Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â chyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein colegau addysg bellach yn ddolen hanfodol yn y gadwyn addysg ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol ac yn cael adnoddau digonol. Cefais y pleser o weithio'n agos gyda choleg Gŵyr yn fy rhanbarth i, coleg addysg bellach mawr gyda dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o dysgwyr rhan-amser o bob rhan o'r rhanbarth. Mae'r awyrgylch yng ngholeg Gŵyr yn well na'r un, ac anogir y disgyblion i fod y gorau y gallant fod. Mae rhai disgyblion ag awtistiaeth, ac mae'r darlithwyr yn gweithio'n galed iawn i roi'r gefnogaeth y maent ei hangen i ddisgyblion yn ôl eu hanghenion. Maent wedi cyflawni pethau anhygoel.
Mae'r coleg yn falch o'r ffaith mai yno y ceir y garfan fwyaf yng Nghymru o bobl ifanc sy'n gwneud Safon Uwch gyda dros 1,500 o fyfyrwyr yn astudio amrywiaeth o bron i 50 o bynciau Safon Uwch gwahanol. Mae coleg Gŵyr, fel pob coleg addysg bellach, yn chwarae rhan hollbwysig yn addysgu ein pobl ifanc a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes ar gyfer pobl o bob oed. Felly, mae'n destun pryder fod toriadau cyllid yn bygwth y rôl hanfodol hon.
Mae ein colegau addysg bellach yn wynebu galw cynyddol gan y Llywodraeth, ac eto maent wedi parhau i weld toriadau i'w cyllidebau. Mae'r sector addysg bellach yn darparu gwasanaeth yr un mor werthfawr â'r hyn a ddarperir gan ein hysgolion, ac eto yn wahanol i ysgolion, nid yw eu cyllidebau'n cael eu diogelu, a'r staff sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y toriadau hynny. Mae darlithwyr coleg yn ei chael hi'n anodd wedi blynyddoedd o godiadau cyflog gwael. Mae darlithwyr addysg bellach yn chwarae rhan yr un mor werthfawr ag athrawon ac eto nid ydynt yn cael eu trin yr un fath. Mae llawer o ddarlithwyr wedi dweud eu bod yn methu talu eu rhent neu'n cael eu gorfodi i wneud ail swyddi er mwyn cael deupen llinyn ynghyd. Nododd staff mewn un coleg eu bod yn mynd heb brydau bwyd yn rheolaidd oherwydd na allent eu fforddio.
Nid yw'n syndod fod staff addysg bellach wedi pleidleisio i fynd ar streic. Mae hyn yn rhoi'r colegau mewn sefyllfa amhosibl. Mae eu cyllid wedi'i dorri'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf: toriad cyffredinol o 6 y cant yn 2015-16, a thorrwyd cyllid rhan-amser yn ei hanner yn y cyfnod hwnnw hefyd. Yn y saith mlynedd diwethaf, nid yw cyllid i'r sector addysg bellach wedi cynyddu y nesaf peth i ddim, ond mae eu costau, sy'n cynnwys dyfarniadau cyflog, wedi cynyddu dros 12.5 y cant. Mae cyfraniadau pensiwn colegau yn mynd i godi tua 40 y cant y flwyddyn nesaf. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cytuno fan lleiaf i alwad ColegauCymru am gynnydd ar unwaith o 3.5 y cant ar gyfer y sector addysg bellach.
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ddoe, a gyhoeddodd y bydd arian yn cael ei ryddhau i ariannu dyfarniad cyflog sy'n gymesur â'r hyn a gaiff athrawon. Fodd bynnag, fel bob amser, rydym yn aros i weld y manylion. Edrychaf ymlaen at weld darlithwyr a staff colegau'n cael codiad cyflog o 3.5 y cant, ond o ystyried sylwadau'r Gweinidog am fethodoleg well ar gyfer ariannu addysg bellach, rwy'n aros i weld y manylion gan na ddynododd y Gweinidog unrhyw gynnydd yn y cyllid.
Mae colegau megis coleg Gŵyr yn amhrisiadwy ac ni allwn fforddio eu colli. Mae'n bryd gwrthdroi'r toriadau a sicrhau bod colegau a'r rhai sy'n eu staffio'n cael eu hariannu'n briodol a'u trin yn deg. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch i chi.