Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn, mae'r cynnydd yn y galw am addysg bellach a chyfleoedd dysgu gydol oes wedi bod yn amlwg, fel y dylai fod. Mae'n rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio ein heconomi, ac i wneud hynny, dywedant wrthym, er mwyn rhoi'r sgiliau y byddant eu hangen i'n dinasyddion allu llwyddo mewn economi fodern. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw'r cyllid a'r weledigaeth wedi bod yn ddigonol. Soniaf am weledigaeth am reswm penodol iawn. Mae'n amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad oes arweinyddiaeth a map strategol wedi bod ar gael ar gyfer yr hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni. Cawn ystrydebau bachog a chawn ddatganiadau, ond rydym yn dal i aros am rywbeth hirdymor a diriaethol sy'n darparu strategaeth i wneud colegau ac addysg bellach yn rhan annatod o gynlluniau a pholisïau economaidd. Ar hyn o bryd, nid yw hyn yn digwydd a dyma sydd ei angen ar y sector.
Weithiau, yr unig ateb yw mwy o arian, ond ar adegau eraill ac mewn rhai sectorau, yr hyn sydd hefyd ei angen ac nad yw'n cael ei ddarparu bob amser yw eglurder o ran diben, eglurder o ran cyfeiriad, ac arweinyddiaeth. Mewn sawl agwedd ar fywyd cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n lân â gwneud hyn. Credaf y gallwn grynhoi ein hymagwedd tuag at addysg bellach yng Nghymru drwy ddweud ein bod mewn sefyllfa amhosibl. Mae arnom angen i'r economi fod yn well ac yn fwy cynhyrchiol gyda chyflogau uwch a gwell sgiliau. Sut rydym yn gwneud hynny? Drwy ganolbwyntio ar ddysgu gydol oes ac uwchsgilio ac addysg alwedigaethol o ansawdd uchel. Sut mae gwneud hynny? Mae'r rhan olaf yn benagored, oherwydd, hyd yn hyn, ni chredaf fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, ac nid yw'n siŵr beth y mae ei eisiau, er gwaethaf yr adolygiadau dirifedi a'r dystiolaeth ynglŷn â pha fap sydd orau ar gyfer y ffordd ymlaen.
Felly, mae ein cynnig heddiw yn ceisio adlewyrchu'r pwysigrwydd y credwn y dylai'r Senedd hon a'r Llywodraeth ei roi i addysg bellach. Yn gyntaf, mae toriad sylweddol wedi bod i'r swm o arian y mae addysg bellach yn ei dderbyn. Yn y pen draw, mae'r Blaid Lafur mewn grym yma yng Nghymru, mae hwn yn faes datganoledig, ac mae'n rhaid iddynt gymryd rhyw fath o gyfrifoldeb am y penderfyniadau gwleidyddol a wnaed ganddynt. Wrth gwrs, mae arian yn brin, ond mae ffyrdd o ddod o hyd i arian ychwanegol. Yn 2016, ni fel plaid oedd yr unig blaid â chynllun cyllideb pum mlynedd wedi'i asesu'n annibynnol gan yr Athro Gerry Holtham, a ddaeth i'r casgliad fod cynllun Plaid Cymru i nodi dros £600 miliwn o arbedion y flwyddyn yng nghyllideb Cymru yn rhesymol. Gallasom gyflwyno'r cynlluniau hyn am ein bod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio ein Llywodraeth.
Felly, mae dewisiadau i'w gwneud bob amser. Gyda Llywodraeth Cymru, mewn cytundebau cyllidebol diweddar, rydym wedi dewis dod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer addysg bellach. Gofynnodd y Llywodraeth am i'r sector colegau ddod yn llai dibynnol yn ariannol ar Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth y gallasant ei gyflawni, gan fynd o ddibyniaeth ariannol o oddeutu dwy ran o dair o'r grant bloc i ychydig dros hanner. Mae yna benderfyniadau y gellir eu gwneud a chamau gweithredu y gellir eu cymryd.
Mae’r sector colegau wedi dangos hyn drwy ddod yn fwy effeithlon yn ariannol, ond nid yw’r hyblygrwydd yn cael ei wthio i’r ymylon. Gwaethygir y broblem gan y fformiwla ariannu gymhleth—ac fel Gweinidog yr wrthblaid ar ran Plaid Cymru, rwy'n dechrau cael crap ar hynny bellach—a’r gwahanol botiau o arian, ffrydiau ariannu a rhaglenni sy'n rhan o’r sector. O gymharu â fformiwla sy’n symlach o lawer bellach ar gyfer addysg uwch, mae rhai pobl yn y sector wedi dweud wrthyf fod angen ailwampio'r sector addysg bellach ar gyfer y tymor hir.
Er bod cyllid y Llywodraeth wedi'i dorri, gofynnwyd i’r sector addysg bellach ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau ac i fod yn fwy canolog mewn perthynas ag uwchsgilio a chynhyrchiant. Rydym yn croesawu hyn, mae colegau addysg bellach mewn sefyllfa dda i wneud hyn. Ond erys y cwestiwn: faint y gellir ei gyflawni’n ymarferol ac yn effeithiol o ystyried y cynnydd yn y galw a'r ffaith nad oes cymaint o arian ar gael? Bydd llawer o gamau gweithredu cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn bethau i’r sector addysg bellach eu gwneud. Fel y nodwyd yn y cynllun,
'Er mwyn cyflawni’r amcanion yn y Cynllun hwn bydd angen ymdrech benodol, wedi’i chydlynu, ledled y rhwydwaith cyflogadwyedd. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid wrth bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU... Awdurdodau Lleol, Prifysgolion, Colegau Addysg Bellach' ac yn y blaen.
'Bydd angen i’r ymdrech hon gofleidio hyblygrwydd ac arloesi, ac ar yr un pryd gadw’r pwyslais di-ildio ar welliant a chanlyniadau.'