Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 21 Tachwedd 2018.
A gaf fi groesawu'r ddadl hon ar adroddiad y pwyllgor safonau, 'Creu'r Diwylliant Cywir', ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd a'r aelodau am gynnal yr ymchwiliad a chynhyrchu'r adroddiad hwn gydag argymhellion rwy'n eu cefnogi?
Mae'n briodol cynnal y ddadl hon yn ystod wythnos y rhuban gwyn, a wisgir gennym i gydnabod yr ymdrech barhaus i ddileu trais yn erbyn menywod. Fel y clywsom ddoe, mewn ymateb i fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog, dyma sgandal y byd modern yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae gennym gyfrifoldeb mewn llywodraeth—yn lleol a chenedlaethol—ac fel cynrychiolwyr etholedig, ac fel unigolion yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, i ymateb i'r sgandal hon.
Yn ddiweddar cawsom ddadl 'A yw Cymru'n Decach?', adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018 lle y gwnaed pwyntiau sy'n berthnasol i'n dadl heddiw, gyda datganiad a oedd yn dweud, ac roedd y Cadeirydd hefyd yn ailadrodd hyn:
Mae #MeToo wedi taflu goleuni ar brofiad menywod a merched o lefelau uchel o drais a gwahaniaethu sy'n cael eu derbyn yn rhy barod fel rhan o fywyd.
Rwy'n credu bod Angela Burns wedi gwneud pwynt grymus iawn ddoe ar hyn.
Nododd maniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod fod 55 y cant o ferched saith i 21 oed yn dweud bod stereoteipio ar sail rhyw yn effeithio ar eu gallu i leisio eu barn, a bod 52 y cant o fenywod yn dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu yn y gweithle. Credaf fod y pwynt hwnnw am effeithio ar y gallu i ddweud eu barn mor bwysig.
Mae Cadeirydd y pwyllgor safonau yn tynnu ein sylw at y dystiolaeth a gafwyd gan y pwyllgor ac adroddiadau yn y cyfryngau sy'n awgrymu bod nifer o achosion o aflonyddu rhywiol wedi digwydd yn y Cynulliad, a bod y rhain heb gael eu hadrodd yn ffurfiol. Mae'n gywilydd nad yw unigolion yn teimlo y gallent wneud y cwynion hyn ac mae'n dangos nad yw ein diwylliant yma yn y Senedd hon yn iawn. Rhaid inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael â hyn yn awr.
Mae maniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn dweud
'Rydym yn deall bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn achos ac yn ganlyniad trais yn erbyn menywod a merched. Er mwyn atal trais gwyddom fod angen inni addysgu, herio a newid ein diwylliant a'n cymdeithas anghyfartal.'
Mae hynny'n golygu bod rhaid inni herio ein hunain. Rydym wedi cael yr hyfforddiant parch ac urddas, do—rwy'n gobeithio ei fod wedi treiddio trwy'r sefydliad hwn ac ar gael i dimau'r Comisiwn a Llywodraeth Cymru, o ran ble y mae gan bobl bŵer dros bobl eraill. Lle y caiff pŵer ei arfer a'i gamddefnyddio yw lle y gall y diwylliant fynd cymaint o chwith.
Ceir nifer o argymhellion gyda llinell amser, ac rwy'n croesawu hynny, ond rhaid inni fod yn wyliadwrus wrth ddilyn yr amserlenni hynny a monitro eu cyflawniad, o'r pump sydd i'w cyflawni ar unwaith—ac mae hynny'n golygu ar unwaith—drwodd i fis Rhagfyr a'r gwanwyn.
Rwyf am orffen drwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb menywod, sydd wedi cyfarfod ddwywaith ers ei sefydlu ym mis Mai. Yn ei gyfarfod cyntaf, clywsom gan yr Athro Laura McAllister ar 'Senedd sy'n gweithio i Gymru', gydag ymateb cadarnhaol gan y menywod a fynychodd, gan gynnwys sefydliadau allanol megis y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Chwarae Teg, Women Connect First, Sefydliad y Merched a Soroptimist International, a oedd yn cymeradwyo ei argymhellion yn llawn mewn perthynas â rhannu swyddi a chynrychiolaeth 50:50 i fenywod i'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru.
Dilynwyd hyn gan sgwrs gan Jess Blair o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar eu hadroddiad, 'Lleisiau newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru', a oedd hefyd yn cefnogi'r angen i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad. Mae hyn yn arbennig o berthnasol heddiw, wrth i ni nodi 100 mlynedd ers pasio Deddf Senedd y DU (Cymhwyster Menywod) 1918, lle y gallai menywod sefyll etholiad i'r Senedd yn gyfreithiol. Mae hyn yn cael ei ddathlu yn San Steffan, fel y gwelwn.
Rydym yn awr yn cynnal grŵp trawsbleidiol ar y cyd gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant ochr yn ochr â'n grŵp newydd ar gydraddoldeb menywod, gan gryfhau cefnogaeth drawsbleidiol i, a dealltwriaeth o'r materion rydym yn eu trafod yr wythnos hon. Yn yr hyn sydd i raddau helaeth, yn anffodus, yn Siambr bron yn wag heddiw, ni allwn adael pethau gyda'r ddadl hon yn unig—rhaid iddo dreiddio drwy bopeth a wnawn yn y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru.
Ychydig wythnosau yn ôl, croesewais arolwg barn a dynnodd sylw at gefnogaeth y cyhoedd i ddefnyddio deddfwriaeth er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Cynulliad hwn. Fel ysmygu mewn mannau cyhoeddus, credaf fod y cyhoedd ar y blaen inni mewn llawer o ffyrdd, ac eto rydym yn tueddu i feddwl ein bod mewn lle da yn y Cynulliad hwn. Nid ydym yno eto ar y materion hyn. Yn ystod ein gwaith craffu fel cyd-bwyllgor ar yr asesiadau effaith cydraddoldeb yr wythnos diwethaf, clywsom dystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac roeddent yn dweud bod cyffredinolrwydd normau rhywedd cymdeithasol mewn addysg a chyflogaeth, a'r profiadau o aflonyddu a thrais, yn rhwystro'r cynnydd hwn yng nghydraddoldeb menywod.
Gallwn dderbyn yr argymhellion heddiw, ac yn amlwg, mae llawer i'w drafod o ran goblygiadau'r rheini a chan Lywodraeth Cymru. Gallwn eu datblygu, ond credaf hefyd fod angen inni ystyried polisi a deddfwriaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith yma, gan gynnwys deddfwriaeth i newid y Cynulliad hwn i adlewyrchu'r Gymru rydym yn ei chynrychioli. A dylem ystyried hyn os ydym o ddifrif yn awyddus i adlewyrchu cryfder a dewrder y swffragetiaid ganrif yn ôl, a dilyn eu harweiniad gyda gweithredoedd ac nid geiriau'n unig. Rhaid i hyn gynnwys, os oes angen, deddfwriaeth i helpu i greu'r diwylliant cywir wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru.