Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Rwy'n diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau. Rwy'n gobeithio y byddaf yn llwyddo i ateb y rhan fwyaf, os nad pob yr un ohonyn nhw. Ar y cwestiwn ynglŷn â diffiniadau codeiddio a chydgrynhoi, diben y ddeddfwriaeth yn ei hanfod yw sicrhau cyfraith sy'n fwy hygyrch, a chredaf mai un o'r egwyddorion allweddol yma yw caniatáu i ddiffiniadau gael eu diffiniadau o'r geiriadur hyd y bo modd. Felly, rwy'n credu, yng nghyd-destun cydgrynhoi, mai fy marn i yw, fwy na thebyg, fod hynny'n ddigon dealladwy. Ar gwestiwn codeiddio, soniodd yr Aelod mai codeiddio'r gyfraith gyffredin yw'r math o batrwm sydd ganddi yn ei meddwl o bosib. Nid ydym ni, yn gyffredinol, yn sôn am godeiddio'r gyfraith gyffredin yn y fan hon. Efallai y bydd, ar yr ymylon, rai enghreifftiau lle bydd statud wedi cymryd ystyr penodol sydd wedi ei sefydlu'n gadarn yn y gyfraith gyffredin, ond nid dyma'r bwriad yn y fan hon o gwbl. Mae'n fater o godeiddio cyfraith statud.
Soniodd am y dacsonomeg, sy'n rhyw fath o ddogfen ar waith ar hyn o bryd i roi rhyw gipolwg o sut beth fyddai'r penawdau pynciau hynny. Ond diben sylfaenol cod o fewn unrhyw un o'r penawdau hynny fyddai cydgrynhoi'r ddeddfwriaeth sylfaenol ac wedyn cyhoeddi hynny, ynghyd ag is-ddeddfwriaeth wedi'i chydgrynhoi a chyfraith feddal a chanllawiau o fewn pob pennawd pwnc neilltuol. Felly, os hoffech chi, nid oes gan y cod unrhyw hunaniaeth gyfreithiol ar ei ben ei hun yn ôl y gyfraith; penllanw proses ydyw o gydgrynhoi a chydgyhoeddi, pe caf ei rhoi hi felly.
Mae'r pwynt a wnaeth hi ar y diwedd yn un pwysig iawn, a byddaf yn achub ar y cyfle a roddodd i egluro'r hyn yr wyf yn ei fwriadu yn hyn o beth. Y weithred o godeiddio yw'r cam cyntaf. Mae honno'n dasg enfawr ynddi ei hun, ond, yn amlwg, os yw cod yn mynd i gadw ei werth, mae angen iddo gael ei gadw fel cod. Felly pan gyflwynir deddfwriaeth i ddiwygio'r maes ar bwnc arbennig, y disgwyliad fyddai y byddai hynny'n digwydd o fewn y cod. Nawr, yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn ar gyfer Rheolau Sefydlog y Cynulliad, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ynglŷn â hynny. I fynd yn ôl at fater y diffiniad, bydd angen cael rhywfaint o eglurhad o fewn y Rheolau Sefydlog o ran pa fath o ddeddfwriaeth fydd yn mynd trwy unrhyw ddarpariaeth gydgrynhoi yma yn y Cynulliad. Yn y bôn, mae hynny'n fater ar gyfer gwaith y Cynulliad, mewn gwirionedd, yn hytrach nag unrhyw beth y tu hwnt i hynny. Ond credaf ei bod yn hanfodol inni gadw'r ffaith mewn cof mai'r cam cyntaf yw'r codeiddio, a thrwy gynnal y cod y cyrhaeddwn y man lle bydd y gwerth yn cronni gydag amser.