chi i gefnogi’r cynnig. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddweud hyn: o na bai bywyd mor syml ag y mae'r cynnig hwn yn ceisio awgrymu? O na baem yn gallu pasio cynigion sydd wedyn yn darparu arian i gyllido ein gwasanaethau cyhoeddus niferus, ond nid yw bywyd byth mor hawdd â hynny, yn anffodus, oherwydd, o'r hyn rwy'n ei wybod, ac er gwaethaf yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei ddweud, mae'n amlwg nad yw cyni ar ben a dyna yw'r cysgod sy'n parhau i hongian dros ein pennau. Mae pwysau cyni'n dal i wasgu ar ein gwasanaethau cyhoeddus, a rhaid gwneud dewisiadau anodd.
Ond yn groes i'r hyn a honnwyd gan y sawl a wnaeth y cynnig, un o'r dewisiadau a wnaed gan y Llywodraeth hon yw'r ymdrech i wella ein heconomi a chefnogi datblygu sgiliau i helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Ac rwy'n falch o weld bod y sector addysg bellach yn ganolog i'r agenda honno i adeiladu economi Gymreig a all weithio i bawb. Rwyf wedi gweld yr agenda honno'n cael ei rhoi ar waith yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, lle mae gennym gyfleuster ardderchog yng ngholeg Merthyr Tudful sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd academaidd a galwedigaethol—miloedd o bobl yn elwa ar y buddsoddiad mewn rhaglenni sgiliau, gan helpu i drawsnewid cyfleoedd bywyd. Mae'n dangos dyfnder a chyrhaeddiad ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector addysg bellach, wedi'i chynorthwyo mewn cymaint o ffyrdd gan gyllid o'r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod addysg ôl-16 yn darparu'r hyn y mae dysgwyr a chyflogwyr yn chwilio amdano.
Ond wrth gwrs, ceir heriau o hyd wrth helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir neu ddewisiadau nad ydynt o reidrwydd yn cyd-fynd â'r ystrydeb ond sy'n manteisio ar y doniau a fydd gan bobl ond nad ydynt wedi'u datblygu eto. Er enghraifft, ym Merthyr Tudful—a gwn fy mod wedi trafod hyn o'r blaen gyda'r Gweinidog—rhaid imi ddweud y byddai'n dda pe gallem weld mwy o fenywod yn dod yn beirianwyr yn hytrach na phobl trin gwallt neu fwy o ddynion yn dod yn ofalwyr yn hytrach nag adeiladwyr, gan y gwyddom fod gwneud y dewisiadau cywir ynglŷn â sgiliau a dysgu yn gallu agor drysau i gyfleoedd gwaith a chyflogau gwell. Felly, rhaid i'r sector sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng dewis dysgwyr ac anghenion cyflogwyr lleol, ac felly rwy'n croesawu'r cynnig y dylai partneriaethau sgiliau helpu i benderfynu ar yr anghenion a'r cyfleoedd y mae'r rhain yn eu darparu.
O ystyried yr her yn rhai o'n cymunedau yn y Cymoedd, rwy'n croesawu'r ymchwil a gyhoeddodd y Gweinidog ddoe i ymgodiad amddifadedd oherwydd rwy'n credu weithiau fod angen help llaw ychwanegol er mwyn ymyrryd, torri cylchoedd amddifadedd a helpu i wella symudedd cymdeithasol. Sgiliau a dysgu yw'r allwedd i hyn.
