Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 21 Tachwedd 2018.
A gaf fi gofnodi fy niolch diffuant i glercod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad am eu gwaith caled drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Mae creu'r diwylliant iawn mewn unrhyw weithle yn hanfodol i amgylchedd gwaith addas ac effeithiol, a chredaf fod pob plaid yn y Siambr hon yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd o'r fath. Felly, rwy'n falch o fod wedi eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n gobeithio y daw cyhoeddi'r adroddiad hwn â ni gam yn nes at hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch o fewn y Cynulliad.
Credaf fod hwn yn adroddiad da, ac felly rwy'n siomedig, wrth ymateb i'r adroddiad hwn, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad i'r Prif Weinidog gyfeirio cwynion yn ymwneud â Gweinidogion y Llywodraeth at swyddfa'r comisiynydd safonau fel y gall y comisiynydd adrodd wrth y corff perthnasol yn sgil hynny. Yn anffodus, rwy'n credu bod gwrthod yr argymhelliad hwn yn cyfleu'r neges fod un rheol i Aelodau'r Cynulliad ac un rheol i Weinidogion y Llywodraeth, ac i fod yn gwbl onest, nid wyf yn meddwl y bydd hynny'n plesio pobl Cymru. Rhaid i'r Cynulliad wneud popeth yn ei allu i ennyn hyder y cyhoedd yn ei weithdrefnau, a chredaf fod Llywodraeth Cymru, drwy wrthod yr argymhelliad hwn, yn cyfleu neges y bydd y Prif Weinidog yn ymdrin â'i gylch mewnol ei hun y tu ôl i ddrysau caeëdig ac i ffwrdd oddi wrth unrhyw graffu annibynnol.
Mae rhesymeg Llywodraeth Cymru dros wrthod yr argymhelliad yn egluro, lle mae'n amlwg fod Gweinidog yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o'r Cynulliad pan ddigwyddodd y camymddygiad honedig, y byddai'r Prif Weinidog yn yr amgylchiadau hynny, yn ei hystyried yn briodol i'r comisiynydd safonau ymdrin â'r mater. Wel, does bosib nad yw Gweinidogion Llywodraeth yn Weinidogion Llywodraeth drwy'r amser. Credaf y bydd pobl Cymru'n cael trafferth deall pa bryd y bydd Gweinidog wedi clocio allan, fel petai, ac ond yn gwneud ei waith yn ei rôl fel Aelod Cynulliad. Yn sicr, byddai'n haws i'r cyhoedd ddeall pe bai cwynion ac ymchwiliadau cychwynnol yn cael eu trin gan y comisiynydd safonau annibynnol. Yn ddi-os bydd Llywodraeth Cymru'n dadlau nad yw hynny'n wir mewn seneddau eraill, ond nid oes raid i'r Cynulliad ddilyn deddfwrfeydd eraill bob amser. Nid oes unrhyw beth i'n hatal rhag gosod ein hagenda ein hunain ar y mater hwn.
Nawr, un o elfennau'r adroddiad yw sicrhau bod unigolion yn teimlo wedi'u grymuso i gyflwyno pryderon neu gwynion. Fel pwyllgor, gwn ein bod wedi clywed tystiolaeth ar y mater hwn. Y neges amlwg a gafwyd oedd nad oedd y diwylliant presennol yn ddigon cefnogol i achwynwyr na'n annog pobl i gyflwyno cwynion a phryderon. Mewn ymateb i hynny, gwn fod Comisiwn y Cynulliad wedi rhoi camau ar waith ar unwaith i ddiweddaru ei wefan i geisio ei gwneud yn haws i bobl ddeall a dod o hyd i'w ffordd drwy'r broses gwyno. Ond wrth gwrs, mae angen gwneud llawer mwy.
Mae'r llinell gymorth gyfrinachol a chyfres o bosteri yn cael eu harddangos bellach ledled ystâd y Cynulliad. Unwaith eto, mae'r camau gweithredu hynny hefyd i'w croesawu'n fawr iawn. Mae hefyd yn dda gweld y bydd y prosesau presennol yn cael eu monitro'n rheolaidd drwy gyfrwng ymarfer cwsmer cudd i bennu a yw'r deunydd presennol ar sut i wneud cwyn yn effeithiol, yn hawdd eu deall ac yn ymarferol wrth symud ymlaen. Mae'r camau hyn yn bwysig er mwyn dangos ymrwymiad y Cynulliad i sicrhau bod achwynwyr yn ymwybodol o sut y gallant wneud cwyn a sut i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r broses.
Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd, mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn galw am ddatblygu pecyn adrodd ar-lein i alluogi pobl i roi gwybod am achosion o ymddygiad amhriodol—yn ddienw neu drwy ddatgeliad gan roi enw. Rwy'n deall y sensitifrwydd ynglŷn ag adrodd yn anhysbys, ond clywodd aelodau'r pwyllgor fod Prifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith arloesol yn y maes hwn ac felly mae'n dda gweld Comisiwn y Cynulliad yn myfyrio ar lwyddiannau gwaith gan sefydliadau eraill ar hyn.
Rwy'n sylweddoli fod swyddogion cyswllt eisoes wedi'u sefydlu, fel yr amlinellir yn y polisi urddas a pharch a chanllawiau cysylltiedig, ac mae ganddynt rôl i adrodd achosion yn ddienw i'r pennaeth adnoddau dynol, a fydd wedyn yn monitro, yn cofnodi ac yn adrodd ar batrymau ymddygiad. Fodd bynnag, deallaf y bydd y Comisiwn yn dymuno cael cyngor pellach ar hyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd cyn dod i gasgliad cadarnach ar adrodd dienw, pan fydd y prosesau hynny wedi cael cyfle i ddatblygu. Wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall Cadeirydd y pwyllgor gadarnhau a fydd y pwyllgor yn dychwelyd at y mater penodol hwn maes o law.
Yn olaf, Lywydd, nododd y pwyllgor y cyfryngau cymdeithasol fel maes lle y ceir lefelau cynyddol o ymddygiad amhriodol, ac yn yr oes dechnolegol brysur hon, mae'n hollbwysig fod seneddau'n ymateb i fygythiadau ar-lein. Mae pawb ohonom yn gwybod bod manteision enfawr i'r cyfryngau cymdeithasol—sef rhannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd ac ymgysylltu ag etholwyr—ac rwy'n falch fod y pwyllgor yn gweithio i ddatblygu canllawiau ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a'i fod yn bwriadu sefydlu cysylltiad llawer mwy amlwg rhwng yr hyn sy'n dderbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r cod ymddygiad. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am y datblygiadau hynny wrth iddynt digwydd.
I gloi, mae'n hanfodol fod pob Aelod yn deall o ddifrif pa mor bwysig yw'r ymchwiliad hwn a bod camau cadarn yn cael eu cymryd a'u hadolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn creu diwylliant sy'n grymuso pobl i roi gwybod pan fyddant yn tystio i, a/neu'n dioddef ymddygiad amhriodol. Rhaid i'r Cynulliad fel sefydliad edrych tua'r dyfodol, a bod yn flaengar ac yn barod i fynd i'r afael â'i wendidau. Felly, rwy'n annog pob aelod yn y Siambr hon i gefnogi pob un o argymhellion y pwyllgor ac ymrwymo i sefydlu proses gwyno sy'n deg, yn dryloyw ac yn addas at y diben. Diolch.