6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 21 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:56, 21 Tachwedd 2018

Rwyf i am bigo i fyny ar yr hyn yr oedd Helen Mary Jones yn ei ddweud, ac eraill, yn cyfeirio at y cydbwysedd grym—y power balance yma—a sut mae yna anghydbwysedd nid yn unig o fewn y diwylliant sydd yn bodoli yn y maes yna, ond o fewn rhai o'r rheolau sydd gennym ni yma yn y maes yma hefyd, a sut mae angen newid rhai o'r rheolau hynny er mwyn rhoi neges glir ein bod ni'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd yna, a'n bod ni yn cyflwyno gwell cydbwysedd rhwng rhywun sydd yn dod â chŵyn a rhywun sydd yn cael cwyn yn ei erbyn e neu hi. Nawr, nid yw hynny i ddweud ein bod ni'n lleihau'r amddiffyniad a'r tegwch i rywun sydd â chŵyn yn ei erbyn e neu hi, ond yn grymuso'r unigolion hynny sydd eisiau dod â chŵyn. 

Mi roddaf gwpwl o enghreifftiau yn yr ychydig funudau rydw i eisiau eu cyfrannu i'r ddadl yma. Petai yna rywun yn dod â chŵyn yn fy erbyn i, a bod y comisiynydd safonau a'r pwyllgor safonau yn dod i benderfyniad bod y gŵyn yn un ddilys, yna byddai gen i hawl i apelio. Os ydy'r comisiynydd a'r pwyllgor yn dod i gasgliad nad yw hi'n gŵyn ddilys, nid oes gan yr achwynydd ddim hawl i apelio. I fi, mae hynny'n anghytbwys ac yn annheg. Mae'n rhaid i gŵyn gael ei gwneud o fewn blwyddyn, ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod pobl sydd efallai wedi dioddef ddim yn barod i ddod â chŵyn mewn 12 mis. Mae'n cymryd llawer, llawer yn hirach iddyn nhw wneud hynny, ond ar ôl 12 mis, dyna fe—beth allwch chi wneud? Felly, mae angen newid hynny er mwyn grymuso unigolion. Fe fyddwn i'n mynd mor bell â dweud bod dim angen amserlen o gwbl, oherwydd rŷm ni'n gweld nawr sut mae rhai achosion hanesyddol—ddegawdau wedyn, efallai—yn dod i'r amlwg. Felly, rydw i'n meddwl bod angen edrych ar hynny hefyd. 

Mae yna sefyllfa hefyd, wrth gwrs, lle petawn i ddim bellach yn Aelod Cynulliad, yna ni fyddai modd dod â chŵyn yn fy erbyn i, ond beth sy'n digwydd wedyn os ydw i'n cael fy ailethol mewn rhai blynyddoedd yn ôl i'r Cynulliad? Wel, mae'r amserlen wedi gor-redeg, ac felly allwch chi ddim dod â chŵyn. Felly, mae yna lawer o bethau sylfaenol y dylem ni fod yn edrych arnyn nhw er mwyn cael gwell cydbwysedd o fewn y cydbwysedd grym yna rŷm ni'n sôn amdano fe.

A'r unig bwynt arall y byddwn i'n awyddus i'w wneud yw rydw innau hefyd yn gresynu, yn synnu ac yn rhwystredig eithriadol bod y Prif Weinidog wedi ymateb fel y mae e i'r awgrym y dylai'r comisiynydd safonau fod â rôl o fewn edrych ar y cod gweinidogol. Rydw i'n gwybod y byddai hynny'n golygu newid deddfwriaethol ac yn y blaen. Rydw i'n gwybod y byddai fe'n ei gwneud hi'n haws i bobl ddeall y gyfundrefn ond, yn bwysicach na dim, mi fyddai'n ei gwneud hi'n haws i bobl sydd â chŵyn i wybod lle i fynd. Oherwydd dychmygwch chi'r sefyllfa lle mae rhywun, ar ôl gwewyr eithriadol, wedi penderfynu, 'Rydw i yn mynd i ddod â chŵyn', yn mynd at y comisiynydd safonau ac, wrth gwrs, yn cael ar ddeall, 'O, na, allwch chi ddim dod atom ni, mae'n rhaid i chi fynd i rywle arall.' Wel, pa fath o neges—? Rydw i'n gwybod y byddai'r comisiynydd safonau yn gwneud hynny mewn modd sensitif a chyfrifol, ond mae e'n rhwystr arall i unigolyn deimlo eu bod nhw'n gallu dod â chŵyn, ac rydw i yn gresynu bod y Prif Weinidog yn teimlo—.

Wrth gwrs, fe fyddai'n dal i wneud y penderfyniad terfynol. Nid oes neb yn awgrymu bod unrhyw rym yn cael ei gymryd oddi ar y Prif Weinidog, ac mae'n berffaith iawn mai'r Prif Weinidog fyddai'n cael gwneud y penderfyniad yna—wrth gwrs ei fod e. Ond beth a fyddai fe'n ei olygu fyddai bod y broses honno o ymchwilio i mewn i gŵyn yn cael ei chymryd allan o ddwylo'r Llywodraeth i fod yn gwbl annibynnol—oherwydd mae yna gwynion ac mae yna amheuon, ac efallai mai canfyddiadau anghywir ŷn nhw, nad yw'r broses yna yn gwbl annibynnol—ond mi fyddai'n rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd fod y broses yn annibynnol. Ac yn yr un modd ag y mae'r comisiynydd safonau yn dod wedyn ag adroddiad i'r pwyllgor safonau yng nghyd-destun y cod ymddygiad Aelodau, mi fyddai'r adroddiad hwnnw'n mynd i'r Prif Weinidog yng nghyd-destun y cod gweinidogol er mwyn i'r Prif Weinidog ystyried y dystiolaeth a dod i'w gasgliad ei hunan a dod i'w benderfyniad ei hunan. Felly, mae unrhyw awgrym bod grym yn cael ei gymryd oddi ar y Prif Weinidog yng nghyd-destun y cod gweinidogol yn gamarwain llwyr ac yn anfon yr union negeseuon anghywir rŷm ni'n trio eu taclo a'u herio yn y ddadl yma y prynhawn yma. Felly, mi fyddwn i'n ategu yr alwad ar unrhyw ddarpar Brif Weinidog i fod yn barod i ymrwymo i edrych eto ar hyn. Oherwydd os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chreu y diwylliant rŷm ni am ei weld, yna y camau yma yw'r peth lleiaf y gallem ni fod yn eu cyflawni.