1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018, 'A yw Cymru'n decach?'? OAQ52990
Diolch am y cwestiwn yna. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr adroddiad, sy'n cynnig tystiolaeth werthfawr i gefnogi ymdrechion ein holl gyrff cyhoeddus i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chomisiynydd Cymru i drafod yr heriau a nodwyd, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried yr argymhellion yn eithaf manwl ar hyn o bryd.
Arweinydd y tŷ, mae dewis gwleidyddol Llywodraeth Dorïaidd y DU o gyni cyllidol yn achosi mwy a mwy o ofid a chaledi i'n cymunedau—tlodi cynyddol, digartrefedd a chysgu ar y stryd, ciwio mewn banciau bwyd, salwch meddwl a chorfforol. Hyn i gyd ym mhumed economi fwyaf y byd. Mae'r Athro Philip Alston, adroddwr y CU ar dlodi a hawliau dynol, newydd gyhoeddi adroddiad, sy'n hollol ddamniol, ynghylch natur ddideimlad ac angharedig polisïau Llywodraeth y DU, gan wneud i'r rhai sy'n agored i niwed dalu'r pris am ei methiannau. Ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar degwch yng Nghymru, sy'n dangos gwahaniaethu ac anfantais yn taro cymunedau tlotach, pobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n rheoli llawer o'r dulliau ar gyfer datrys y sefyllfa hon, ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau allweddol hefyd. Felly, arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach nawr sut y gall hi sicrhau'r pwyslais mwyaf manwl posibl ar fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau penodol, monitro a gwerthuso ar waith, ac ystyried ymhellach y materion yn yr achos dros ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles, o ystyried effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?
Mae swyddogion yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad ac yn fanwl iawn—y pwyslais mwyaf manwl posibl, fel y mae John Griffiths yn ei ddweud—gyda golwg iddo gael ei gyfrannu at fersiwn nesaf ein cynllun cydraddoldeb strategol, ac, yn wir, yn y ffordd yr oedd y cynllun cydraddoldeb strategol blaenorol yn seiliedig ar yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' blaenorol. Rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio ar y cyd â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hynny o beth. Rwyf i hefyd wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion eraill o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gyda'm bwrdd rheoli, er enghraifft, yn fy nghyfrifoldebau portffolio, yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i fynd ar drywydd rhai o'r data sydd eu hangen arnom ni, er mwyn gallu bwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny.
Mae adroddiad yr Athro Philip Alston yn adleisio'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud o'r cychwyn bod tystiolaeth gref gan amrywiaeth o sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys pwyllgorau seneddol a Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel y dywedodd John Griffiths, bod y DU yn gwbl benderfynol o gyflwyno ei pholisïau diwygio lles a threthi niweidiol, sy'n gwbl atchweliadol, ac yr ydym ni'n eu gresynu. Mae gennym ni nifer o fesurau y gallwn ni eu rhoi ar waith i geisio lleddfu'r rheini, ond, yn anffodus, nid yw'r ysgogiadau ar gael i ni gael gwared arnyn nhw yn llwyr.
Hoffwn dynnu sylw at ddau beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, sef gwneud yn siŵr bod gwaith sy'n talu'n dda, drwy ein comisiwn gwaith teg, yn bendant ar frig yr agenda yng Nghymru, gan ein bod ni'n gwybod mai dyna'r llwybr gorau allan o dlodi, a hefyd sicrhau bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cymryd anghenion y bobl hynny â'r holl nodweddion gwarchodedig i ystyriaeth. Felly, ein hymgynghoriad diweddar ar gyfer gweithredu ar anabledd, er enghraifft, sy'n dal ar agor—a byddwn yn annog yn bendant bod holl Aelodau'r Cynulliad, Llywydd, yn ymateb iddo.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn. Fodd bynnag, canfu adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?', mewn prentisiaethau, bod gwahanu cryf ar sail rhyw yn parhau, bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a bod cynrychiolaeth pobl anabl yn arbennig o isel. Beth mae'r Prif Weinidog dros dro—eich Llywodraeth chi—yn ei wneud i fynd i'r afael â gwahanu ar sail rhyw ac i hybu rhagolygon cyflogaeth lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl drwy'r system brentisiaeth yn y wlad hon?
Rydym ni wedi penodi hyrwyddwr cydraddoldeb i weithio gyda'n darparwyr prentisiaeth er mwyn gwneud hynny, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n cael cynrychiolaeth dda iawn o'r holl grwpiau nodweddion gwarchodedig yn arbennig. Mae mater cymdeithasol ehangach ar waith o ran gwahanu ar sail rhyw, felly rydych chi'n gweld llawer iawn mwy o fenywod mewn lleoliadau cymdeithasol, llawer iawn mwy o ddynion mewn lleoliadau peirianneg caled, ac mae hwnnw'n ddarlun cymdeithasol eang ar draws cymdeithas y DU. Rydym ni wedi bod yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd, a hoffwn dynnu sylw at yr ymgyrch Dyma Fi, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhyw, i geisio lledaenu'r neges y dylai pobl geisio fod y person y maen nhw eisiau ei fod ac nid rhywbeth sydd wedi'i bennu ymlaen llaw gan eu rhyw, yn arbennig, neu unrhyw nodwedd arall. Os nad yw'r Aelod wedi gweld yr ymgyrch honno, rwy'n ei hargymell iddo—bu'n un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yr ydym ni wedi eu cael o ran cyrhaeddiad. Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n galed iawn ar roi terfyn ar stereoteipio ar sail rhyw, ac felly anghydraddoldeb ar sail rhyw, o gymdeithas Cymru.