Yn olaf, a gaf fi groesawu'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ddarparu arian i helpu gyda'r dyfarniad cyflog ar gyfer staff addysgu a chymorth mewn addysg bellach? Gobeithio y bydd yn helpu i atal yr anghydfod cyflog rhag gwaethygu, oherwydd rwyf wedi bod yn bryderus ynglŷn â'r ffordd y mae pethau wedi bod yn mynd gyda'r negodiadau cyflog addysg bellach. Rwyf wedi bod yn bryderus y byddai darlithwyr addysg bellach ar eu colled o gymharu ag athrawon dosbarth chwech mewn ysgolion, ac rwyf wedi bod yn bryderus y byddai staff cymorth addysg bellach ar eu colled o gymharu â darlithwyr ac athrawon o safbwynt eu dyfarniadau cyflog. Ac fel y dywedodd Vikki Howells, ni all ysgolion a cholegau weithredu heb staff cymorth, ac eto y grŵp hwnnw, sydd ymysg y rhai ar y cyflogau isaf yn y sector, sydd wedi bod ar y llwybr tuag at gytundeb cyflog digyfnewid arall ac sydd wedi dod yn bêl-droed wleidyddol yn y frwydr gyda Llywodraeth Cymru am gyllid i golegau. Yn fy nhrafodaethau gyda'u hundeb, Unsain, gwn eu bod bellach yn edrych am driniaeth gyfartal o ran dyfarniadau cyflog rhwng staff darlithio a staff cymorth, oherwydd mae darparwyr addysg bellach yn dibynnu ar eu tîm staff cyfan i gyflawni'r canlyniadau gorau. Ond rwy'n glir hefyd nad ydym yn datrys anghydfod cyflog drwy basio cynigion yn y Senedd hon; mater i'r cyflogwyr a'r undebau llafur yw hynny. Ac o ystyried y cyhoeddiad ddoe, rwy'n gobeithio y gall y ddwy ochr ddod at ei gilydd yn awr i ddatrys yr anghydfod cyflog, sy'n amlwg wedi bod yn mynd rhagddo'n rhy hir. Gyda datganiad y Gweinidog ddoe, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad clir i addysg bellach a'i phwysigrwydd i'n heconomi, a dylai pawb groesawu hynny.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â chyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein colegau addysg bellach yn ddolen hanfodol yn y gadwyn addysg ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol ac yn cael adnoddau digonol. Cefais y pleser o weithio'n agos gyda choleg Gŵyr yn fy rhanbarth i, coleg addysg bellach mawr gyda dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o dysgwyr rhan-amser o bob rhan o'r rhanbarth. Mae'r awyrgylch yng ngholeg Gŵyr yn well na'r un, ac anogir y disgyblion i fod y gorau y gallant fod. Mae rhai disgyblion ag awtistiaeth, ac mae'r darlithwyr yn gweithio'n galed iawn i roi'r gefnogaeth y maent ei hangen i ddisgyblion yn ôl eu hanghenion. Maent wedi cyflawni pethau anhygoel.
Mae'r coleg yn falch o'r ffaith mai yno y ceir y garfan fwyaf yng Nghymru o bobl ifanc sy'n gwneud Safon Uwch gyda dros 1,500 o fyfyrwyr yn astudio amrywiaeth o bron i 50 o bynciau Safon Uwch gwahanol. Mae coleg Gŵyr, fel pob coleg addysg bellach, yn chwarae rhan hollbwysig yn addysgu ein pobl ifanc a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes ar gyfer pobl o bob oed. Felly, mae'n destun pryder fod toriadau cyllid yn bygwth y rôl hanfodol hon.
Mae ein colegau addysg bellach yn wynebu galw cynyddol gan y Llywodraeth, ac eto maent wedi parhau i weld toriadau i'w cyllidebau. Mae'r sector addysg bellach yn darparu gwasanaeth yr un mor werthfawr â'r hyn a ddarperir gan ein hysgolion, ac eto yn wahanol i ysgolion, nid yw eu cyllidebau'n cael eu diogelu, a'r staff sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y toriadau hynny. Mae darlithwyr coleg yn ei chael hi'n anodd wedi blynyddoedd o godiadau cyflog gwael. Mae darlithwyr addysg bellach yn chwarae rhan yr un mor werthfawr ag athrawon ac eto nid ydynt yn cael eu trin yr un fath. Mae llawer o ddarlithwyr wedi dweud eu bod yn methu talu eu rhent neu'n cael eu gorfodi i wneud ail swyddi er mwyn cael deupen llinyn ynghyd. Nododd staff mewn un coleg eu bod yn mynd heb brydau bwyd yn rheolaidd oherwydd na allent eu fforddio.
Nid yw'n syndod fod staff addysg bellach wedi pleidleisio i fynd ar streic. Mae hyn yn rhoi'r colegau mewn sefyllfa amhosibl. Mae eu cyllid wedi'i dorri'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf: toriad cyffredinol o 6 y cant yn 2015-16, a thorrwyd cyllid rhan-amser yn ei hanner yn y cyfnod hwnnw hefyd. Yn y saith mlynedd diwethaf, nid yw cyllid i'r sector addysg bellach wedi cynyddu y nesaf peth i ddim, ond mae eu costau, sy'n cynnwys dyfarniadau cyflog, wedi cynyddu dros 12.5 y cant. Mae cyfraniadau pensiwn colegau yn mynd i godi tua 40 y cant y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cytuno fan lleiaf i alwad ColegauCymru am gynnydd ar unwaith o 3.5 y cant ar gyfer y sector addysg bellach.
