Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch. Cyflwynais y ddadl hon heddiw, dadl a gyd-lofnodwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau yma—a diolch ichi am wneud hynny—am fod addysg bellach yng Nghymru wedi bod o dan bwysau ac nid yw wedi cael y gydnabyddiaeth a'r pwysigrwydd canolog y mae'n eu haeddu. Credwn fod addysg bellach ac addysg gydol oes yn allweddol i ddatgloi'r potensial yn economi Cymru. Am ormod o amser, cafodd addysg bellach ei hisraddio fel opsiwn llai gwerthfawr i sicrhau llwyddiant nag addysg uwch. Mae ymagweddau'r Llywodraeth tuag at addysg bellach wedi cadarnhau hyn, gan fod lefelau cyllid a gweledigaeth strategol, gydgysylltiedig a blaengar wedi bod yn brin yn y sector hwn—nid yn unig yn ddiweddar, ond ers peth amser. Mae'n bryd gwrthdroi hynny. Gwyddom fod addysg bellach wedi bod yn darged ar gyfer toriadau yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf a'r Cynulliad hwn. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at doriadau Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn anodd, mae'n wir, ac roedd hwnnw'n ddewis gwleidyddol, ond gwnaed dewis yma hefyd, dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae addysg bellach wedi cael ei gweld ers amser hir fel partner llai disglair i addysg uwch. Mae wedi bod, mewn rhai ffyrdd, yn darged haws na sectorau eraill ar gyfer cyfyngu ar wariant. Ers 2011-12, gwelwyd lleihad difrifol mewn termau real yn y gwariant, heb sôn am doriadau enbyd i gyrsiau rhan-amser, a gaiff eu hastudio'n bennaf gan fyfyrwyr sy'n oedolion a chan bobl sydd mewn gwaith.