Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol, am y datganiad hwn, a hefyd am y sylwadau tuag at y diwedd ynghylch y ffaith na fydd y Bil hwn yn sefyll ar ei ben ei hun, heb ystyriaeth i wahaniaethau gwleidyddol o ran awdurdodaeth ac ati, fel na fyddwn yn mynd ar ôl yr ysgyfarnog honno yn ystod hynt y Bil hwn. Hefyd, rwy'n gobeithio na fydd ots gennych chi, ond nid wyf i mewn sefyllfa i ateb yr union gwestiwn yr ydych chi wedi ei ofyn i ni fel Aelodau Cynulliad, ynglŷn ag unrhyw gyngor y gallwn ei gynnig i chi o ran sut i ailddatgan deddfwriaeth yn ddwyieithog. Ond pan fydd hyn wedi bod drwy gamau pwyllgor, rwy'n siŵr y byddwn yn gallu bod o gymorth i chi yn hynny o beth.
Ydych, rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod llyfr statud y DU yn anferthol ac yn anhylaw, ac rwy'n cytuno â chi, a dyna pam yr wyf i, ac Aelodau Cynulliad eraill yn y gorffennol, wedi bod yn awyddus iawn i gael cyfraith yng Nghymru sy'n cydgrynhoi, hyd yn oed os na chawsom ein ffordd ar sawl achlysuron—rwy'n meddwl am gartrefi mewn parciau a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Ond rydym wedi methu darbwyllo Llywodraeth Cymru yn y gorffennol hefyd i gyfeirio at statudau eraill o fewn ei Biliau ei hun, lle mae cyfeiriadau o'r fath yn angenrheidiol i ddeall y Biliau hynny. Felly, er enghraifft, gellir cynnwys diffiniad mewn Bil yng Nghymru drwy gyfeirio at ei fodolaeth mewn gwahanol Fil. Mewn gwirionedd, mae gennym sefyllfa sy'n codi yfory gyda'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) lle mae honno'n ffordd bosibl o ddatrys problem.
Felly, os caf i, rwyf am ddechrau gyda chwestiwn o ddiffiniadau, o godeiddio a hyd yn oed o gydgrynhoi, oherwydd i mi, ystyr codeiddio yw ymgorffori cyfraith gyffredin mewn statud a luniwyd drwy benderfyniadau barnwrol. Ond mae'n ymddangos i mi ei fod yn golygu rhywbeth arall yn y cyd-destun hwn, ychydig yn fwy tebyg i'r gyfraith Rufeinig, sy'n synhwyrol iawn, yn trefnu'r gyfraith o dan benawdau fesul pwnc, os mynnwch chi. Felly, a ydych yn cytuno gyda grŵp cyfraith Bangor y dylai'r Bil—nid 'Bangalore', ond 'Bangor law'—y dylai'r Bil gynnwys diffiniad o godeiddio a chydgrynhoi yn benodol i osgoi'r math o ansicrwydd yr wyf i wedi cael fy mwrw iddo eisoes?
Rwy'n llwyr gefnogi'r ail-wneud, neu'r ailddatgan hefyd, o'r gyfraith bresennol ar ffurf hygyrch gyfoes a dwyieithog. Mae hyn yn golygu ailddatgan y gyfraith bresennol, gan ei dehongli o dan ddeddfwriaeth hŷn o 1978, rwy'n credu, onid e? Ac, wrth gwrs, nid bwriad y Bil hwn yw cael effaith ar neu danseilio unrhyw beth, na'r ffordd y caiff ei ddehongli eisoes. Felly, sut allwch chi ein sicrhau ni pe bawn yn—esgusodwch fi am bortreadu fel hyn—ond pe bawn yn torri a gludo o gyfreithiau eraill ac yn rhoi hynny yn ein cyfraith ein hunain, sut allwn ni fod yn siŵr na fydd yr ystyr na'r ddealltwriaeth yn cael eu colli neu'n newid o ganlyniad i'w cynnwys yn ein cyfraith bwrpasol ar gyfer Cymru, yr wyf i'n ei chroesawu? Oherwydd gallai'r geiriau a'r ymadroddion newid eu hystyr dros gyfnod o amser, ac os oes gennych chi ddwy Ddeddf ddehongli yn sefyll ochr yn ochr â'i gilydd, rwy'n siŵr ei fod yn fater yr ydych wedi ei nodi a'i ystyried eisoes, yn arbennig felly gan y bydd ein deddfau newydd yn cymryd y flaenoriaeth yn yr amgylchiadau hynny, mae'n debyg. Ac yna, i'r gwrthwyneb, os na fydd yn fater o dorri a gludo, sut allwn ni fod yn sicr y bydd yr ystyr wreiddiol a'r dehongliad gwreiddiol yn cael eu hail-greu'n llwyddiannus mewn unrhyw statudau newydd i Gymru gan ddefnyddio'r Ddeddf ddehongli newydd i Gymru?
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai diben Rhan 2 o'r Bil yw byrhau a symleiddio'r gyfraith, ac, wrth gwrs, rwy'n deall y ddadl dros hynny: mae'n hybu hygyrchedd, ac fe ddylem ni ddefnyddio iaith gyfoes pan nad yw hynny'n peri dryswch. Credaf mai hwn fydd eich cyfle chi, er enghraifft, i egluro ystyr y gair 'gall' mewn drafftio cyfoes. Rydych chi'n cyfeirio at hyn mewn rhan o'r drafft, ond nid y broblem benodol hon. Ond rydych chi'n derbyn hefyd fod gan y gair 'symleiddio' fwy nag un ystyr a bod yn rhaid inni fod yn ofalus o ran cydbwyso'r hyn sy'n haws i'w ddeall â'r problemau posibl sy'n codi yn sgil diffyg bod yn fanwl gywir? Sut ydych chi'n disgwyl rheoli hynny?
Dywedodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru wrthym ni yn eu tystiolaeth nad yw'r ddyletswydd sydd gan Lywodraeth Cymru i gadw cyfraith Cymru dan adolygiad wedi cael ei diffinio'n amlwg yn y Bil drafft. Nid yw'n mynegi'r hyn sy'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud i barhau i'w hadolygu, ac mae cwestiwn hefyd o ran ystyr 'codeiddio'. Mae'n dweud—ac rwy'n dyfynnu nawr—nad diben y ddeddfwriaeth yw dangos bwriadau da ac nid felly y dylai fod. Hoffwn weld y datganiad hwnnw ar grysau-t, a phosteri, a matiau llygoden, ac arbedwyr sgrîn ac ar dalcen eich anwylyd—unrhyw le, mewn gwirionedd, y gallai Ysgrifenyddion y Cabinet yn y lle hwn ei weld. Oherwydd dyma eich cyfle chi, Cwnsler Cyffredinol, i wella ansawdd ein statudau yn ogystal â'u hygyrchedd. Felly, a fyddwch chi'n defnyddio'r cyfle hwn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn symud oddi wrth y dewis arferol o Filiau tyllog sy'n mynegi bwriadau polisi, ond sydd yn gofyn am gnewyllyn sylweddol o reoliadau, yn ddarostyngedig i lawer llai o graffu, wrth gwrs, ar gyfer eu gwneud yn weithredol fel offerynnau cyfreithiol? Ac a fyddwch yn sicrhau bod hygyrchedd yn cynnwys y cysyniad o eglurder ynghylch yr hyn y dylai'r partïon a gaiff eu heffeithio ei wneud i gydymffurfio â deddfau amrywiol? Roeddwn yn falch iawn, wrth gwrs, o weld y ddarpariaeth ar gymalau machlud yn y Bil drafft, sy'n helpu i ddarparu ar gyfer hynny.
Dau gwestiwn arall, Llywydd. Eich sylwadau i gloi ar strwythur codau: beth yn hollol yr ydych yn ei olygu pan ddywedwch bydd angen amddiffyn y cyfreithiau hyn wedyn rhag unrhyw awydd gwleidyddol yn y dyfodol i lunio cyfraith nad yw'n ffitio'n strwythurol o fewn y codau newydd sydd wedi eu sefydlu ac mae gennym ni gyfrifoldeb ar y cyd i orfodi— ac fe wnaethoch chi ddweud 'gorfodi'— gweithrediad hynny?
Rwy'n deall ei fod yn ymwneud ag effaith ar hygyrchedd, ond mae gwir angen am eglurhad pellach, oherwydd ni ddylai unrhyw Lywodraeth geisio gorfodi'r ddeddfwrfa. I mi, mae'n gwbl ragweladwy y gallai'r statudau a luniwn yn y dyfodol groesi ffiniau eich tacsonomeg a ffitio dan fwy nag un pennawd. Felly rwy'n awyddus i gael cadarnhad na fydd unrhyw welliannau a gaiff eu cyflwyno i'r dyfodol i Filiau Llywodraeth Cymru gan y gwrthbleidiau yn cael eu gwrthod ar y sail eu bod nhw y tu allan i bennawd tacsonomeg penodol.
Yn olaf, bydd unrhyw statud wedi dyddio ar y diwrnod y caiff ei llunio—rydym i gyd yn gyfarwydd â hynny—felly beth yw eich barn ar sut y dylem ymdrin â'r hyn a arferai fod yn ddiweddariadau Noter-up—ond rwy'n credu mai LexisNexis a Lawtel ydyn nhw erbyn hyn—ar gyfer unrhyw newidiadau a wneir i ddeddfwriaeth, yr effeithir arnynt gan y Bil hwn? Sut fydden nhw'n ffitio yn eich cyfres chi o godau, os yw hynny'n gwneud synnwyr? Diolch.