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ddoe, a gyhoeddodd y bydd arian yn cael ei ryddhau i ariannu dyfarniad cyflog sy'n gymesur â'r hyn a gaiff athrawon. Fodd bynnag, fel bob amser, rydym yn aros i weld y manylion. Edrychaf ymlaen at weld darlithwyr a staff colegau'n cael codiad cyflog o 3.5 y cant, ond o ystyried sylwadau'r Gweinidog am fethodoleg well ar gyfer ariannu addysg bellach, rwy'n aros i weld y manylion gan na ddynododd y Gweinidog unrhyw gynnydd yn y cyllid.
Mae colegau megis coleg Gŵyr yn amhrisiadwy ac ni allwn fforddio eu colli. Mae'n bryd gwrthdroi'r toriadau a sicrhau bod colegau a'r rhai sy'n eu staffio'n cael eu hariannu'n briodol a'u trin yn deg. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch i chi.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan?
Diolch yn fawr, a diolch i'r Aelod a wnaeth gyflwyno'r ddadl a'r rheini sydd wedi cyfrannu hefyd. A gaf i ei gwneud hi'n glir fy mod i, fel cymaint ohonoch chi, yn flin bod ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg bellach, wedi bod o dan bwysau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Mae'n rhaid i mi danlinellu, wrth gwrs, mai agenda cyni Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig sydd yn gyfan gwbl gyfrifol am hyn, ac mae hyn wedi atal posibiliadau i ni fynd ymhellach nag y byddem ni wedi hoffi mynd i gynnal a chefnogi y sector pwysig yma. Ac wrth gwrs fy mod i’n ymwybodol dros ben o’r ffigurau y gwnaeth Mohammad Asghar eu cyflwyno gynnau.
Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod bod y sector addysg bellach yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru, ac mae’r sector mewn lot gwell cyflwr na’r system addysg bellach dros y ffin. Fel canlyniad i’r toriadau, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r arian sydd gyda ni a'n bod ni’n darparu gwasanaeth ar draws Cymru mewn ffordd deg. A dyma un o’r rhesymau pam ein bod ni wedi newid y ffordd y byddwn ni’n ariannu ac yn cytuno i raglenni cynllunio effeithiol fel ein bod ni’n ymateb i newidiadau demograffig ac yn ymateb i anghenion yr economi lleol. Rŷm ni wedi neilltuo £7 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb drafft 2019-20 i gefnogi’r sector addysg bellach i fynd i’r afael â’r newidiadau o ran demograffeg.
Nawr, mae’r datganiad heddiw yn sôn am y galw ychwanegol a fydd yn dod fel canlyniad i’r rhaglen gyflogadwyedd. Un o’r pethau a oedd yn glir yn y rhaglen gyflogadwyedd oedd bod angen i ni gynyddu nifer y cyrsiau sy’n ymateb i’r galw gan gyflogwyr. Fel canlyniad, byddaf yn cynnig syniad i’r colegau roi blaenoriaeth i’r rhain dros gyrsiau eraill maen nhw’n eu darparu heddiw, yn y ffordd y gwnaeth Dawn Bowden sicrhau ei bod hi wedi amlinellu. Ond mae’n rhaid pwysleisio bod y rhain yn gyrff annibynnol, er eu bod nhw’n cael eu hariannu’n sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Credaf hefyd ei bod hi'n werth pwysleisio nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw gwella sgiliau a hyfforddi'r gweithlu. Mae angen i gyflogwyr hefyd roi eu dwylo yn eu pocedi gan mai'r cyflogwyr a fydd yn elwa o wella cynhyrchiant yn y pen draw. Mae angen inni weld y cyflogwyr yn gwneud rhagor o ran paratoi a hyfforddi a buddsoddi o ddifrif yn eu gweithwyr eu hunain. Rydym yn edrych ac yn ceisio dysgu o'r enghreifftiau o Wlad y Basg, felly rydym yn cadw llygad manwl ar beth sy'n digwydd yno i weld a allwn ddysgu o'u henghreifftiau hwy.
Nid wyf i eisiau ailadrodd y pwyntiau wnes i ddoe, felly byddwn i’n argymell i bobl ddarllen y datganiad os ydych chi eisiau gwybod mwy am y ffordd y byddwn ni’n cyllido colegau addysg bellach yn y dyfodol.
