Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Rydw i'n gwisgo sawl het heddiw. Rydw i'n byw mewn pentref gwledig lle mae'r ysgol wedi bod o dan fygythiad yn ddiweddar. Rydw i'n gyn-aelod o'r Pwyllgor Deisebau. A fi ydy Aelod Cynulliad y rhai a drefnodd y ddeiseb yma, rhieni a chefnogwyr Ysgol Gymuned Bodffordd, sy'n ddidwyll ac yn onest yn brwydro'n galed iawn i achub eu hysgol.
Tri deg un o blant oedd yn fy ysgol gynradd gyntaf i. Yn yr ail, mi oedd yna dros 200. Roedden nhw'n ysgolion da, ond mae'n rhaid i fi ddweud hynny, gan mai dad oedd y pennaeth. Mi aeth fy mhlant i ysgol gynradd ddinesig efo 350 o blant yn gyntaf, ac yna i ysgol o ychydig o dan 100 o blant yn Ynys Môn. Felly, pedair ysgol wahanol iawn, ond profiad positif o addysg yn y pedair. Felly, fel cefndir i'r drafodaeth yma, a gaf i ddweud nad ydw i'n derbyn dadleuon bod rhaid i ysgol fod yn fawr er mwyn cynnig profiad addysg gynradd effeithiol, ac nid ydw i chwaith yn prynu'r dadleuon bod plant yn hapusach, o reidrwydd, mewn ysgol fach wledig? Rydw i'n grediniol bod modd darparu addysg gynradd safonol a gofalgar beth bynnag ydy maint yr ysgol.
Ac eto, rydym ni'n gweld symudiad amlwg ar draws Cymru tuag at gau ysgolion bach gwledig. Y broblem sydd gennym ni, mae gen i ofn, ydy problem ariannol a phroblem staffio. Mae llawer o'n hysgolion cymharol fach ni yng nghefn gwlad yn hen neu'n heneiddio. Maen nhw'n gyffredinol ddrud i'w cynnal a'u cadw. Maen nhw'n ddrud i'w staffio wedyn, os ydy'r ratios staff i ddisgyblion yn fach. Hefyd ar yr ochr staffio, mae arweinyddiaeth yn broblem. Yn llawer rhy aml, mae'n anodd iawn penodi pennaeth mewn ysgol fach wledig. Ar ben hynny, mae'r naratif ehangach yma fod ysgol fwy yn gyffredinol yn well, a chyfuniad o'r pethau yma, rydw i'n meddwl, sy'n gwneud i gynghorau deimlo nad oes ganddyn nhw fawr o ddewis ond rhesymoli neu ad-drefnu neu foderneiddio eu rhwydweithiau ysgolion. A waeth i mi fod yn onest: mae'r gost yn ffactor mor flaenllaw ym mhopeth yn y dyddiau yma o lymder. Ond beth am werth yr ysgol fel adnodd cymdeithasol? Ac nid ydw i'n sôn yn angenrheidiol am y neuadd ysgol yn cael ei defnyddio bob nos ac ati, er bod hynny'n digwydd mewn llawer o lefydd, ond sôn ydw i am yr ysgol fel glud cymunedol, a dyna ddod â ni at y ddeiseb yma.
Mae'r deisebwyr ym Môn wedi cael gobaith bod yna fodd i warchod y glud cymunedol yna. Mae'r gobaith yn dod ar ffurf cod diwygiedig Llywodraeth Cymru, y cod diwygiedig a ddaeth i rym ar y cyntaf o'r mis yma, sy'n cyflwyno rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Rydw i'n cytuno efo'i gynnwys e, gyda llaw; nid oes gen i ddim problem. Beth mae o'n ei ddweud ydy bod angen i awdurdod lleol brofi eu bod nhw wedi ystyried opsiynau eraill cyn cau, eu bod nhw wedi mynd drwy amrywiol brosesau manwl cyn penderfynu cau. Beth sydd yma ydy canllawiau i awdurdodau i'w dilyn wrth lunio cynnig ac wrth wneud y penderfyniad i gau. I ddyfynnu eto:
'Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau.'
Felly, gadewch i mi fod yn glir: nid oes mesurau penodol i gadw ysgolion gwledig ar agor mewn statud, a siawns mai mesurau penodol, gan gynnwys adnoddau, sydd eu heisiau.
Eto, rydw i'n pwysleisio fy mod i'n cytuno efo beth mae'r cod yn ei ddweud. Mae o'n mynnu ystyried ffederaleiddio, a rhag ofn bod gwerth i fy marn i ar hyn, rydw i'n credu y dylid gwneud popeth i gadw ysgol yn ei chymuned. Rydw i'n ffafrio, yn bersonol, ysgolion ardal aml-safle, lle mae nifer o ysgolion yn dod at ei gilydd o dan un pennaeth, o dan un corff llywodraethol. Ond rydw i'n gwybod yn iawn nad yw hyn yn cynnig y math o arbedion ariannol y mae'n rhaid i gynghorau eu gwneud y dyddiau yma oherwydd llymder. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod costau uwch darparu addysg mewn ardal wledig, os am wneud hynny'n rhagorol, a rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i awdurdodau sy'n gwasanaethu ardaloedd gwledig i ddarparu system addysg sy'n gweddu i'w cymunedau gwledig nhw.
Mae yna grantiau ysgolion gwledig ar gael, ond nid ydyn nhw'n ddigon: £2.5 miliwn y flwyddyn. Yn ôl y Llywodraeth, mae yna dros 300 o ysgolion wedi elwa yn y flwyddyn gyntaf—rhyw £8,000 yr ysgol ydy hynny. A thra fy mod i'n croesawu unrhyw arian ychwanegol, nid ydy hwnnw y math o arian sy'n gallu cadw ysgol ar agor. Mae'r Llywodraeth yn dweud—ac wedi dweud mewn ateb i gwestiynau gen i—bod modd i awdurdodau wneud ceisiadau am arian o'r cynllun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond y gwir amdani ydy ei bod hi'n haws cyfeirio'r arian hwnnw o'r gronfa benodol honno at adeiladu ysgolion newydd mwy. Ond os nad ydy'r arian gennych chi, Lywodraeth Cymru, byddwch yn onest, a pheidiwch â phasio'r bai i gyd i lywodraeth leol. Mae eisiau cydweithio yn fan hyn.
Felly, i grynhoi, mae cau rhai ysgolion yn anochel, rydw i'n meddwl. Pan fo ysgol i lawr i ddwsin neu ddau o blant, rydw i'n meddwl ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i beth sy'n gynaliadwy. Ond os ydy'r Llywodraeth o ddifri bod yna werth cynhenid i ysgol fach wledig, wel, helpwch ein hawdurdodau lleol ni. Fel arall, nid oes gan Ynys Môn, na'r un awdurdod arall, ddewis ond parhau i chwilio am ffyrdd i ddarparu addysg ragorol mewn ysgolion mwy, rhatach, yn hytrach na cheisio darparu addysg ragorol mewn ysgolion gwledig llai, fel rydw i'n gwybod sy'n berffaith, berffaith bosib.