Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Credaf hefyd ei bod hi'n werth pwysleisio nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw gwella sgiliau a hyfforddi'r gweithlu. Mae angen i gyflogwyr hefyd roi eu dwylo yn eu pocedi gan mai'r cyflogwyr a fydd yn elwa o wella cynhyrchiant yn y pen draw. Mae angen inni weld y cyflogwyr yn gwneud rhagor o ran paratoi a hyfforddi a buddsoddi o ddifrif yn eu gweithwyr eu hunain. Rydym yn edrych ac yn ceisio dysgu o'r enghreifftiau o Wlad y Basg, felly rydym yn cadw llygad manwl ar beth sy'n digwydd yno i weld a allwn ddysgu o'u henghreifftiau hwy.