Rwy'n credu bod ein sector addysg bellach yn un y dylem fod yn falch ohono. Cynhaliwyd The Skills Show, a reolir gan WorldSkills UK, yn Birmingham yr wythnos diwethaf, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod ffigurau dangosol yn dangos bod tîm Cymru wedi dod â chyfanswm o 51 o fedalau yn ôl adref, gan gynnwys 14 medal aur, 20 medal arian, 12 medal efydd a chwe chanmoliaeth arbennig. Mae'n fwy nag y cafwyd y flwyddyn flaenorol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gennym bedwar coleg o Gymru yn y 10 uchaf yng nghynghrair y darparwyr: Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Gwent a Choleg Gŵyr Abertawe. Credaf fod y marc ansawdd hwnnw'n rhywbeth rydym yn edrych amdano o ddifrif yn ein colegau, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwella ein safonau o un flwyddyn i'r llall. Nid yw colegau byth yn peidio â bod yn arloesol o ran cynllunio'r cwricwlwm, ac rydym angen iddynt edrych am ffyrdd newydd a gwell o gyflwyno'r ddarpariaeth bob amser. Mae'n amlwg fod staff mewn sefydliadau addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cymorth parhaus a'u brwdfrydedd a'u hymroddiad i'r dysgwyr yn eu gofal.
Wrth gwrs, rydym wedi bod yn monitro'n ofalus y negodiadau cyflogau addysg bellach sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac er mai cyfrifoldeb colegau addysg bellach Cymru yw'r negodiadau hyn o hyd, yn uniongyrchol gyda'r undebau, drwy gorff ymbarél ColegauCymru, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at gadeirydd ColegauCymru i gyhoeddi y byddem yn cefnogi codiad cyflog, nid yn unig i'r staff addysgu, fel y soniais ddoe, ond hefyd i staff cymorth. Felly, byddwn yn darparu £3.2 miliwn yn 2018-19 a £4.8 miliwn yn 2019-20, yn amodol, wrth gwrs, ar basio a chymeradwyo cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu help a chymorth ychwanegol ar gyfer cyflogau yn 2018-19 a 2019-20, gan gydnabod bod y rhain yn amgylchiadau eithriadol, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i anwybyddu ei chap cyflog ei hun o 1 y cant ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus ac i ffurfio dyfarniad cyflog o hyd at 3.5 y cant ar gyfer staff addysgu. Rydym yn falch fod hwnnw bellach wedi ei gywiro gan Lywodraeth Cymru.
Rwyf am ddiolch i'r sector addysg bellach cyfan am eu gwydnwch a'u hyblygrwydd drwy'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd. Mae'r sector yn chwarae rhan hanfodol yn darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein dysgwyr i fynd i'r afael â galwadau ein heconomi. Mae ein neges yn glir: rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r system addysg orau a allwn i ddysgwyr o bob oed. Ond fel Llywodraeth, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y penderfyniad hwn oherwydd mae'n methu nodi bod y toriadau i gyllid wedi'u hachosi gan bolisïau cyni'r Torïaid. Yn ail, nid ydym yn derbyn bod pwysau ychwanegol wedi'i roi ar golegau addysg bellach o ganlyniad i'r cynllun cyflogadwyedd. Rydym yn awgrymu eu bod yn ail-flaenoriaethu'r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig i ymateb i alwadau'r farchnad lafur. Yn drydydd, rydym yn falch ein bod wedi gallu cefnogi staff addysg bellach, yn ddarlithwyr a staff cymorth, wrth iddynt alw am fwy o gyflog, a gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i osgoi gweithredu diwydiannol.
Yn olaf, er ein bod yn cytuno na fyddem eisiau gweld unrhyw ostyngiad pellach yn y cyllid a roddir i addysg bellach oherwydd ei rôl allweddol yn ffurfio sgiliau yfory, ni allwn roi'r ymrwymiad hwn tra bo gennym Lywodraeth Dorïaidd sy'n benderfynol o fwrw ymlaen gydag agenda cyni. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl? Bethan.
Diolch. Diolch i chi, bawb sydd wedi cymryd rhan. O'r hyn y gallaf ei gasglu, mae gennym gonsensws yn y ffaith bod pawb ohonom yn cefnogi addysg bellach ac rydym oll am ei gweld yn cael ei blaenoriaethu. Rwy'n tybio mai lle rydym yn anghytuno yw yn ein gwleidyddiaeth ac yn ein dadansoddiad o'r flaenoriaeth sydd iddi i Lywodraeth Cymru. Fe wneuthum gydnabod y buddsoddiad a wnaed yn y materion staffio, ond wrth gwrs, nid yw hyn yn beth newydd. Ers cael fy ethol yn 2007, cafwyd anghydfodau cyflog parhaus mewn perthynas â thelerau ac amodau addysg bellach o ran llwyth gwaith. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr—rwy'n gwirioneddol obeithio—y bydd modd i hyn atal unrhyw weithredu posibl yn y dyfodol ac y gall pawb ohonom gydweithio i sicrhau bod y sector yn cael y parch y mae'n ei haeddu. Oherwydd fe wyddom o'r hyn a ddywedodd Caroline Jones, o'r hyn a ddywedodd Mohammad Asghar a'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd—teimlir y pwysau ar lawr gwlad yn realiti pob dydd y colegau yn ein hetholaethau. Mae darlithwyr a thiwtoriaid a staff yn dod atom i ddweud cymaint o bwysau y maent yn ei deimlo yn y sefyllfa bresennol, sut y maent yn gadael y sector a sut y maent yn teimlo na allant ymrwymo i'r sector y maent mor hoff ohoni, ac yn mynd i swyddi newydd. Ni allwn weld bod hyn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni sicrhau bod y staff hyn yn aros yn y sector addysg bellach.
Nawr, rwy'n credu y dylwn dynnu sylw at y pwynt a wnaeth Dawn Bowden am y ffaith bod hyn yn dweud 'wrth galon economi Cymru'. Pe bai wrth galon economi Cymru, ni fyddai'r Gweinidog o'ch blaen wedi dweud nad oedd wrth wraidd yr hyn roedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â dysgu gydol oes. Pe bai wrth wraidd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ni fyddai angen i mi fod wedi dod â'r ddadl i lawr y Siambr yma heddiw. Nid wyf eisiau gorfod dweud bod y toriadau hyn yn digwydd, ond maent yn digwydd, ac mae'n fater o flaenoriaethu, nid yn unig i Lywodraeth y DU, ond i Lywodraeth Cymru hefyd, o ran ble y maent yn dyrannu'r cronfeydd hyn. Ers cael fy ethol yn 2007, nid yw'r blaenoriaethu hwnnw wedi digwydd. Os yw'n mynd i newid yn awr, mae hynny'n wych, ond roeddwn yn y pwyllgor economaidd y bore yma, a dywedwyd bod ein lefelau cynhyrchiant yn dal i fod yn isel iawn mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n arwydd fod colegau addysg bellach yn cael eu rhoi wrth wraidd ein heconomi yma yng Nghymru.
Diolch i Dai Lloyd, sydd wedi dweud yn blwmp ac yn blaen pa mor bwysig yw’r sector yma i ni, ac wedi mynd i goleg Gŵyr yn fy ardal i hefyd, ac yn ardal Caroline Jones, sydd wedi dweud am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gyda phobl gydag awtistiaeth yn yr ardal yma. Beth sydd yn bwysig yw caniatáu i’r colegau allu arloesi ac i allu helpu sectorau gwahanol o gymdeithas i allu esblygu a datblygu yn hynny o beth.
Oscar, fe gyfeirioch chi at amrywiaeth ac rwy'n meddwl bod hynny'n wirioneddol bwysig. Rhaid inni sicrhau ein bod yn annog pobl o bob cefndir i allu gwella'u sgiliau a chymryd rhan yn ein strwythurau addysg bellach. Roeddem yng nghampws Trefforest yr wythnos diwethaf, lle y cyfarfuom ag entrepreneuriaid ifanc o wahanol gefndiroedd, ac weithiau, os ydych yn tyfu fyny mewn rhai cymunedau yng Nghymru, efallai na fyddwch o anghenraid yn meddwl am ddechrau busnes, efallai na fyddwch o reidrwydd yn meddwl sut y gallwch fod yn arloesol yn y ffordd honno. Felly, credaf fod y digwyddiad a gynhaliwyd gennym i geisio gweld sut y gallwn gadw'r arbenigedd hwnnw yng Nghymru a sut y gallwn ddatblygu hynny ar gyfer y dyfodol yn un ysbrydoledig iawn.
Vikki Howells, fe sonioch am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac fe sonioch am y buddsoddiad yn eich ardal chi, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Fe sonioch chi hefyd am gyllid, am staff cymorth, a'r ffaith eich bod wedi cyfarfod ag aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, a chredaf fod hynny'n wirioneddol bwysig hefyd, er mwyn inni sicrhau bod ein hymwneud ag undebau llafur yn fyw ac yn iach.
Ac yn yr amser bach iawn sydd gennyf ar ôl, rwyf am grybwyll Caroline Jones. Fe sonioch chi am ymweld â choleg Gŵyr—mae coleg Gŵyr wedi cael cryn dipyn o sylw yma heddiw—a'r parch a oedd gennych i'r gwaith sy'n cael ei wneud yno.
Felly, diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl, ac rwy'n gobeithio mai hon yw'r gyntaf o lawer ar addysg bellach yma.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.